Ffatri wlân Rhyd-ddu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Ffatri wlân Rhyd-ddu.jpg

Roedd Ffatri wlân Rhyd-ddu yn felin wlân a safai ym mhen draw eithaf plwyf Llanwnda (plwyf Betws Garmon bellach), ar Afon Gwyrfai, nid nepell o ble mae'r afon yn llifo allan o Lyn-y-gader ym mhentref Rhyd-ddu. Cludid y dŵr o'r afon i'r ffatri gan draphont neu uwch-ffos 40 metr o hyd. Mae'n ymddangos o fapiau Ordnans 1888-1920 fod y felin yn gweithio gydol y cyfnod hwnnw. Mae'r adeilad ei hun yn dyddio o'r 19g.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Gwefan Coflein, [1], cyrchwyd 13.01.2021