Ellis Rowlands

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yr oedd Ellis Rowlands (marw 1690-91) yn ficer Clynnog Fawr a Llanwnda yn ystod teyrnasiad Cromwell, ac yn coleddu felly athrawiaeth biwritannaidd. Bu'n ficer Llanelidan, Sir Ddinbych, cyn iddo symud i fywoliaeth gyfoethog Clynnog Fawr ym 1657. Fe'i disgrifiwyd gan Bob Owen fel y ffigwr amlycaf ymysg yr Annibynwyr yn ardal Caernarfon. Priododd â merch Robert Griffith, Llanfair-isgaer, a'i drydedd wraig Gaynor (roedd chwaer Gaynor wedi priodi â Robert Lloyd, Bachwen, Clynnog-fawr).[1]

Fel llawer i ficer arall a wasanaethai yn ystod cyfnod y Werinlywodraeth, fe gafodd ei droi allan o'i fywoliaeth pan ailsefydlwyd y Goron a'r eglwys wladol Anglicanaidd. Cyn hynny, roedd ei blwyfolion yng Nghlynnog Fawr wedi ei gloi allan o'i eglwys ei hun oherwydd ei ddaliadau - sydd yn dangos bod cyfran helaeth ohonynt yn croesawu’r hen drefn yn ôl. Enwir Benjamin Lloyd (1629-1709), Tŷ Mawr, Clynnog Fawr, fel ei brif wrthwynebydd. Pan ddaeth y mater i’r llys ar ddechrau 1661, roedd Edmund Glynn YH a’i gyd-ynadon yn fodlon cyfeirio’r mater at yr Esgob, a oedd wedi ei ail-sefydlu ym Mangor, ond cafodd Rowlands barhau fel ficer yn y cyfamser.[2]

Prif ddiflastod plwyfolion Clynnog, yn ôl dogfennau’r llys, oedd y ffaith na ddefnyddid y Llyfr Gweddi Cyffredin yn yr eglwys. Daliodd un o’r protestwyr Feibl i fyny, gan ddangos nad oedd y llyfr gweddi wedi ei gynnwys yn y gyfrol, gan weiddi “Ni a fynnwn weled llosci y bibles sydd heb y common prayer ynddynt” gan ychwanegu “dymma fo".

Wedi iddo orfod ildio ei blwyfi i ficer mwy derbyniol gan y drefn newydd adferedig, dywedir i Ellis Rowlands symud i Gaernarfon lle crafodd fywoliaeth yn llunio patrymau gwnïo i ddisgyblion ysgol ei wraig. Erbyn 1672 nodwyd fod ganddo drwydded fel athro Presbyteraidd yng Nghaernarfon. Ym 1689, ceir cofnod fod Ellis Rowlands, "gweinidog anghydffurfiol", wedi tyngu llw o ffyddlondeb i'r goron a bod ei dŷ'n cael ei ddefnyddio fel man addoli ar gyfer Presbyteriaid.

Bu farw ym 1690 neu 1691, ac mae'n ei ddisgrifio ei hun yn ei ewyllys (dyddiedig 1688) fel athro mewn ysgol ramadeg breifat yng Nghaernarfon.LlGC, [3]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Bob Owen, Some details about the Independents in Caernarvonshire, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, cyf 6 (1946), tt.38-43
  2. Archifdy Caernarfon, Dogfennau'r Llys Chwarter, XQS/1660.
  3. Ewyllys Ellis Rowlands, Caernarfon (Dogfennau profiannaeth Bangor 1691).