Eisteddfod Y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae gwreiddiau Eisteddfod y Groeslon i'w canfod yn eisteddfodau a chfarfodydd bach capeli unigol Y Groeslon oedd yn ffynnu yn niwedd y 19g a dechrau'r 20g.

Fodd bynnag, erbyn diwedd y pumdegau ’roedd eisteddfodau’r capeli wedi edwino ond ym 1965 daeth criw at ei gilydd gyda’r bwriad o gychwyn eisteddfod i’r pentref ac fe benderfynwyd cael Eisteddfod Goronog y Groeslon. Y swyddogion cyntaf oedd - Llywydd: Hywel Parry; Bleddyn Jones ac Alun Jones yn ysgrifenyddion; John H. Owen yn drysorydd a Mrs Katie Morris yn ysgrifennydd ariannol. Cytunwyd i gyfyngu Nos Wener i blant y Groeslon a chael eisteddfod ‘agored i’r byd’ ar y nos Sadwrn. Mr Hywel Parry oedd yr arweinydd a Mrs Gwyneth Alban Jenkins a Mr W. H. Roberts yn feirniaid gydag Edwin Williams, Bangor i feirniadu cystadleuaeth y Goron.

Erbyn 1967 ’roedd pob cystadleuaeth dros wyth oed yn ‘agored i’r byd’ a’r eisteddfod erbyn hyn yn Eisteddfod Gadeiriol. Gwnaed llawer o ymdrech i godi arian gan chwilio am grantiau, noddwyr a hysbysebwyr a hefyd cynnal cyngerdd.

Erbyn 1970 hysbysebid yr eisteddfod ar Deledu Harlech ac mewn eisteddfodau lleol. Bu raid cyfethol aelodau newydd at y pwyllgor ac erbyn canol y saithdegau ’roedd tua ugain o aelodau ar y pwyllgor a rennid yn is-bwyllgorau - cerdd, llên ac adrodd, hysbysebu a lluniaeth.

Ym 1982 cafwyd yr Arddangosfa gyntaf o Adran Gelf a Chrefft, a merched y W.I. yn darparu coffi.

Ym 1984 y rhai a enwyd fel rhai posibl i ganu cân y cadeirio oedd - Maldwyn Parry; Arthur Wyn Parry; Iwan Wyn Parry ei fab; John Eifion a Bryn Terfel, i gyd yn enwau Cenedlaethol!

Ym 1988 ar ddechrau seremoni’r cadeirio cafwyd teyrnged gan Mr John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol gynt i’r diweddar Dr John Gwilym Jones a oedd wedi bod yn gefn i’r eisteddfod o’r dechrau. Ym 1989 cafwyd colled arall ym marwolaeth Alun M. Roberts, Tŷ Newydd a oedd wedi gweithredu fel ysgrifennydd am flynyddoedd gyda Mrs Gwyneth Owen.

Bu’n ymdrech barhaus i sicrhau arian i redeg yr eisteddfod am flynyddoedd a chynhelid cymanfa ganu; taith gerdded; gyrfa chwist; gèm bêl droed; sioe ffasiwn a raffl i geisio codi arian. Ar ddechrau’r wythdegau cafwyd cynnig o gi neu ast fach fel gwobr raffl! Ond fe ddaeth pethau’n well ar ôl 1991 pan gafwyd cymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Gogledd Cymru a Chronfa Pantyfedwen. Hefyd, cafwyd grant blynyddol gan y Cyngor Sir o’i chronfa ddegwm sirol.

Bu’r daith gerdded flynyddol o dan arweiniad Eurion Jones yn llwyddiant a’r raffl yn do ag arian i'r coffrau, ynghyd â haelioni o fusnesau lleol yn talu am hysbysebu yn y rhaglen.

Ym 1994 gyda gweledigaeth Eirug Wyn a grant sylweddol gan BT dechreuwyd ar yr Ŵyl Ddrama a chomisiynwyd Ann Catrin, gof lleol ym Mharc Glynllifon, i wneud Tlws John Gwilym Jones ar ei chyfer. Dros y blynyddoedd pan oedd cwmnïau teledu lleol yn bodoli, bu nifer ohonynt yn noddi’r eisteddfod yn hael ac am gyfnod fe gafwyd wythnos o weithgareddau rhwng yr Arddangosfa, yr Ŵyl Ddrama a’r Eisteddfod.

Er bod yr Ŵyl Ddrama yn dal i redeg (ar wahân i gyfnod y Cofid ym 2020-21), daeth yr Arddangosfa Gelf a Chrefft a chystadlaethau adran yr oedolion i ben yn fuan wedi 2000, gan adael Eisteddfod ar gyfer plant lleol a phlant “y byd” ar y pnawn Sadwrn. Fe erys, fodd bynnag, ychydig o gystadlaethau celf a chrefft a llên ar gyfer yr ifanc, a gelwir yr eisteddfod o hyd yn “Eisteddfod Gadeiriol y Groeslon”.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. ‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), tt.104-5; Gwybodaeth bersonol