Ffynnon y Doctor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Ffynnon y Doctor wedi'i leoli ar lethrau Garnedd Goch ym mhlwyf Llanllyfni. Fe'i enwir ar ôl "Yr Hen Ddoctor Mynydd", sef David Thomas Jones, a arferai ddefnyddio dŵr o'r ffynnon. Y traddodiad oedd ei bod yn ffynnon iachusol, gyda'r dŵr yn dda at drin y crydcymalau a'r eryr. O gael ei ddadansoddi'n gemegol fodd bynnag, cafwyd nad oedd y dŵr yn wahanol yn gemegol i'r hyn a geir yng nghronfa ddŵr Llyn Dulyn.

Mae rhywfaint o gerrig a osodwyd fel ymylon neu balmant i'w gweld o gwmpas y ffynnon, gan ddangos ei fod wedi ei fod yn gyrchfan ar un adeg.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1]