Eisteddfod Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Bu Eisteddfod Trefor yn achlysur pwysig yng nghalendr blynyddol y pentref am flynyddoedd.

Fe'i cynhelid o gwmpas Gŵyl Ddewi. Yn y neuadd bentref (y Rhyt i bobl Trefor) y cynhelid hi i ddechrau ond yna fe'i symudwyd gan gael ei chynnal bob yn ail yng nghapeli Gosen a Maesyneuadd. Bu ar un adeg yn Eisteddfod Gadeiriol fel y gwelir o raglen Eisteddfod Gadeiriol Gwyl Ddewi Trefor a gynhaliwyd ddydd Llun, 2 Mawrth 1936.[1] Cynigiwyd y gadair ar yr achlysur hwnnw am ddarn o farddoniaeth gaeth neu rydd, heb fod dros 60 llinell, ar y testun pruddglwyfus "Myfyrdod wrth fedd Eben Fardd". Fodd bynnag, er ei bod yn eisteddfod gadeiriol bryd hynny mae'r rhestr gystadlaethau (sydd ar un ochr i boster cymharol fychan) yn ddigon byr. Ceid nifer o gystadlaethau canu i unawdwyr, deuawdau a phartïon bach, ynghyd â chystadlaethau megis cân werin ac unawd offerynnol. Dim ond dwy gystadleuaeth adrodd oedd yna, sef Prif Adroddiad - "Cwyn y Diwaith" gan Rolant Wyn (priodol iawn ynghanol y 30au llwm) a hefyd "Adrodd stori fer chwaethus". Yn ogystal ceid ychydig o gystadlaethau coginio a gwaith llaw, fel gwneud hanner pwys o gyflath a hanner dwsin o grempogau a llunio stand ar gyfer lamp drydan, ac un gystadleuaeth arlunio. Un peth trawiadol iawn oedd nad oedd unrhyw gystadlaethau i blant yn yr eisteddfod bryd hynny.

Erbyn y 1960au a'r 1970au, pan gynhelid yr eisteddfod yn y ddau gapel yn eu tro, roedd bri mawr arni fel y cofiaf yn dda. Er nad oedd yn eisteddfod gadeiriol bellach roedd ganddi raglen helaeth o gystadlaethau canu, adrodd ac offerynnol, ynghyd ag adran farddoniaeth a llenyddiaeth. Cynhelid dau gyfarfod bryd hynny, sef cyfarfod y prynhawn i'r plant a chyfarfod y nos i rai dros tua 16 oed. Yn ystod cyfarfod y p'nawn rhoddid rhubanau (coch, glas a melyn) i'r plant buddugol. Gwneid y rhain gan Mrs Gwladys Jones, Cartrefle, a roddodd flynyddoedd o wasanaeth i'r eisteddfod. Yn wir, byddai derbyn rhuban yn aml yn golygu mwy i'r plant na'r wobr ariannol. Ceid cystadlu brwd yn ogystal yng nghyfarfod y nos, gyda phartïon a chorau, yn ogystal ag unawdwyr, yn dod iddi. Teithiai rhai o bell, a chofiaf Dai Jones, Llanilar, yn ennill ar yr Her Unawd, rai blynyddoedd cyn iddo ennill y Rhuban Glas yn y Genedlaethol. Ni fyddai'n ddim i gyfarfod yr hwyr barhau tan 3 o'r gloch y bore wedyn. Daliodd yr eisteddfod ei thir yn weddol dda yn nechrau'r 1980au ond erbyn diwedd y degawd hwnnw roedd yn edwino a daeth i ben yn gymharol fuan wedyn.[2]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Poster rhaglen Eisteddfod Gadeiriol Gwyl Ddewi Trefor Dydd Llun, Mawrth 2il 1936, papurau Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  2. Gwybodaeth bersonol