Ellen Glynn, Bryn Gwydion

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Ellen Glynn, Bryngwydion)
Jump to navigation Jump to search

Roedd Ellen Glynn - neu "Glynne" - (bu farw, mae'n debyg, ar ddechrau 1733) yn ferch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn Gwydion, ger Pontlyfni. Er bod ganddi dri brawd, goroesodd Ellen y tri ohonynt, gan etifeddu ystad Bryn Gwydion, sef rhan o hen ystad Plas Newydd. Roedd hi hefyd wedi etifeddu tiroedd Dôl y Moch (ger Ffestiniog) a thiroedd yng Nghricieth a Phenmorfa, rhan o ystâd Clenennau. Bu farw, mae'n debyg, yn ddi-briod, ac yn ei hewyllys, dyddiedig 31 Mawrth 1727, gadawodd ran helaeth o’i hystâd, sef rhannau o Eithinog Wen a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.[1] Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "merched bonheddig dibriod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaenoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.[2]

Mae'n ymddangos iddi gael ei chladdu yn Abaty Westminster, 25 Ionawr 1733, yn nghistfedd y Cadlywydd George Monck (1608-1670), er nad yw'r rheswm am hyn yn amlwg. Gadawodd weddill ei hystâd i'r Foneddiges Gertrude Hotham, Catherine Jones a Margaret Lloyd. Penodwyd Hugh Lloyd o Fôn yn ymddiriedolwr ar gyfer sefydlu'r elusendai, ac at y diben hwnnw fe gafodd Blas Newydd.[3]

Erys y cwestiwn: pam oedd hi wedi mynd i Lundain, a pham y cafodd ei chladdu yn Abaty Westminster, yn yr un gistfedd ag un o arwyr y Rhyfel Cartref. Mae'n bosibl ei bod wedi mynd i Lundain gan ddilyn yn ôl troed perthynas iddi o ddechrau'r ganrif, sef y Parch. Richard Evans; roedd wedi bod yn ficer Llanaelhaearn cyn symud i fod yn ficer Hendon ger Llundain.[4] Dichon fod cysylltiadau rhwng y Glynniaid a rhai yn Llundain wedi parhau - byddai hynny wedi bod yn gyfleustra ac yn rhywbeth i ymfalchîo ynddynt yr adeg honno. Mae'n bosibl ei bod wedi dod yn gyfeillgar â Gertrude Hotham, gwraig Syr Charles Hotham, Bt. Roedd Gertrude yn ferch i Philip Stanhope, 3ydd Iarll Chesterfield - a mam hwnnw cyn ei phriodas oedd y Fonesig Elizabeth Dormer, merch ail Iarll Caernarfon (neu "Carnarvon" fel y'i sillefid yn ddifael yn y cyd-destun hwn). Rhai blynyddoedd ar ôl i Ellen Glynn farw, bu Sir Clement Cottrell Dormer yn rhoi benthyg arian ar forgais i deulu Glynllifon gydag Ystâd Boduan yn wystl. A yw hyn oll yn awgrymu cyd-ymwneud sylweddol neu hyd yn oed aelodau o gymuned ddethol o bobl uchel eu tras?

Ond beth oedd y cysylltiad â theulu Monck? Yr oedd Syr John Glynn, trydydd mab Glynllifon a ymsefydlodd ym Mhenarlâg, yn gyfreithiwr uchel ei statws yn Llundain, ac fel George Monck, y Cadfridog Brenhinol a gefnogodd y Seneddwyr Presbyteraidd yn yr un modd â John Glynn, bu'n un o'r rhai a bwysai ar y brenin Siarl II i ddychwelyd o Ffrainc i Loegr yn dilyn marwolaeth Cromwell a hawlio'r orsedd ym 1660. Hyd yn oed os nad oeddynt yn gyd-weithwyr clos wrth wireddu Adferiad y Frenhiniaeth ym 1660, byddai'n amhosibl iddynt beidio ag adnabod ei gilydd. Fel y gwelir o'i hewyllys, roedd gan Ellen Glynn feddwl o'i thras a'i theulu. Ac a oedd teulu Dormer mewn rhyw gyswllt neu'i gilydd gyda theulu Monck? Amhosibl dweud ond yr oedd ail Iarll Caernarfon, Charles Dormer (1632-1709), yn filwr amlwg ar ochr y Brenin, fel Monck. Oedd y cysylltiad rhwng y teuluoedd yn parhau i gyfrif - ac os felly, a hithau'n ddynes ddi-briod yn marw yn Llundain, a gynigiodd teulu Monck fan claddu parchus ar ei chyfer? Mae'n debyg na chawn ni byth ateb, ond mae'r cysylltiadau'n awgrymu un esboniad posibl.[5]

Mae'r adeilad a elwir yn Tai Elen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog, ond nid hwnnw yw'r elusendai gwreiddiol, er eu bod ar yr un safle.

Roedd Ellen Glynn yn ddisgynnydd i deulu Plas Newydd ac felly'n gyfnither o bell i deulu Glynllifon, ond ni ddylid ei chymysgu gydag Ellen Glynn, un o ferched John Glynn (yr olaf) a fu farw'n ddi-briod ym 1711 - fel y dywedir uchod.[6]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. J. Jones (Llanllyfni), Carn y Gewach, yn Y Brython, 16 Gorffennaf 1858, t.89
  2. A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [1], cyrchwyd 31.12.2020
  3. A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [2], cyrchwyd 31.12.2020. Dalier sylw: mae llawer o'r ffeithiau eraill amdani ar y wefan yn anghywir, gan fod yr awdur wedi ei chymysgu gyda Ellen Glynn, merch John Glynn, a fu farw ym 1711.
  4. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.175
  5. Erthyglau Wikipedia ar y prif gymeriadau a enwir yn y ddau baragraff hyn.
  6. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt. 30, 172-3, 266. Mae peth amwysedd, fodd bynnag, ynglŷn â dyddiadau a chyfenwau teulu Elernion a Bryn Gwydion, a bydd angen mwy o ymchwil i ddeall y berthynas rhyngddynt yn iawn.