Ffrwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Ffrwd, Ffrwd Ygyfarnog neu Groeslon Ffrwd yn dreflan ym mhlwyf Llandwrog ychydig oddi ar y ffordd dyrpeg i Bwllheli, sef erbyn heddiw yr A499. Mae yma groesffordd lle mae'r lôn a arweiniai yn y gorffennol o fynydd a mawndir tir uchel plwyf Llandwrog i ffermydd brasach eu byd y tir isel yn croesi'r lôn bost. Ar hyd y ffordd o'r mynydd i'r môr, fe cludid calch a thywod o'r arfordir i ffermydd yr ucheldir, a gyrrwyd defaid a gwartheg ar hyd y lôn tua'r mynydd yn y Gwanwyn at y porfeydd haf a'r hafodydd, tra defnyddid y ffordd i ddod â mawn yn ôl i ffermydd yr iseldir. Gellid dadlau felly mai dyma brif groesffordd plwyf Llandwrog yn yr amser a fu. Dichon mai Ffrwd Ysgyfarnog oedd hen enw'r fangre hon. Mae'n debyg mai yma yr oedd y dafarn leol yn niwedd y 18g, gan fod Daniel Thomas, Ffrwd Ysgyfarnog, yn dal trwydded i werthu cwrw ym 1776 - hynny ar ôl i hen dafarn Betws Gwernrhiw gau o bosibl.[1]

Mae nifer o fythynnod gerllaw, a bu'r efail a safai yma yn bur gynhyrchiol - ym 1901, rhestrir tri gof yn byw yn y dreflan. Roedd yr efail wedi ei sefydlu ymhell cyn hynny: cafodd Elizabeth, merch Daniel Thomas, gof, Ffrwd Ysgyfarnog a Catherine ei wraig, ei bedyddio ym 1775. Bu farw Daniel Thomas y gof a'r tafarnwr y flwyddyn ganlynol, ond ym 1777 ceir sôn am un Willaim Jones, gof, o Ffrwd Ysgyfarnog.[2] Mae un o borthdai Parc Glynllifon wrth y groesffordd ar un ochr, a Phlas Isaf yr ochr arall i'r lôn fawr. Defnyddid Plas Isaf fel cartref i stiward Ystad Glynllifon am flynyddoedd lawer. Nid yw Capel Bwlan (MC), Llandwrog ond dau ganllath o gyffordd Ffrwd. Bu swyddfa bost yma am flynyddoedd cyn iddi symud i bentref Llandwrog.

Yma hefyd cychwynnir hen lôn gul sy'n arwain at eglwys a phentref Llandwrog. Roedd hon yn arfer â bod yn brif ffordd ar draws y cwmwd cyn adeiladu'r ffordd dyrpeg.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. W.Gilbert Williams, Moel Tryfan i'r Traeth, (Pen-y-groes, 1983), tt.31, 33
  2. Archifdy Caernarfon, XPE/24/10 Cofrestr Plwyf Llandwrog, 1775-7