Fferm Y Morfa, Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Y Morfa, neu Tyddyn y Morfa fel roedd yn cael ei enwi mewn rhai dogfennau, yn un o’r ffermdai hynaf ym mhlwyf Llanaelhaearn. Fel yr awgryma ei enw saif ar lecyn pur wastad a chysgodol o fewn tafliad carreg bron i'r môr gyda chlogwyn Trwyn y Tâl yn ei warchod rhag gerwinder gwyntoedd y gorllewin o Fae Caernarfon. Led cae o'r tŷ wedyn mae Afon Tâl yn llifo ar ei hynt droellog i'r môr gan wahanu tir Y Morfa oddi wrth Fryn Gwenith a Gwydir Bach.

Fferm yn agos i gan erw yw’r Morfa ac er nad oes sicrwydd o’r dyddiad, mae’n debygol i’r tŷ presennol gael ei adeiladu yn hanner cyntaf yr ail ganrif ar bymtheg. (Roedd sôn bod y dyddiad adeiladu wedi ei dorri ar un o’r trawstiau, ond ni chafwyd hyd iddo ysywaeth.) Mae’r ffermdy’n nodweddiadol o dŷ hir Cymreig, wedi ei adeiladu o gerrig tir enfawr gyda’r conglfeini’n bochio allan. Yn wreiddiol roedd i’r tŷ ddau ddrws ffrynt gyda’r tir yn y cefn yn dod yn union at y muriau – cyn i lwybr gael ei dorri o’i amgylch ac agor drws cefn tipyn dros ganrif yn ôl.

Un o brif nodweddion y tŷ oedd yr hen simnai fawr gyda grisiau cerrig cul a throellog wrth ei hochr yn arwain i’r llofft uwchben. Wrth ochr y simnai hefyd mae clamp o bopty mawr sydd bron yn grwn. Mae tulathau’r to o dderw wedi eu naddu’n amrwd â bwyeill gyda phegiau pren mawr, yn hytrach na hoelion, yn eu dal wrth ei gilydd.

Yn wahanol i’r tŷ mae adeiladau’r Morfa’n gymharol ddiweddar ac yn rhan o’r datblygiadau ailadeiladu mawr a ddigwyddodd yn stad Glynllifon ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond, yn wahanol i’r rhelyw o dai Glynllifon, ni chyffyrddwyd â’r ffermdy ei hun, a da hynny, neu byddai’r enghraifft glasurol yma o dŷ Cymreig cynnar wedi ei cholli am byth.

Yn ffinio â thir Y Morfa mae Bryn Gwenith sy’n tystio bod gwenith yn cael ei dyfu yn y gymdogaeth yn y gorffennol, neu fod rhywun eisiau dyrchafu ansawdd y tir o bosib. Gelwid Bryn Gwenith hefyd yn Tyddyn y Felin ac mae o hyd lecyn o dir gyda glan yr afon a elwir yn Gors y Felin. Erbyn hyn mae pob arlliw o'r felin ddŵr honno wedi diflannu ac ni wyddys lle roedd ei safle, ond mae’n bosibl mai hi yw’r Felin-y-Coed y cyfeirir ati mewn dogfen drosglwyddo tir, dyddiedig 22 Mehefin 1722.

Fel y nodwyd bu’r Morfa yn eiddo i stad Glynllifon am flynyddoedd maith a cheir nifer o gyfeiriadau ati ym mhapurau’r stad. Er enghraifft, mewn gweithred gynnar, dyddiedig 20 Mehefin 1649, yn ymwneud â Thyddyn y Morfa, nodir ei fod yn Elernion – sef yr hen drefgordd ganoloesol. Yn ôl rhestr rhenti Glynllifon am 1741 gwelwn mai £14.00 oedd rhent blynyddol Y Morfa bryd hynny. Ar 6 Rhagfyr 1773 wedyn gwelwn i Hugh Owen, y tenant bryd hynny, dderbyn tâl o £3.15.00 am ddarparu menyn i blas Glynllifon.[1] Y deiliad erbyn canol y ganrif ddilynol oedd Hugh Jones, a fu mewn cryn ffrwgwd â chwmni'r gwaith ithfaen pan agorwyd rheilffordd ar draws y tir i gludo cerrig o’r gwaith yn y Gorllwyn i’r cei newydd ar lan y môr. Bu ei weddw ef, Jane Jones, yn benteulu am flynyddoedd wedi marw ei gŵr. Roedd yn aelod amlwg yng nghapel Annibynnol Maes-y-neuadd yn Nhrefor a daeth John, ei mab, yn berchen busnes dilledydd pur lewyrchus yn Aberdyfi, gan roi pulpud a ffenestr liw er cof am ei fam yn rhodd i gapel Maes-y-neuadd, a agorwyd ym 1874. Yn ei ddyddiadur nododd Eben Fardd ar 1 Chwefror 1838 iddo fynd i’r Morfa am ginio gyda’r Parchedigion William Williams (Caledfryn) a William Ambrose (Emrys), Porthmadog, adeg cyfarfod pregethu pur fawreddog ym Maes-y-neuadd.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

Gwybodaeth bersonol;

  1. Archifdy Caernarfon, Papurau amrywiol Stad Glynllifon, XD2/
  2. Detholion o Ddyddiadur Eben Fardd, golygwyd gan E.G. Millward, (Caerdydd, Gwasg Prifysgol Cymru 1968), t.64.