Ffatri Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Hen adeilad y felin wedi'i droi'n ddau dŷ
Llys y Delyn - hen dŷ rheolwr Ffatri Tryfan

Roedd Afon Llifon yn troi olwyn ddŵr Melin wlân Tryfan, neu (yn ôl y bobl leol) Ffatri Tryfan. Safai lle saif Craigside a Chludannedd heddiw (wrth y blwch post). Mae'r hen felin wedi'i thynnu i lawr ers dechrau tridegau'r 20g. Dywed J Geraint Jenkins yn ei lyfr The Welsh Woollen Industry bod melin wlân yno cyn 1815. Melin gardio ydoedd gyda thair ffrâm Arkwright a ddyfeisiwyd ym 1769 ac yn cael eu defnyddio yno erbyn 1826 yn lle'r tair olwyn a ddefnyddid gynt.

Yn ei ysgrif ar y Tryfan[1], dywed W. Gilbert Williams ei fod yn credu bod Ffatri Tryfan yn mynd yn ôl i'r 18g, a'i chynnydd wedi cyd-ddigwydd â datblygiad y chwareli ar lechweddau Mynydd Cilgwyn. Dywed hefyd y gwelir cyfeiriad at rai o'r crefftwyr a weithiai yno o ganol y 18g ymlaen yn y Cofnodion Plwyf.

Yn ôl cyfrifiad 1841, Ann Jones, gweddw, oedd yn rhedeg y ffatri ac yna ei mab Robert i fyny i 1891.Roedd yntau'n ŵr gweddw erbyn hynny, a'i ferch Mary'n briod â David Williams, Appii Forum. Roedd ganddynt fab o'r enw Robert Jones Williams a adweinid yn ddiweddarach fel Robert Ffatri. Ond, er cael ei anfon i'w brentisio i ffatri wlân Trefriw, nid oedd am ymgymryd â'r gwaiath. Gwerthwyd y ffatri i Humphrey Jones o Sir feirionnydd a fu'n byw yng Nghae Ffridd ac yna yn Nhrem y Werydd.

Byddai rhai o ferched y Groeslon yn arfer gweithio i Humphrey Jones yn eu cartrefi. Cofiai Katie Jones ei mamvyn gwnïo tronsiau o wlân gwyn hefo rhesi duon ynddo a'r rheiny'n cau ar y penglin hefo tâp. Byddai hen wraig oedd yn byw ym Mron Iwrch yn gwnïo crysau gwlân iddo efo'i llaw, a chofiai Mair Edwards fynd i'r ffatri i nôl gwlanen goch i'w mam, ag iodîn ynddi.

Byddai Humphrey Jones yn mynd o amgylch tai pobl i werthu ei gynnyrch. Roedd ganddo stondin yn y farchnad yng Nghaernarfon hefyd, a bu'n rhedeg honno ar ôl i'r ffatri gau.

Prynwyd tir a thŷ'r ffatri gan Mr William J. Evans, gorsaf-feistr Gorsaf reilffordd Y Groeslon, a ddaethai o Langefni. Gan fod ei wraig yn delynores (Telynores Gwyngyll), newidiwyd enw tŷy'r ffatri i Llys y Delyn. Ar dir y ffatri yr adeiladwyd tai cyngor Maes Tryfan yn 30au'r 20g.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (cyf 2)
  2. Sylfaen yr erthygl hon yw'r paragraffau perthnasol allan o Hanes y Groeslon, (2000) gyda nawdd Cronfa Dreftadaeth y Loteri. Defnyddiwyd y deunydd yma trwy ganiatâd golygyddion y gyfrol honno.