Evan Jones, Plas Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Evan Jones a'i deulu

Un o brif adeiladwyr a chontractwyr yr ardal yn y 19g. oedd Evan Jones (1833-1926) a fu'n byw ym Mhlas Dolydd yn nhreflan Dolydd. Bu'r busnes yn weithgar hyd blynyddoedd cynnar y 20g dan enw Evan Jones a'i fab. Y mab dan sylw oedd John W. Jones, Glyn Carrog, Dolydd. Ganwyd Evan Jones yn Llanllyfni a bu'n byw ym Maen Coch am sbel; cyn symud i Blas Dolydd

Ym 1876, cafodd brydles gan Ystad Glynllifon ar ddarn o un o gaeau Tyddyn Dafydd yn Y Groeslon, ar gornel sgwar y pentref gyferbyn â'r orsaf er mwyn codi 8 o dai teras. Dyma rai o dai cyntaf i ffurfio canol y pentref modern.[1] Dair blynedd yn ddiweddarach fe gafodd brydles arall gan yr un ystad ar ddarn o dir fferm Plas Mawr, yr ochr arall i'r rheilffordd, ar gyfer codi dau dŷ arall.[2] Ym 1890 cafodd gyfle i werthu llefydd tân i Frederick G. Wynn, sgweier Glynllifon pan oedd yn codi estyniad mawr i'w blas.[3]

Roedd y busnes yn gyfrifol am godi sawl adeilad a chapel ar raddfa fwy, o Ben Llŷn i Lerpwl, yn cynnwys (fe dybir) festri newydd i'r Capel Coch, Llanberis, ym 1907.[4] Cododd Capel Bwlan (MC), Llandwrog ym 1879. Cododd festri i Fryn'rodyn a thŷ'r Gweinidog, Llys Myfyr, ym 1901. Fo hefyd oedd yn gyfrifol am wal a mynedfa Mynwent Bryn'rodyn ar gyfer y Cyngor Plwyf.

Gwnaed gwaith coed ar gyfer ei adeiladau ac ati yn ei weithdy yn Y Groeslon. Llosgwyd y gweithdy gwreiddiol ar draws y groesfan reilffordd i'r pentref ym 1879, ond fe'i ailgodwyd, yn adeilad mawr deulawr, gyda ffenestri mawr yn ei oleuo. Yn ddiweddarach (tyua 1990) fe'i drowyd yn dŷ gan saer lleol, ac fe'i elwir erbyn hyn yn Coed y Glyn.

Roedd yn un o bileri'r achos yng nghapel Bryn'rodyn, yn flaenor ac yn ysgrifennydd yr eglwys.[5]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/6659
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/6665
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/11018
  4. Archifdy Caernarfon, XD49/1/106
  5. Seilir yr erthygl hon, oni nodir yn wahanol, ar Hanes Y Groeslon, (Caernarfon, 2000), tt.38-9.