Fferi Abermenai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Yr hen dŷ fferi
Siart Lewis Morris, c1750, yn dangos Abermenai

Abermenai yw enw'r culfor lle mae Afon Menai'n ymarllwys i Fae Caernarfon. Dyma fan mwyaf cul yr holl afon, ac yn y gorffennol, bu'n man croesi i Ynys Môn ar gyfer teithwyr o Ben Llŷn. Pan oedd teithio ar draws y tir yn y Canol Oesoedd yn anodd oherwydd diffyg ffyrdd a'r holl fannau gwlyb heb eu traenio - yn arbennig ar dir isel ger y môr, yn aml y ffordd hawsaf oedd ar hyd traethau ar gyfnodau o drai, ac mae traeth gweddol dywodlyd yr holl ffordd o Aberdesach i ben draw penrhyn Belan ar lan Abermenai.

Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi, ac felly mae defnyddioldeb ac arwyddocâd y lle'n ymestyn yn ôl am ganrifoedd lawer ond nad miloedd o flynyddoedd.

Ceir sawl cyfeiriad cynnar at Abermenai. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn.[1] Pan fu farw Gruffudd, fe adawyd elw 'porthladd a fferi Abermenai' i'w weddw Angharad.[2] Ar ôl i goron Lloegr feddiannu gogledd Cymru, mae Abermenai'n ymddangos yng ngyfrifon y brenin, a hynny o 1296 ymlaen, pan oedd y rhent yn £4 y flwyddyn, swm sylweddol iawn yr adeg honno. Mae'n glir hefyd fod swyddogion y goron hefyd yn talu am gosatu megis atgyweirio'r cwch fferi.[3]

Yn y 15g, talai bwrdeisdref Niwbwrch rent i frenin Lloegr am nifer o hawliau, gan gynnwys rheoli fferi Abermenai, sy'n tueddu ag awgrymu fod y fferi hon yn bwysicach i Fôn nag i Uwchgwyrfai - er wrth gwrs, roedd Niwbwrch yn greadigaeth corob Lloegr, fel y fwrdeisdref a sefydlwyd gan Iorwerth I pan symudwyd trigolion Cymraeg Llanfaes o'u cartrefi i wneud lle i'w fwrdeistref a chastell newydd ym Miwmares. Yn Saesneg, yr adeg hon, gelwid Abermenai yn 'Southcrook'.[4] Erbyn 1437, fodd bynnag, rhentodd brenin Lloegr y fferi i Thomas Aldenham (dyn oedd yn aelod o'r llys brenhinol yn Llundain), ac erbyn 1442 roedd dyn o'r enw Thomas Spicer yn cyd-denant gydag Aldenham. Mae hyn yn ddiddorol gan fod teulu Spicer yn un o hen deuluoedd masnachol Caernarfon, sy'n awgrymu fod rheolaeth y fferi'n rhannol yn nwylo lleol. Roedd y cyfrifon sy'n tystio i hyn hyd heddiw, fodd bynnag, yn gyfrifoldeb rhingyll (sef swyddog brenin Lloegr oedd yn hel trethi a rhentu drosto a weithredodd dros cwmwd Dindaethwy yn Ynys Môn. Yn weinyddol felly cyfrifid Abermenai yn rhan o adnoddau Môn yn hytrach nag Uwchgwyrfai, ac yr oedd tŷ ar gyfer cychwr y fferi.[5] Roedd tŷ fferi yn Abermenai (mae'n debyg ar ochr Môn) cyn 1493, a hynny'n adeilad o gerrig, gan fod arian wedi ei wario ar ei atgyweirio'r flwyddyn honno.[6]

Mae nifer o brydleswyr, rhai'n Gymry a rhai'n aelodau o'r llys brenhinol yn Llundain, oedd yn rhentu'r fferi dros y ddau gan mlynedd nesaf - er nad oeddynt hwy'n bersonol yn gweithio fel y cychwyr. Mewn ewyllys o 1593 [7], nodir enwau'r cychwyr am y tro cyntaf, efallai - sef Richard ap Thomas, Lewis ap Evan Lloid a Evan ap Llywelyn - gan nad oeddynt wedi cadw ty'r fferi mewn cyflwr da, a byddai'n costio £20.13.4c i'w atgyweirio.

Mae mapiau o Uwchgwyrfai yn tueddu dangos ffordd neu drac i Abermenai yn ystod y 18-19g (er enghriafft map John Ogilby, 1720)[8]. Erbyn y 18g hefyd, cawn fwy o fanylion am y fferi. Roedd tŷ fferi o ryw fath o bobtu'r culfor, ac yn ogystal â chychod yn croesi'n syth, croesai cychod o ochr Môn i harbwr Caernarfoin ar ddydd Sadwrn, sef diwrnod marchnad Caernarfon. Yn 1711, roedd dau gwch ar gael ar gyfer y gwasanaeth, ond yr oedd angen am un newydd, a fyddai'n costio o leiaf £50. [9] Roedd croesi'n gallu bod yn beryglus, oherwydd dyluniad y cychod yn gymaint ag yr oedd y tywydd yn gallu creu problemau. Yn ôl William Bingley, cafwyd trychineb ym 1664 pan suddodd cwch Abermenai:

"Roedd y cwch wedi cyrraedd Abermenai ac roedd y teithwyr ar fin mynd i'r lan pan digwyddodd camddealltwriaeth parthed ceiniog yn ychwanegol nad oedd y teithwyr yn fodlon ei dalu. Yn ystod y cecru. llifodd y cwch i fan lle roedd y dŵr yn ddwfn, lle trôdd drosodd, ac er ei fod y pryd hynny ond ychydig lathenni o'r lan, fe farwodd saith deg naw o'r teithwyr, a dim ond un yn dianc. Credai'r werin mai gweithrediad ar ran y nefoedd oedd hyn gan fods y cwch wedi ei adeiladu gyda choed a ddygwyd o Abaty Llanddwyn."[10]

Croesai ar fferi Abermenai wnaeth Daniel Defoe pan ymwelodd â Chaernarfon ar ei ffordd i Fôn tua 1724 "o ran ymyrraeth er mwyn gweld Iwerddon o gyfeiriad arall - er nad oedd o wedi llwyddo oherwydd y tywydd yng Nghaergybi![11]

Digwyddodd drychineb arall i gwch Abermenai 5 Rhagfyr 1785, ac eto, dim ond un a oroesodd y suddo, ac eto ar un o'r croesiadau i dref Caernarfon ar gyfer y farchnad. Aeth y cwch yn sownd ar dywod yng nghanol y Fenai ar adeg llanw isel, ond ar ôl treulio noson ddychrynllyd o anghysurus, fe foddodd pawb ond un, Hugh Williams, Tŷ'n Llwydan, Aberffraw, pan ddaeth y llanw i mewn.[12]

Daeth fferi ager i wasanaethu'r groesfan yn syth o Gaernarfon i Fôn yn gynnar yn y 19g, (heb anghofio am agor Pont Menai yn 1826) ac erbyn 1828, nid oedd modd casglu unrhyw rent am fferi Abermenai.[13] Mae'n ymddangos mai yng nghanol y 19g y daeth y fferi i ben. Nid oes unrhyw drac bellach at ben draw penrhyn Belan a phob ôl o ddefnydd o'r fferi wedi diflannu o ochr ddeheuol y culfor.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Wicipedia, Abermenai [1], adalwyd 09.04.2018
  2. J.E. Lloyd, A History of Wales, (Llundain, 1939), t.469.
  3. H.R. Davies, The Conway and the Menai Ferries (Caerdydd, 1966),t.78
  4. H.R. Davies, op. cit., t.30
  5. H.R. Davies, op. cit., t.46, 57.
  6. H.R. Davies, op. cit., t.81
  7. Ewyllys Huw Lloid, Bodwyn uchaf, Trewalchmai, PCC 12 Stott)
  8. copi yn Archifdy Caernarfon
  9. H.R. Davies, op. cit., tt.194-5.
  10. W. Bingley, North Wales, Cyf. I, t.280.
  11. Daniel Defoe, A tour through the whole island of Great Britain, llythyr 6, (golygyddiad gwe, Priysgol Adelaide), [2], adalwyd 09.04.2018
  12. H.R. Davies, op. cit., tt. 308-9 (ar ol Bingley, tt.281-6)
  13. H.R. Davies, op. cit., t.309.