Eithinog Wen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Annedd a hen ffermdy yw Eithinog Wen, yn ardal Pontlyfni.

Credir i’r enw Eithinog Wen ar un cyfnod gyfeirio at o leiaf tair annedd a’u tiroedd (sef Eithinog Uchaf, Eithinog-Ganol ac Eithinog Wen). Roeddynt yn ffurfio rhan bwysig o hen drefgorddau Eithinog a Bryncynan yn ôl y Parch. W.R. Ambrose.[1]

Roedd y tiroedd ar un adeg yn nwylo Ellen Glynne, merch Richard Glynne ab William Glynne o Fryn-y-Gwydion. Credir i’r Ellen Glynne a nodir yma werthu llawer o’i hystâd er mwyn sefydlu Elusendai ar gyfer merched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu aelodau o’u teulu i edrych ar eu holau. Y mae adeilad a elwir yn Tai Ellen Glyn yn sefyll hyd heddiw yn Llandwrog, er mai adeilad dyddiedig tua 1897 sydd ar y safle bellach.[2]

Ym mis Chwefror 1953 roedd gwas Eithinog Wen yn aredig un o'r caeau pan aeth swch yr aradr drwy lestr pridd o'r Oes Efydd a ddefnyddid i gladdu llwch ac esgyrn y meirw ar ôl eu hamlosgi yn ôl y dull a ddefnyddid y pryd hynny. Rhoddwyd gwybod i'r ysgolhaig Cymraeg nodedig, Syr Ifor Williams, a drigai erbyn hynny ym Mhontllyfni gerllaw, am y darganfyddiad a daeth Syr Ifor yno, fel mae'n dweud yn ei ysgrif hynod ddifyr gyda'r teitl "Mwg" yn y gyfrol I Ddifyrru'r Amser, "mewn esgidiau mawr, a dillad addas, triwel yn fy llaw, a gobaith ymchwilydd yn fy nghalon". Gwelwyd fod y llestr wedi ei gladdu a'i ben yn isaf ac roedd yr aradr wedi torri ei waelod yn glir i ffwrdd. Crafodd Syr Ifor o'i gwmpas gyda'r triwel i ddechrau ac yna helaethwyd y twll o'i amgylch â chaib a rhaw. Gwaetha'r modd gwelwyd bod y llestr yn frith o graciau, ac wrth ei godi o'r ddaear aeth yn deilchion. Gwelwyd hefyd olion golosg sylweddol o'i gwmpas a oedd yn tystio fod tân mawr wedi ei gynnau yno unwaith, yn ddi-os i losgi'r corff y rhoddwyd ei weddillion yn y llestr. Yna cafwyd hyd i weddillion llestr arall ychydig oddi wrth yr un cyntaf ond roedd hwnnw hefyd wedi malu'n ddarnau.

Fodd bynnag, aeth Syr Ifor â'r darnau (tuag 80 ohonynt) adref gydag ef a'u rhoi yng ngwres yr haul i sychu a chaledu cyn eu harchwilio a cheisio eu rhoi wrth ei gilydd i weld ffurf wreiddiol y llestri hyn a oedd yn dyddio o gyfnod canol yr Oes Efydd, sef tua 1,500 i 1,000 o flynyddoedd C.C. Gwelodd fod gan y llestr cyntaf, a oedd tua 18 modfedd o uchtwr, geg lydan ac agored a bod addurn neu batrwm wedi ei dorri ar ei ochrau â llinyn neu gortyn drwy ei bwyso ar y llestr pan oedd ei glai yn wlyb a meddal. Dyma farn Syr Ifor, yn ei eiriau ei hun, am yr addurn hwnnw: "Rhyw fath o driongl neu chevron oedd ym meddwl y potiwr, ond bodlonodd ar resi ar osgo, chwarter modfedd neu hanner modfedd oddi wrth ei gilydd i'r dde neu'r aswy, a rhyw V fawr ambell dro, fel newid. Cewch esiampl berffaith o'r peth yr oedd o'n ymgeisio ato mewn Llestr Claddu a gafwyd yn Llangynidr, Sir Frycheiniog, neu'r un o Blas Penrhyn, Llangeinwen, Môn." Am y llestr arall a gafwyd yn Eithinog Wen, dywed Syr Ifor mai llestr i ddal bwyd oedd hwnnw, ond a ddefnyddiwyd fel llestr claddu. Dywed fod hwnnw'n llawer garwach ei wneuthuriad ac nad oedd unrhyw addurniadau ar ei ochrau.

Darganfuwyd llestr, neu wrn claddu, o'r un cyfnod ar dir fferm Pennarth yn Aberdesach, rhyw filltir o Eithinog Wen. Roedd hwnnw mewn cyflwr llawer gwell ac wedi ei osod mewn bedd cist bychan taclus wedi ei leinio'n gelfydd â darnau sylweddol o gerrig gwastad. Mae'r darganfyddiadau hyn yn tystio bod cymuned bur sylweddol o bobl yn trigo yn yr ardal hon yn ystod yr Oes Efydd ac wedi mabwysiadu dulliau amlosgi'r meirw a chladdu'r llwch a'r esgyrn mewn llestri (neu ficeri fel y'u gelwir) - dull a ddechreuodd ar gyfandir Ewrop cyn symud i'r gorllewin i Brydain. Y trigolion hyn oedd olynwyr y bobl o'r Cyfnod Neolithig cynharach (tua 2,000 i 2,500 CC) a gladdai eu meirw dan gromlechi enfawr wedi eu gorchuddio â thomennydd pridd - ac fe geir gweddillion cromlech ar dir Pennarth ac un arall mewn cyflwr rhagorol ar dir fferm Bachwen, Clynnog-fawr.

Os hoffech wybod mwy am y darganfyddiad pwysig yn Eithinog Wen, mae'r ysgrif "Mwg" yn I Ddifyrru'r Amser yn werth ei darllen. [3]


Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872)
  2. Gwefan Coflein
  3. Ifor Williams, I Ddifyrru'r Amser, (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon, 1957), tt.29-35.