Ffatri wlân Bontnewydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Ffatri wlân ar lan Afon Gwyrfai, ger Plas-y-Bryn ym Montnewydd oedd y lle hwn.

Credir iddi ei sefydlu yn hanner gyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae cofnod mewn erthygl papur newydd 1850 yn nodi ei fod yn weithredol. Yn yr erthygl hwn cawn hanes bechgyn yn dwyn gwlân o ffatri Gydros, Pwllheli a'i gario holl ffordd i Fontnewydd a'i werthu yn y ffatri hwn.[1]

Ar fap degwm (c.1841)[2] cyfeirir at y man yma fel 'Felin'. Ar y rhestr pennu gellir gweld bod llawer o gaeau yng nghlwm â'r 'Felin' yma. Gellir gweld fod o leiaf un porfa, tair gweirglodd a tyddyn yn dod o dan yr un cofnod. Roedd yno William Jones yn denant yn y 'Felin', gyda Catherine Williams yn rhentu tair porfa. Ceir hefyd gŵr o'r enw John Ellis yn byw yn y tyddyn. Nid yw'n glir oddi wrth y ffynhonnell hon os oedd y ffatri yn weithredol gan fod mai melin yn unig sydd wedi ei nodi yma, ac felly ni ellir dweud a sicrwydd fod glwan yn cael ei gynhyrchu yma cyn belled a 1841.

Gellir gweld oddi ar fapiau yr Arolwg Ordnans o 1888 fod y ffatri yn weithredol, ac ei fod yn cael ei bweru gan lif Afon Gwyrfai.Ychydig islaw'r afon mae eiddo o'r enw Dol-y-pandy, a dichon felly fod pandy hefyd ar un adeg a gymerai ei phŵer o rym y dŵr[3]. Mae modd gweld hefyd fod y lle hwn yn weithredol hyd at 1919 gan fod y map y flwyddyn yma yn nodi "Woolen Factory", ac mae annedd o'r enw "Lodge" wedi ei godi erbyn hyn gerllaw.

Erbyn 1953, mae modd gweld oddi wrth y mapiau fod y ffatri wedi cau.

Cyfeiriadau[golygu]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma