Ffynnon Aelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ffynnon sanctaidd yw Ffynnon Aelhaearn, a lleolir hi ym mhentref Llanaelhaearn. Fe'i gwelir ar waelod yr allt hir sydd yn arwain dros yr Eifl, wedi ei hamgylchynu bellach gan wal gerrig. Ffynnon betryal ei siâp, sy’n mesur tua 13 X 7 troedfedd. Ers talwm, deuai cleifion ato i gael gwellhad a byddai pererinion yn aros yma hefyd, i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Codwyd adeilad o gwmpas dechrau’r ugeinfed ganrif gan y Cyngor Plwyf, er mwyn gwarchod purdeb y dwr rhag diptheria.

Ffynonellau[golygu]

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Gwefan Ffynhonnau Sanctaidd Cymru