Ellis Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Magwyd y bardd Ellis Jones (29 Ebrill, 1906 - 20 Mai, 1996) yn fferm Gilwern Uchaf, rhwng Rhostryfan a’r Groeslon, ym mhlwyf Llandwrog. Roedd yn fab i Owen R. Jones a’i wraig Margaret Ann Jones, ac yn un o saith o blant, chwe bachgen ac un ferch.[1]

Roedd yn englynwr medrus a bu'n cystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ymunodd â Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym 1948.[2]

Gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Gobaith Gwan’ enillodd y gystadleuaeth ‘Englyn digri’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth, 1952, a feirniadwyd gan Waldo Williams[3].

Gwlanen Goch
Fy ewyrth sy’n rhy fywiog - yntau’n hen
Eto’n ŵr cyfoethog;
O wisgo’r wlanen enwog
Ar oer hin - difarw yw’r rôg."

Roedd yn fardd a ddaliai egwyddorion cryf ac ymddiswyddodd o’r Orsedd pan dderbyniodd Cynan (Albert Evans Jones) ei urddo’n farchog ym 1969.

Cynhwyswyd a chyfieithwyd un o’i englynion ar gyfer y gyfrol Oxford Book of Welsh Verse.[4] Dyma’r englyn gwreiddiol[5].

Bargoed
Rhu’n ddi-daw tra bo’n glawio - seiniau mwyn,
Fel sŵn mil yn godro:
Pan geir rhew yn dew ar do,
Daw hynod dethau dano."


Ymgartrefodd yn Llanllyfni a bu'n gweithio i gynghorau lleol yn cynnal ffyrdd y fro. Bu farw ym 1996 yn 90 oed.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiadau 1911 a 1921.
  2. Western Mail: 12/7/48.
  3. Eisteddfod Genedlaethol Cymru – cyfansoddiadau a beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (1952).
  4. The Oxford Book of Welsh Verse/ golygwyd gan Thomas Parry (Rhydychen, 1962).
  5. Gwybodaeth deuluol.