Elusen Dr Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Cafodd Elusen Dr Lewis ei sefydlu tua 1683 trwy gyfrwng cymal yn ewyllys Dr William Lewis, D.D., rheithor plwyf Allhallows-on-the-Wall yn ninas Llundain. Nid yw'n glir o'i ewyllys o ba le yng Ngogledd Cymru yr hanodd, ond mae cliw, efallai, yn y ffaith mai un o ddarpariaethau gwreiddiol ei ewyllys oedd talu am bregethau blynyddol yn eglwysi Llangristiolus a Cherrig Ceinwen yn Ynys Môn. £3000 oedd y gwaddoliad gwreiddiol. Roedd hynny'n swm anferthol y pryd hynny, yn arbennig felly gan fod nifer o gymunroddion hael i neiaint a nithoedd Dr Lewis yn yr ewyllys hefyd, a'r ffaith fod y £3000 i'w talu mewn arian o fewn tri mis wedi iddo farw. Enwyd nifer o brif dirfeddianwyr Môn, ynghyd ag Esgobion Bangor, Llanelwy a Rochester, fel ymddiriedolwyr. Prif ddibenion yr elusen oedd talu am gynhaliaeth, addysg a phrentisio ar gyfer dau fachgen tlawd o Gerrig Ceinwen; talu am ysgoloriaeth i bedwar bachgen tlawd yng Ngholeg y Drindod, Caergrawnt a phedwar yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen (gyda'r flaenoriaeth i gael ei rhoi i fyfyrwyr o Fôn ac wedyn i rai o Ogledd Cymru); a thalu blwydd-dal i chwe gweddw gweinidog tlawd. Roedd yr arian i gael ei ddefnyddio i brynu eiddo a fyddai'n cynhyrchu incwm blynyddol.[1]

Sefydlwyd yr elusen, ac yn groes i'r rhan fwyaf o elusennau a sefydlwyd ganrifoedd yn ôl, mae'n parhau mewn bodolaeth, er bod yr incwm erbyn hyn ond ychydig o gannoedd y flwyddyn. Mae hysbyseb gan glerc yr elusen, John Thomas, Stryd y Farchnad, Caernarfon, yn y North Wales Chronicle[2] yn gofyn am geisiadau gan ddynion ifanc a oedd yn dymuno mynd yn brentis. Ar yr un dudalen, nodir bod pwyllgor yr elusen ar gyfer gweddwon a phlant amddifaid clerigwyr am gyfarfod, a bron yn sicr, sôn am bwyllgor yr ymddiriedolwyr sydd yma.

Mae nifer helaeth o lythyrau'n ymdrin â materion yr elusen ymysg gohebiaeth Arglwydd Newborough, tra oedd yn ymddiriedolwr.[3]

Mae sôn am yr elusen yn berthnasol i Uwchgwyrfai gan fod yr ymddiriedolwyr wedi prynu eiddo ym mhlwyf Llanaelhaearn er mwyn buddsoddi peth o'r arian. Erbyn adeg y degwm tua 1840, pan geir rhestr o eiddo'r elusen, roedd ffermydd Cwm Ceiliog, Ynys Goch, Cefn Bronmiod, Tyddyn Coch, Terfyn, Tŷ'n y Graig, Tyddyn y Felin, a Thyddyn yr Eglwys yn eiddo iddi, a dichon mai dyma'r ystad gyfan a brynwyd tua 1683.[4] Gwerthwyd yr eiddo hwn gan yr elusen ym 1920 (gweler erthygl ar wahân yn Cof y Cwmwd ar Arwerthiant Ffermydd Elusen Dr William Lewis.[5]

Fel y dywedwyd, mae'r elusen yn dal yn weithredol, er bod y tair brif amcan - cynnal tlodion, addysgu a helpu gweddwon clerigwyr - wedi eu rhannu'n dair elusen ar wahân. Erbyn heddiw hefyd, Esgob Bangor yw'r unig ymddiriedolwr.[6]

Cyfeiriadau

  1. Yr Archifdy Gwladol, PROB 11/372/324
  2. North Wales Chronicle, 31.7.1869, t.1
  3. Archifdy Caernarfon. Ceir amryw o lythyrau rhwng y rhifau XD2/18068 a XD2/24258
  4. LlGC, Dogfen Pennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llanaelhaearn
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/14563
  6. Gwefan Y Comisiwn Elusennau [1], cyrchwyd 19.9.2023