Ffynnon Rhedyw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Roedd Ffynnon Rhedyw ar lan Afon Llyfnwy, ryw chwarter milltir i'r Gogledd-orllewin o Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni. Dywedir iddi fod yn hen ffynnon gyda chysylltiadau paganaidd a fabwysiadwyd gan Rhedyw fel ffynnon ag arwyddocad Cristnogol: gweler hyn mewn sawl ffynohonell, ond heb awdurdod cynnar am yr honiad,[1]. Erbyn hyn, nid oes fawr i'w weld yno, er i Francis Jones nodi bod slabiau cerrig gerllaw yn awgrymu y bu iddi gael ei gwarchod gan waliau. Defnyddiwyd y dŵr ohoni ar gyfer bedyddiadau yn Eglwys Llanllyfni. Ni nodir unrhyw rinweddau meddygol nag ofergoelion yn perthyn i'r ffynnon, ac felly gellir tybio mai ffynnon at bwrpas yfed y dŵr ohoni mae hi wedi bod erioed, er dichon iddi gael ei chyfrif yn ffynnon sanctaidd.[2]

Fe ymddengys fod adeilad, neu waliau a grisiau at y dŵr, wedi cael eu codi yn y gorffennol, ac roedd peth dystiolaeth ar y safle mor ddiweddar â 30 mlynedd yn ôl.[3] Pan ymwelodd archwilwyr y Comisiwn Henebion y safle ychydig cyn 1960, fe welsant lloc wedi'i amgáu, tua 10' wrth 8', gyda dwy droedfedd o ddyfnder o ddŵr ynddo. Roedd grisiau ar hyd dwy ochr, a rhywfaint o dystiolaeth o adeilad.[4]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. e.e., Gwefan Dyffryn Nantlle, [1]. Adalwyd 01.04.2018
  2. Francis Jones, The Holy Wells of Wales (Caerdydd, 1954), .152
  3. Gwefan Well Hopper, [2], adalwyd 01.04.2018. Mae lluniau lliw diweddar o'r safle ar y wefan hon.
  4. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf.II, (Llundain, 1960), t.212.