Elernion (trefgordd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Elernion oedd enw trefgorff fwyaf gorllewinol cwmwd Uwchgwyrfai yn ystod cyfnod olaf y Tywysogion, ac fe'i barhaodd yn uned ar gyfer casglu trethi ac ati dan drefn Tywysogaeth Gogledd Cymru. Ceir manylion am y drefgordd ym 1352 mewn casgliad o ddogfennau a elwir (braidd yn gamarweiniol) fel y Record of Caernarvon a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Cofnodion ym 1838. Casgliad o ddogfennau o'r 14eg a 15g yw'r gyfrol, a'r cynnwys i gyd (ond am y rhagir) bron i gyd mewn Lladin. Un o'r dogfennau hyn,ac efallai y pwysicaf, yw adysgrif o Stent (sef math o ddfisgrifiad o holl ddyletswyddau a thaliadau sydd ynghlwm wrth ddaliadaeth darn o dir). Mae Stent 1352 yn ddiddorol gan ei fod yn disgrifio holl diroedd y tywysog Seisnig (sef mab brenin Lloegr); fodd bynnag, gan fod cyfraith y tir yn dal fel yr oedd dan ein Tywysogion ni, ceir darlun o drefniant tir, threthi a'r gymdeithas yn gyffredinol yn ystod Canol Oesoedd, trefgordd wrth drefgordd.

Dyma gyfieithiad gweddol rydd o'r adran sydd yn ymdrin â threfgordd Elernion:

ELERNION
Mae yn y drefgordd hon un wely o dir rhydd a elwir yn Gwely Hoedelew ap Llywarch. A’r etifeddion hwnnw yw Hywel ap Dafydd ap Keu’th, Madog Goch ap Einion, Adda Tew a Meredydd ei frawd, Hywel ap Llywelyn, Teg’ ap Hywel ac eraill. A maent yn talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 14s. 2¼c.
Cyfanswm blynyddol: 56s. 9c.
Ac mae ganddynt dwy felin eu hunain yn y drefgordd hon. Ac mae ganddynt ddyletswydd mynychu [llysoedd] y sir a’r cwmwd lle bo a.y.b. Ac maent yn talu 10 swllt o ebediw , gobrestyn  ac amobr  fel y bo’n ofynnol. Amcangyfrifir bod tair bufedd  o dir siêd  a ddaeth oddi wrth Ieuan ap Eweryth sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod ag 1c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon chwarter ran o fufedd o dir siêd a ddaeth oddi wrth Ieuan Du ap Cad’ sydd yn aros yn nwylo’r arglwydd. Ac yr oedd arfer dod â ½c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 2c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel, 4c.
Cyfanswm blynyddol: 4c.
Ac y mae yn y drefgordd hon barsel o dir a elwir yn Ffridd-yr-aur a alwyd yn y rhôl gyfrifon Tyddyn Newat a Tudur Canwyn’ a’i wraig  sydd y tu fewn i diroedd yr arglwydd ac sydd yn nwylo’r arglwydd o ddiffyg tenant. Ac yr oedd arfer dod â 4s. 2c i mewn ym mhob un o’r pedwar tymor adeg y stent diwethaf.
Cyfanswm blynyddol: 16s. 8c.
Ac am y cynnydd mewn rhent a gafwyd trwy ei ailosod gan yr arglwydd ceir rhwng taliadau adeg y Pasg a Gŵyl Sant Mihangel mewn cyfrannau cyfartal, 9s. 8c.
Cyfanswm blynyddol: 9s. 8c.
Ac mae’r tâl a’r cynnydd yn cael eu codi y trefgordd hon gan ringyll y cwmwd hwn pan fydd yr holl sir yn gwneud hynny. Ac yn yr un drefgordd mae un fufedd o dir caeth y mae Madog ?Fain, taeog yr arglwydd Dywysog, yn ei dal ar ei ben ei hun. A mae’n talu ym mhob un o’r pedwar tymor uchod 5c.
Cyfanswm blynyddol: 20c.
Ac mae o’n gwneud yr holl daliadau a gwasanaethau y mae gweddill taeogion yr arglwydd Dywysog yn y cwmwd hwn yn eu gwneud fel y dywedir isod.
 Cyfanswm y mae’r drefgordd hon yn ei dalu’n flynyddol: £4 5s. 7c.

Mae nifer o dermau technegol yn y darn yma. Dyma esbonio rhai ohonynt:

 Ebediw oedd y ddirwy a dalwyd gan etifedd i’r arglwydd wrth iddo gymryd ei etifeddiaeth.
 Gobrestyn oedd y ffi oedd yn daladwy am gael yr etifeddiaeth i dir lle nad oedd yr etifedd yn ddisgynnydd uniongyrchol.
 Amobr oedd y ddirwy a godwyd gan yr arglwydd, yn dechnegol, pan oedd merch yn colli ei gwyryfdod, sef wrth iddi briodi neu ar adegau eraill priodol., 
 Mae Bufedd (bovate yn Saesneg) yn fesur o dir sydd yn gyfateb i’r hen erw Gymreig, sef tua 4 acer heddiw.
 Tir siêd oedd tir a oedd wedi cael ei fforffedu; (estreat yn Saesneg).