Owen Ellis Owen (Eos y Ceiri)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Eos y Ceiri)
Jump to navigation Jump to search

Mab Planwydd, Llanaelhaearn, oedd Owen Ellis Owen, a gyfansoddai dan ei enw barddol, Eos y Ceiri. Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth.

Pan gaewyd Chwarel yr Eifl, Trefor, am rai misoedd yn Ebrill 1883, aeth yr Eos , gyda nifer o'i gydweithwyr, dros yr Iwerydd i weithio mewn chwareli ithfaen yn nhalaith Efrog Newydd yn America. Tra oedd yno bu farw ei fam, Ellen Owen (80 oed) yn Ebrill 1888 gartref yn Llanaelhaearn ac fe gyfansoddodd ei mab alltud y gerdd hon er cof amdani. Ymddangosodd yn Utgorn Rhyddid, 27 Mehefin 1888 - y papur newydd hwnnw a gyhoeddid gan David Lloyd George ym Mhwllheli. Mae'n gerdd hir o wyth pennill wyth llinell. Dyma'r ddau bennill cyntaf yn unig.


ER COF AM FY MAM, ELLEN OWEN, PLANWYDD


Hiraeth dwys fu bron â'm llethu,

Yma mewn estronol wlad,

Am hen Walia fâd a'i breintiau,

Gwlad fy annwyl fam a'm tad ;

Heddiw hen archollion rwygwyd,

Daeth i'm mynwes greulawn gledd, -

Fod fy annwyl Fam yn huno

Ym mhriddellau oer y bedd.


Darfu'i hoes o orthrymderau

Pedwar ugain mlynedd maith,

Oes o flin drafferthion mynych,

Oes trallodion dyrys daith.

O ! fy annwyl Fam dirionaf,

Dagrau hiraeth red yn lli,

Hen atgofion fyrdd ddeffroant,

Yn fy mynwes glwyfus i.