G. Geraint Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Ganed y bardd G. Geraint Owen 1858-ar ôl 1888) yng Nghlynnog tua 1858. Mae'n bosibl mai mab Griffith Owen, Tŷ Gwyn, Tai'n Lôn ydoedd, er na ellir bod yn sicr o hyn; yr un modd, efallai mai ef yw'r William (neu Gwilym) G. Owen a weithiai fel gwas ar fferm yr Ynys, ym mhlwyf Clynnog ym 1871 yn 13 oed, ond mae'n debycach mai William G. Owen a aeth yn weinidog y Bedyddwyr yng Nghorwen a Rhuthun yw hwnnw. Erbyn 1881, roedd yn gweithio fel chwarelwr llechi, gan fyw yn Nhŷ Capel, Carmel fel lodjer, lle nodir ei enw fel Griffith G. Owen. Ni chafwyd hyd iddo ar gofnod y Cyfrifiad ym 1891.[1]

Fe'i rhestrwyd yn seithfed o ran rhagoriaeth allan o 18 bardd Dyffryn Nantlle ym 1888.[2] Ni lwyddwyd i ddod o hyd i fwy nag un o'i gerddi, telyneg ddigon swynol a argraffwyd yn Athrofa'r Plant, cylchgrawn byrhoedlog, ym 1881.[3] Dyma'r pennill cyntaf:

Yng nghanol myrdd o swynion
Daeth Mai a'i hir-ddydd braf,
Gan arwain gydag urddas
I'w orsedd dlos, yr Haf;
Gwahodda'i wên garedig
Drigolion tref a gwlad
I ddyfod o'u trigfannau
I wledda ar fwynhad.

Roedd ymysg beirdd gwlad Dyffryn Nantlle yn y 1880au. Er enghraifft, ar achlysur anrhegu'r Parch. John M. Jones fis Mai 1884, cafwyd "anerchiadau barddonol" gan William John Davies (Glan Llyfnwy) ac Evan Jones (Ieuan Nebo) yn Nebo.[4]

Er chwilio mewn amryw o fynegeion, anodd oedd dod o hyd i fanylion am y bardd hwn, ac nid oes sicrwydd o gwbl ynglŷn â'i dynged ar ôl 1888. Efallai iddo farw'n ifanc neu iddo symud o'r dyffryn. Nid yw'r chwilota ddim haws gan nad oedd yn arddel ffugenw barddol unigryw hyd y gwyddys, ac nid oes sicrwydd hyd yn oed ai enw mabwysiedig oedd Geraint, nac ychwaith am beth y safai G gyntaf ei enw llawn, sef Griffith neu o bosibl William (Gwilym).

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1861-71; Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1881-91
  2. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  3. Athrofa y Plant, rhif 2, Mai 1881, t.23
  4. Y Genedl Gymreig, 14.5.1884, t.8