Emyr Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd y Parchedig Emyr Roberts (1915-1988), a fu'n weinidog ar Eglwys Gosen, Trefor, o 1947-1957, yn bregethwr grymus ac awdur dawnus.

Un o fechgyn bro'r chwareli llechi oedd Emyr Roberts, a aned yng Nghwm-y-glo, ger Llanberis, ym 1915 yn un o naw o blant. Yn bedair ar ddeg oed aeth i weithio i ganlyn ei dad i chwarel Dinorwig, lle bu am saith mlynedd. Teimlodd alwad i fynd i'r weinidogaeth ac, wedi blwyddyn o addysg baratoawl yng Ngholeg Clwyd yn Y Rhyl, aeth yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor ym 1936 gan raddio gydag anrhydedd uchel yn y Gymraeg bedair blynedd yn ddiweddarach. Cwblhawyd ei addysg â blwyddyn o astudiaethau bugeiliol yng Ngholeg Y Bala.

Yn Nhudweiliog yn Llŷn y dechreuodd ei yrfa fel gweinidog ym 1944 ac, wedi tair blynedd yno, symudodd i weinidogaethu dros Eglwys Gosen yn Nhrefor am ddegawd o 1947-57. O Drefor symudodd yn weinidog i'r Rhyl lle'r arhosodd hyd ei ymddeoliad ym 1982. Tra oedd yn Nhudweiliog priododd â Grace Williams o Rostryfan (a fu farw yn 2019, newydd groesi ei chant oed). Ganed iddynt dri o blant: Glyneth, Dafydd a John - mae John Emyr wedi dod i amlygrwydd fel awdur a cheir erthygl arno yn Cof y Cwmwd. Yn ôl y sôn nid oedd Emyr Roberts yn ddyn pwyllgorau o gwbl, yn wir roedd yn gas ganddo bwyllgora, ac ni fynnai unrhyw swyddogaethau enwadol. Eto'i gyd fe'i gwnaed yn Llywydd Henaduriaeth Dyffryn Clwyd ym 1966. Yn dilyn ei ymddeoliad o waith ei eglwys ym 1982, ar ôl bod yn y weinidogaeth am ddeunaw mlynedd ar hugain, parhaodd i fyw yn Y Rhyl a dal ati i bregethu. Bu farw yn Ysbyty Glan Clwyd ar yr 2il o Fai 1988 a'i gladdu ym Mynwent Ddinesig Y Rhyl.

Roedd Emyr Roberts yn bregethwr grymus ac argyhoeddiadol ac, fel y Parch. Goronwy Prys Owen, a ddaeth yn weinidog ar Eglwys Gosen ym 1969, roedd yn bregethwr efengylaidd ei safbwyntiau a neges ei bregethau bob amser wedi eu seilio ar y Beibl ei hun. Rhoddai bwyslais mawr ar yr ochr fugeiliol a chenhadol yn ogystal ac ar baratoi plant a phobl ifanc yr eglwys i fod yn gyflawn aelodau. Yn ystod ei gyfnod yn Nhrefor bu'n cynnal seiat feiblaidd a llwyddodd i gael nifer dda o ieuenctid, yn ogystal â phobl hŷn, i ddod iddi'n gyson a chymryd rhan yn ei gweithgareddau. Rhan bwysig o'i apêl oedd cynhesrwydd a didwylledd ei gymeriad a meddai hefyd ar dreiddgarwch meddwl nodedig.

Daeth Emyr Roberts yn awdur amlwg a dawnus yn ogystal. Yn ddi-os cafodd ei athrawon coleg ym Mangor, megis Ifor Williams, Thomas Parry ac R. Williams Parry, ddylanwad mawr arno, a hefyd darllenai'n eang ym meysydd barddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg a diwinyddiaeth. Yn Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Clwyd ym 1973 enillodd y Fedal Ryddiaith am y nofel fer Mae Heddiw wedi Bod, a chyhoeddwyd dwy gyfrol o ddetholion o'i ysgrifau a'i bregethau: Y Ffydd a Roddwyd ym 1957 a Cyrraedd trwy'r Glustog ym 1971. Bu hefyd yn un o ffigurau amlwg Mudiad Efengylaidd Cymru bron o'i ddechrau ac am un mlynedd ar ddeg rhwng 1960 a 1971 bu'n brif olygydd Y Cylchgrawn Efengylaidd. Yna, ym 1993, bum mlynedd wedi ei farw, cyhoeddwyd y gyfrol sylweddol Dyddiau Gras, sy'n cynnwys darlleniadau byr o'i waith ar gyfer pob diwrnod o'r flwyddyn. Golygwyd y gyfrol gan ei fab, John Emyr, ac mae hefyd yn cynnwys Portread cyfoethog o Emyr Roberts gan un o'i gyfeillion, y diweddar Athro R. Geraint Gruffydd. Priodol yw cydnabod y seiliwyd y sylwadau uchod i gryn raddau ar y Portread hwn.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Emyr Roberts, Dyddiau Gras (golygydd: John Emyr), (Gwasg Efengylaidd Cymru, 1993); Gwybodaeth bersonol