Geifr Gwylltion yr Eifl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ers canrifoedd lawer bu gyrroedd o Eifr Gwylltion yn crwydro ar lethrau'r Eifl.

Maent yn greaduriaid pur fawr ac yn llawer cryfach eu corffolaeth na'r geifr domestig a dof a welir mewn rhai ffermydd. Mae'r mwyafrif ohonynt o liw hufen neu frown golau er y ceir ambell un dywyllach yn eu plith ar brydiau. Gyda'u blew hirion a'u cyrn mawreddog mae'r bychod yn arbennig yn edrych yn drawiadol iawn. Maent o'r un hil â gyrroedd cyffelyb a welir mewn gwahanol fannau ar fynyddoedd Eryri, megis ar lethrau'r Wyddfa ac yng Nghwm Idwal. Rhaid cofio hefyd y bu cadw geifr yn bur bwysig mewn llawer o ffermydd mynydd yng Nghymru am ganrifoedd tan tua diwedd y 18g neu ddechrau'r 19g. Cedwid y rheini'n bennaf i gynhyrchu caws o'u llaeth a hefyd fel ffynhonnell o gig, a oedd yn cael ei halltu dros y gaeaf yn aml. Mae'n bosib iawn, wrth i lawer o ffermydd roi'r gorau i gadw geifr domestig a chanolbwyntio mwy ar ddefaid, i rai o'r geifr hynny fynd yn wyllt a chymysgu gyda'r geifr gwylltion a oedd ar y llethrau'n barod.

Erbyn hyn mae niferoedd y geifr gwylltion sydd ar yr Eifl wedi cynyddu'n sylweddol ac maent yn prysur fynd yn niwsans cyhoeddus. Nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch eu niferoedd, ond mae'n debyg fod hyd at 50-70 yn crwydro'r llethrau o Drefor i Pistyll. Yn y gorffennol roedd rhai'n eu hela ar gyfer eu cig ond daeth terfyn ar hynny i bob pwrpas. Ar hyd y blynyddoedd arferai'r geifr ddod i lawr o'r mynydd i Drefor a Llithfaen yn achlysurol pan oedd yn dywydd caled yn y gaeaf, ond erbyn hyn maent yn ymwelwyr cyson â'r ddau bentref gan achosi cryn ddifrod i erddi yn arbennig.