George Bettiss

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd George Bettiss yn ffigwr amlwg ym mywyd Caernarfon a Dyffryn Nantlle ar ddechrau'r 19g. Mab ydoedd i dafarnwr o'r un enw yng Nghaernarfon. O ran Dyffryn Nantlle, roedd yn bwysig yn bennaf am fod yn ffigwr dylanwadol yn niwydiant chwarelydda'r dyffryn a'i reilffordd gynnar, ac fel asiant lleol ystad Glynllifon o tua 1813 hyd y 1830au.

Bu'n tenant rhwng o leiaf 1808 ac 1813 ar Westy'r Sportsman yn Stryd y Castell, Caernarfon,[1] un o brif westai neu dafarnau'r dref lle cychwynnodd coetsis. Yn y Sportsman mewn dyddiau cynt yr arhosodd Dr Samuel Johnson a Mrs Thrale wrth ymweld â'r ardal.

Mae cyfeiriad at ryw "George Bettiss" yng Nghaernarfon fel tafarnwr ym 1787, pan gafodd ei ymrwymo i gadw'r gyfraith fel tafarnwr (neu victualler).[2] Fodd bynnag, ceir cyfeiriadau at "George Bettiss the younger, gent." mor gynnar â 1804[3] a dichon felly mae ei dad oedd y tafarnwr cyffredin yn y 1780au. Bu farw ei fam yn 88 oed 25 Mai 1837.[4]Mae cyfeiriadau ato fel "gŵr bonheddig" (gent.), sef rhywun oedd tipyn yn well na thafarnwr cyffredin yn parhau o 1804 ymlaen.[5] Mae cofnod o Mary Bettiss, plentyn George Bettiss yn cael ei chladdu ym Methesda ym 1789.[6]

O fis Mehefin 1812 ymlaen, bu'n bartner yn un o chwareli Dyffryn Nantlle, Chwarel Hafodlas ac o dipyn i ben fe a gymerodd y prif rôl yn rheolaeth y cwmni. Mae sôn ei fod wedi creu trafferth iddo fo ei hun a'r chwarel trwy beidio â bod yn rhy ofalus wrth gadw cyfrifon y chwarel[7]. Byddai diffygion yn ei ofal am gyfrifon yn ei ddal o allan mewn ffordd waeth o lawer maes o law. Roedd yn amheus ar y dechrau o adeiladu Rheilffordd Nantlle, ac nid Hafodlas oedd ymysg y chwareli cyntaf i ddefnyddio'r rheilffordd pan iddi agor ym 1828, er i lechi Hafodlas gael eu cludo ar hyd-ddi o Ionawr 1829 ymlaen.[8] Dichon mai oherwydd y ffaith nad oedd Ystad Glynllifon â diddordebau ym maes llechi'r dyffryn ac yntau'n asiant iddi y bu'n hwyrfrydig i groesawu'r rheilffordd i'r lle er iddo fod yn aelod o fwrdd y cwmni o'r dechrau, ac yn berthen ar 5% o'r cyfranddaliadau.[9]

Ym 1812, fe'i nodir fel rheolwr Neuadd y Dref yng Nghaernarfon.[10] a'r flwyddyn nesaf fe'i enwir fel un o aelodau pwyllgor Cymdeithas Caernarfon at Ymlyd a Chosbi Lladron.[11] Erbyn 1815, roedd wedi cymryd tenantiaeth Gwesty'r Uxbridge Arms o eiddo Ardalydd Môn, sef (mae'n bur debyg) Gwesty'r Sportsman, lle arhosodd tan efallai 1827.[12] Tra ei fod yno, ym 1821,tanysgrifiodd i arweinlyfr y Parch P.B. Williams, a ganmolodd y gwesty'n hael o fewn y cloriau![13]Erbyn Medi 1823, fodd bynnag, roedd wedi symud i dŷ nobl yng ngwaelod Stryd y Farchnad, sef Tower House, tŷ o eiddo'r Arglwydd Newborough[14] sy'n sefyll hyd heddiw.

Roedd yn ŵr priod, ac yn frawd yng nghyfraith i dwrnai amlwg o Gaernarfon, Henry Rumsey Williams, Penrhos, Caernarfon, twrnai lleol Arglwydd Newborough.[15] Dichon fod hyn wedi bod yn help mawr iddo sicrhau gwaith gan ystad Glynllifon.

Roedd George Bettiss hefyd yn asiant i Ystad Glynllifon a'r Arglwyddi Newborough,yn prynu nwyddau, ac edrych at faterion ynglŷn â thenantiaeth eiddo'r ystad yn y dref. Mae'n amlwg iddo gychwyn ar ei ddyletswyddau fel asiant gweithredol lleol i ymddiriedolwyr yr ystad tra oedd yr 2il Arglwydd o dan 21 oed, o 1813 ymlaen o leiaf.[16]Mae dwsinau o'i lythyrau at y 3ydd Arglwydd Newborough ymysg archifau Glynllifon yn Archifdy Gwynedd.[17] Erbyn 1832-3, fodd bynnag, roedd trafferthion wedi codi rhwng Bettiss a Newborough dros gywirdeb cyfrifon yr asiant, a chafodd rybudd i ymadael â Tower House fis Ionawr 1833.[18]

Bu farw ym 1839.[19]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Chwiliad trwy fynegai i bapurau newydd Gogledd Cymru ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru, [1]
  2. Archifdy Caernarfon, XQS/1787/125
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/6924
  4. North Wales Chronicle, 6.6.1837
  5. e.e.Archifdy Caernarfon XD2/5516
  6. Archifdy Caernarfon, Cofrestr Gladdu, 1789
  7. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), tt.76, 100, 107.
  8. G.H. Williams, Swn y Trên sy'n Taranu, (Caernarfon, 2018)t.9.
  9. Archifdy Caernarfon, XM/9309/4
  10. North Wales Gazette, 20.2.1812
  11. North Wales Gazette, 20.5.1813
  12. Archifdy Caernarfon X/POOLE/2543
  13. P.B. Williams, The Tourist's Guide through the County of Caernarvon (Caernarfon, 1821), rhestr danysgrifwyr
  14. Archifdy Caernarfon XD2/15459
  15. Carnarvon & Denbigh Herald, 20.2.1836
  16. Archifdy Caernarfon, XD2/15158
  17. Archifdy Caernarfon, XD2/passim.
  18. Archifdy Caernarfon XD2/17400
  19. Mynegai Marwolaethau Cymru a Lloegr, 1837-2007 (ar gael trwy Find My Past)