Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes a gynhaliwyd dros benwythnos y Pasg 1879 mewn pabell a godwyd yn unswydd yn achlysur unigryw pan ddaeth Eisteddfod Gadeiriol Eryri i Ddyffryn Nantlle. Er bod y gwahanol gapeli'n cynnal eisteddfodau lleol, roedd Eisteddfod 1879 yn achlysur pwysig a ddenodd cystadleuwyr o bell.

A barnu oddi wrth y cyfeiriadau at yr eisteddfod wedi iddi fod, mae'n debyg mai'r cynhyrchiad unigol pwysicaf a wobrwywyd yn ystod yr ŵyl oedd anthem angladdol gan W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion), Gwyn ei fyd y gŵr a obeithio yn yr Arglwydd.[1]

Ni ellir, efallai, wneud yn well na dyfynnu'n llawn adroddiad am yr eisteddfod hon a gafwyd yn y wasg[2]:

EISTEDDFOD GADEIRIOL ERYRI, YN MHENYGROES. 
YR ANRHYDEDDUS C. H. WYNN AR BRIFYSGOL CYMRU. 
Erbyn hyn, y mae Eisteddfod Gadeiriol Eryri, a gynhaliwyd yu Mhenygroes, dyddiau Sadwrn a Llun diweddaf, yn mhlith y pethau a fu. Yr oedd yn llwyddiant peirffaith yn ngwir ystyr y gair — yn llenyddol ac yn arianol, — ac y mae'n llawen meddwl fod ymdrechion canmoladwy y pwyllgor diwyd wedi cael ei goroni a llwyddiant - llwyddiant anarferol pan ystyrir y sefyllfa y mae masnach ynddi ar hyn o bryd. Diau y bydd i bawb a gafodd y fraint o fod yn bresenol yn nghyfarfodydd yr Eisteddfod lewyrchus hon adseinio cynwysiad yr hir a thoddaid canlynol o waith bardd a wobrwywyd yn ystod ei gweithrediadau: 

Ha, wele, heb rith — hen wyl y Brython, 
Nawdd yr Omeriaith - ein heniaith union 
Mor llawen heddyw y mae' r llenyddion, 
A gwedd hygarol; gwau iddi goron 
Yn orchest ei chynyrchion, — cyfodir, 
Y rhai a gerfir ar greigiau Arfon.
Gyda gwasanaeth llywydd llengarol fel y Parch E Davies, Ebrwyad Llanllyfni, ac ysgrifenydd difefl yn mherson Mr G. Lewis, llyfrwerthwr, Penygroes, llwyddodd y pwyllgor i gario allan y symudiad clodwiw hyd at anterth llwyddiant, a chyda phleser mawr y deallasom, ar ddiwedd y gweithrediadau, fod yr Eisteddfod hon yn rhagori ym mhob ystyr ar yr un flaenorol a gynhaliwyd ym Mhenygroes. Adeiladydd y babell brydferth ydoedd Mr Wm. Hughes, Penygroes. Addurnwyd hi yn y modd mwyaf chwaethus a chywrain, a dygwyd y gwaith hwn oddiamgylch gan Mrs Williams, Board School, Llanllyfni; Miss Roberts, Manchester House, eto; Miss Jones, Post Office, eto; Miss Jones, Tydraw-i'r-afon; Miss E. Griffith, Dolifan; Mrs Williams, Board School, Penygroes; Miss Williams, eto; Miss Mackey; Miss Bownes, Tanybryn; Miss Roberts, Yr Ynys; Miss L. Jones, Bethel-terrace; Miss Jones, Mount Pleasant, Talysarn; Miss Dora Jones, eto; Miss Wood, Board School; Miss Jones, Vronoleu; Bryn'rodyn; Miss Watts, Penfforddelen School; Miss Rees, eto; Miss Hughes, Llwyn-y-gwalch, Miss Williams a Miss Roberts, Bryneura; Miss Davies, Pengwern, Caernarfon; Miss Williams, Shop-y-Maes, eto; Miss Ellen Williams, eto; Miss Kate Williams, Grove House, Bangor-street, eto; Miss Emma Paul, Ty'nyweirglodd, Llanllyfni; Miss Jones, Bryndeulyn; Mr Williams, Board School, Penygroes; Mr W. Griffith, Dolifan, a Mr H. Williams, Eryri Quarry, &c. Oherwydd gerwinder yr hin, nid rhyw luosog iawn ydoedd nifer y dyrfa a ddaeth i gyfarfod cyntaf yr Eisteddfod, a gynhaliwyd 
NOS SADWRN
Agorwyd y cyfarfod trwy i Seindorf Bres Dulyn, o dan arweiniad Mr W. Evans (Eos Eifion), chwareu nifer o ddawns-donau a elwid "Autumn," neu, fel y dywedodd y Llew (yr arweinydd), cafwyd ganddynt yr hydref yn y gauaf. 

Yn absenoldeb Mr O. T. Owen, Dorothea, daeth Mr Jones, Cloddfa'r Lon, yn mlaen, a darllenodd yr anerchiad ganlynol i'r Llywydd: "Cyflwynedig i'r Parchedig E. Davies, Rector, Llanllyfni, Cadeirydd Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Eryri yn Penygroes, 1879. - Barchedig syr, Ar ran Pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Eryri, yr hon sydd yn awr ar gael ei chynal yn Penygroes, yr wyf yn ostyngedig gyflwyno i'ch ffafr chwi yr anerchiad hwn fel amlygiad o'r parch a deimlir tuagatoch ar gyfrif eich ymostyngiad a'ch tiriolideb arferol, a'ch defnyddioldeb trwy gyflawniad cyson ac ymroddiadol o'ch swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor, ac fel cydnabyddiad o'ch cymhwysder i eistedd yn nghadair lywyddol ein Heisteddfod. Y mae gan y pwyllgor yr hyfrydwch o ddymuno eich gweled yn parhau i ddefnyddio eich talentau, eich dysgeidiaeth, a'ch gwybodaeth eang i ddyrchafu llenyddiaeth yn ein mysg, i ledaenu gwybodaeth yn gyffredinol, i fod yn foddion i goethi, dyrchafu, a dadblygu talentau yn eu hamrywiol agweddau: ac i argraphu yn ddwfn ar feddyliau ieuenctyd ein cymydogaethau, a'n gwlad yn gyffredinol, y pwysigrwydd iddynt osod yn eu meddwl nôd digon sylweddol, uchel, ac anrhydeddus i ymgyrhaedd ato, modd y bydd yn ddiogel ddibetrus i hwn neu arall eto, eich cyflawn groesawu fel cymwynaswr ac ymgeleddwr pob amcan Cymreig teilwng. Teimlir parch personol i chwi am yr ysbryd hynaws, addfwyn, boneddigaidd, a charuaidd a feddwch tuagat bawb, ac am na welwyd ynoch un amcan i darfu teimladau neb, na rhoddi lle i deimlad o atgasrwydd ffynu yn nghalonau eich cymydogion tuagatoch; ond yn hytrach, meddwch ein dyledus barch am eich cyd-ymdrech i weithio allan amcanion daionus yn gyffredinol, ac yn enwedig am eich zel a'ch gweithgarwch ar ran sobrwydd a dirwest - ar ran rhinwedd, a phob daioni, yn foesol a chrefyddol. Derbyniwch gan hyny, yr arwydd bychan yma o'n parch i chwi, a'n cydnabyddiaeth o'ch gwasanaeth gwerthfawr yn amrywiol gylchoedd cymdeithas. Parhaed eich diwydrwydd, eich zel, eich gweithgarwch, a'ch defnyddioldeb yn ein mysg. Parhaed a chynydded y brawdgarwch a feddwch tuagat bawb yn gyffredinol ddieithriad: a chaffed ohonoch ysbryd helaethach eto i wneuthur daioni yn dymhorol, moesol, a chrefyddol. A thywallted y ffurfafen ragluniaethol ei gronynau elusengar yn helaeth arnoch, gyda hir oes ac iechyd i'w mwynhau: a'ch bywyd a fyddo hyd fedd yn anrhydedd i chwi, ac yn anrhydedd i'ch gwlad a'ch cenedl" (uchel gymeradwyaeth).

Y llywydd parchedig, wrth godi i draddodi ei anerchiad. a dderbyniwyd gyda banllefau o gymeradwyaeth cynes. Os, meddai, yr oedd ei gyfaill Mr Herbert Jones wedi amlygu ei anghymwysder i ddarllen yr anerchiad, llawer mwy anghymhwys oedd ef (y llywydd) i'w derbyn; ond gan fod teimladau da y pwyllgor yn gynwysedig yn yr hyn a ddarllenwyd, nid oedd ganddo ef yn y lle cyntaf ddim i'w wneyd ond cyflwyna iddynt, un ac oll, ei ddiolchgarwch gwresocaf. Yr oedd yn bleser mawr iddo ef gael cydweithredu a hwy yn nygiad oddi amgylch y cyfarfodydd eisteddfodol hyn, pa rai, hyderai, fyddent yn anrhydedd iddynt hwy fel cymydogaeth, ac yn fendith arosol iddynt fel cenedl yn y dyfodol, trwy eu cynysgaeddu hwy a'r fraint o gael darllen, drosodd a throsodd drachefn, y gwahanol gyfansoddiadau a dderbyniwyd (cymeradwyaeth). Credai ef fod yr hen sefydliad gogoneddus ag yr oeddynt hwy yn awr yn ei gynhal yn Mhenygroes yn haeddu cydweithrediad a serch pob Cymro trylwyr trwy'r holl Dywysogaeth, a phawb drwy'r byd yn ddiwahaniaeth. Yr oedd ef yn credu - er fod rhai ar y llwyfan hon yn fwy galluog nag ef i draetliu ar y pwnc hwn - mai dyma'r unig nodweddiad cenedlaethol a bcrthynai i'r Cymro sydd yn gwahaniaethu oddiwrth eiddo cenedloedd ereill ar wyneb y ddaear - yr eisteddfod (clywch, clywch, a chymeradwyaeth). Nid oedd ef yn meddwl dyweyd fod y Cymry ar y blaen ar ddosparthiadau ereill mewn dysgeidiaeth; ond hyn a ddywedai, nad oedd gan yr un genedl ond cenedl y Cymry ei Heisteddfod. Meddent brofion o fodolaeth yr Eisteddfod cyn cred. Bu y sefydliad hwn yn orsedd barn a llywodraeth i'w cyndadau, a bendithlawn a fu yn mhob oes. Prif dueddiad yr Eisteddfod yw, neu ddylai fod, dal i fyny a meithrin gwybodaeth o'r iaith Gymraeg — iaith ag yr oeddynt hwy ac yntau yn ei charu o waelod eu calonau, iaith yn mha un yr oeddynt yn gallu addoli, siarad, a gwrandaw er pleser ac adeiladaeth, a hyny yn llawer gwell nag mewn unrhyw iaith arall, pa mor glasurol bynag doedd (cymeradwyaeth). Adeg ddu ar Gymru fyddai yr adeg hono pan fyddai yr iaith Gymraeg fel rhwng byw a marw, a phan fyddai y cenedl yn methu gwahaniaethu y naill iaith oddi wrth y llall. Er atal hyn, bydded iddynt oll fel cenedl wneyd eu goreu dros gadw yr hen iaith anwyl yn fyw, a hyny yn ei phurdeb gramadegol; ac ond iddynt wneyd hyn, byddai iddynt ganfod ynddi fwn cyfoethog, a thrysorau gwerthfawr iaith ddysgedig a chlasurol (cymeradwyaeth). A chan mai iddynt hwy yn unig yr oedd yr Eisteddfod yn perthyn, eu dyledswydd hefyd oedd gwneyd eu goreu trwy aberthu eu talent, eu hamser, a'u harian, mewn trefn i gynorthwyo i'w chario yn mlaen o oes i oes. Yna cyfeiriodd y llywydd parchedig at yr enwogion a gyfododd yr Eisteddfod, gan sylwi ar y rhai ymadawedig o'n cyd-genedl ag yr oedd eu henwau yn britho muriau y babell ar bob llaw — enwau enwogion nas gallasem wneyd yn llai na'u caru (cymeradwyaeth). Ar lwyfan yr Eisteddfod yr oedd pob gwahaniaeth barn, yn grefyddol a gwleidyddol, yn cael ei ymlid dros ei godrau, a brawdgarwch a thymher dda yn ffynu. Wrth derfynu amlygodd ei hyder y byddai i'r cyfeillion hyny a lafuriasant yn ystod y misoedd a aethent heibio gael y pleser o wybod nad aeth eu llafur yn ofer, ac y byddai yr eisteddfod hon yn foddion i ddwyn eu cynyrchion i "wyneb haul a llygad goleuni" (uchel gymeradwyaeth). 
Wedi hyny, aethpwyd yn mlaen gyda gwaith y cyfarfod yn y drefn ganlynol:-Darllenodd y Parch Robert Llanllyfni. feirniadaeth y Parch T.C. Edwards, M.A., ar y traethodau, "Dyledswydd bresenol Cenedl y Cymry i fabwysiadu rhagoriaethau a gochel diffygion cenedloedd ereill y Deyrnas Gyfunol;" gwobr. 4p. 4s. a bathodyn. Un gyfansoddiad a ddebyniwyd, sef eiddo Mr O. Jones (Glan Menai), Caernarfon, yr hwn a ddyfarnwyd yn deilwng o'r pedwar gini yn unig. — Yn y gystadleuaeth mewn areithio ar "Goreu arf, arf dysg," dyfarnodd Gwalchmai a'r Parch Robert Thomas y wobr i Mr Robert Jones, Penygroes, yr hwn a arwisgwyd gan Miss Jones, Wernlas. - Wrth alw ar Mr William Davies, Rhos, i ddyfod yn mlaen i ganu "Baner ein Gwlad," dywedodd yr arweinydd ei fod, o ran oedran, yn ddigymhar fel tenor. Canodd y gwr ieuanc hwn yn ardderchog.- Ymgeisiodd dau fachgen ieuanc mewn datganu Yr unawd, "Hiraeth am eu gweled," ac fel y dywedodd yr arweinydd, yr oedd ar bawb "hiraeth am weled" y gystadleuath drosodd, gan mor waeI ydoedd y canu. Dyfarnwyd haner y wobr i D.S. Davies, 'Penygroes. - Allan o bump-ar-hugain o ymgeiswyr dyfarnodd Gwalchmai y wobr o haner giui i Ceulanydd, Talysarn, am yr englynion ar y "Geiniog". - Deuawd "Solffa duett" gan Miss Griffith, U,C.W,, a Llew Llwyfo, yn gampus.- Darllenodd Mr Thomas Lloyd Jones, Talysarn, feirniadaeth Mr J. J. Evans, Brynderwen, Bethesda, ar yr "Offerynau Chwarelyddol," a dyfarnwyd haner y wobr i Mr Henry Parry, Ty'nllan, Llanllyfni, yr hwn a arwisgwyd gan Miss Owen, y Rectory, Llanllyfni. - Un cor, sef Cor Bryn'rodyn, Llandwrog, a ddaeth i gystadlu mewn datganu "Ffarwel i ti, Gymru fad," o waith Dr Parry. — Darllenwyd beirniadaeth yr Archddiacon Evans ar y traethodau Gwaddoliadau Addysgiadol ac Elusenol sir Gaernarfon, yn nghyda byr gofiant o'r Gwaddolwyr; gwobr, 5p., gan Mr J. Robinson, Talysarn. Un cyfansoddiad a ddaeth i law, ond nid oedd yr awdwr yn deilwng o'r wobr. — Deuawd gan Miss Hannah Williams, U.C.W., a Mr W. Davies, U.C.W., yn bur dda. — Beirniadaeth Llew Llwyfo ar y Tuchan-gerdd "Ffasiynau yr Oes;" gwobr, lp. 1s.; dau o gyfansoddiadau a anfonwyd i'r gystadleuaeth, ond nid oedd y naill na'r llall yn deilwng o'r wobr. 
Cafwyd beirniadaeth ddysgedig gan Mr D. Jenkins, M.B., ar y datganiad corawl. Gwendid yn y corau Gymreig, meddai, ydoedd eu bod yn ymwneyd gormod â darnau cerddorol mawr a chryf, ar draul esgeuluso y tlws a'r dymunol. Ar y cyfan, yr oedd nodau y cor yn lled gywir, ond y prif fai oedd nad oedd y lleisian yn ymdoddi i'w gilydd, ac allan o gywair, serch fod y cyfeilydd (Mr J. H. Roberts, A.R.M.) yn gwneyd ymdrech ganmoladwy i'w dal at eu gilydd. Yn ystod y tair neu bedair Eisteddfod diweddaf y bu ef ynddynt yr oedd yn cael ei flino yn fawr iawn gan y bai hwn mewn corau. Yr oedd diffyg yn bod yn rhywle, a da fuasai ganddo weled arweinyddion corau yn talu sylw i'r bai o amgylchu nodau yn lle treiddio i fewn iddynt, a gwneyd eu lle a'u cartref ynddynt. Wrth derfynu, cynghorodd y corau i ymarfer y glust, a thrwy hyny symud ymaith y diffyg a soniodd am dano. Gan fod y cor a ddaeth yn mlaen yn cael ei nodweddu gymaint gan y bai hwn, cynghorodd y pwyllgor i roddi iddo haner y wobr, sef 3p. 3s. 6c. Daeth yr arweinydd, Mr William Hughes, Bryn'rodyn, yn mlaen, ac arwisgwyd ef gan Miss Jones, Bryn-deulyn.—Wedi i Mrs Cordelia Edwards, ganu "R'oedd ganddi goron flodau," terfynwyd y cyfarfod gyda datganiad cyffredinol o "Hen wlad fy nhadau." 
DYDD LLUN. 
Am naw boreu heddyw, ffurfiwyd gorymdaith o feirdd a llenorion gerllaw y Stag's Head, o ba le yr ymdeithiwyd i faes cyfagos, lle yr agorwyd yr Orsedd, ac yr urddwyd amryw ymgeiswyr yn feirdd, llenorion, ac yn gerddorion. Wedi hyny aethpwyd i gyfarfod llywydd y dydd, yr hwn a wnaeth ei ymddangosiad yn y babell yn mherson Mr W.A. Darbishire, Nantlle, a'r hwn hefyd a dderbyniwyd gan y dyrfa fawr mewn modd croesawgar iawn. Arweiniwyd y gweithrediadau gan Llew Llwyfo. Mewn atebiad i anerchiad longyfarchiadol a draddodwyd iddo gan y Parch P. W. Jones, cododd y llywydd yn nghanol cymeradwyaeth y gwyddfodolion, a diolchodd yn wresog i'r pwyllgor am yr anrhydedd a osodasant arno trwy ei ddewis i'r gadair lywyddol am y boreu hwnw. Yr unig reswm, credai, dros eu gwaith yn ei anrhydeddu fel hyn ydoedd, modd y gallai gael cyfleustra i amlygu ei gydymdeimlad, a chynyg ei gefnogaeth i eisteddfodau yn gyffredinol, ac yn enwedig felly i Eisteddfod Gadeiriol Penygroes. Yr oedd eisteddfodau yn cael eu trosglwyddo o oesoedd a fu fel rhan o fywyd cymdeithasol deiliaid ei Mawrhydi yn y parth hwn o'i thiriogaethau. Mor hynafol oeddynt fel yr ymddangosant ychydig flynyddau yn ol i gyrhaedd eu holaf awr ac, os oedd efe yn cael ei iawn hysbysu, yr oedd y pryd hyny yn ddymunolbeth i'w gweled yn cael eu dileu, gan mai cyfarfodydd oeddynt yn orlawn o ffolineb ac afresymoldeb, ae yn rhy aml yn terfynu mewn oferedd ac annhrefn. Ond, yn ffodus, yr oedd y gwraidd o fywydoliaeth a feddent yn cael ei gydnabod, ac yr oeddynt wedi cael eu hadnewyddu, yn ogymaint a'u bod yn awr yn cyflenwi angen neillduol yr oes. Dymunol oedd cael rhyw ddifyrwch ac adeiladaeth fuddiol yr oedd yr Eisteddfod, yn ei gwahanol agweddau, yn rhoddi hyn i ni, ac yn yr ystyr yma haeddai gefnogaeth pawb yn ddiwahaniaeth (uchel gymeradwyaeth). 
Yna aethpwyd yn mlaen gyda'r drefnlen, trwy i'r Parch Robert Thomas ddarllen beirniadaeth y Parch D. C. Davies, M.A., Llundain, ar y cyfieithiadau o "Anffyddiaeth;" gwobr 3p. Derbyniwyd llawer o gyfansoddiadau, ond rhanwyd y wobr rhwng Mr R. Harrison, Pensarn, Abergele, a Mr Hugh Hughes, Countes Thorpe, Derby. Canodd Miss Griffith a Mr W. Davies ddeuawd allan o Blodwen, a gwnaethent eu gwaith yu ganmoladwy. Dr Roberts, Penygroes, a ddarllenodd feimiadaeth fanwl ar y traethodau ar "Iawn-reolaeth ystafell y claf," yr hwn destyn oedd yn gyfyngedig i ferched; gwobr, 2p, a bathodyn. Yr oedd naw yn cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Miss Edwards, Ebenezer, Llanllyfni. Un Seindorf, sef Seindorf Bres Dulyn, a ddaeth yn mlaen i gystadlu ar berfformio y "Nantlle Vale Fantasia" (Mr Jarrett Roberts), gwobr pedwar gini. Wrth draddodi ei feirniadaeth, dywedodd y beirniad (Mr Jenkins) fod y dernyn yn un hynod anhawdd, yn enwedig mewn rhai manau, ac ei fod yn haeddu mwy o wobr nag a gynygiwyd gan y pwyllgor. Darfu i'r band gychwyn yn lled dda, ond yr oeddynt o dan ychydig o anfantais gan fod un o'r chwareuwyr yn absennol. Pur ddymunol fuasai gweled Cymry yn talu mwy o sylw i gerddoriaeth offerynau tant (cymeradwyaeth). Y perygl mawr yn Nghymru y dyddiau presenol oedd i bawb redeg i un cyfeiriad — canu lleisiol. Anogai hwy oll i feddwl am gyfeiriad arall - i dori cyfeiriad newydd gyda seindyrf tant. Darfu i'r band chwareu yn bur dda, a theilyngai y wobr. Arwisgwyd yr arweinydd, sef Mr William Evans (Eos Eifion), gan Mrs Williams, Board School, Penygroes. — Darllenwyd beirniadaeth y Parch. T. C. Edwards, M.A., ar y cyfieithiadau, "The literature of Britain" (Macaulay); gwobr, 10s 6c; yr oedd unarddeg wedi cystadlu, a dyfarnwyd y wobr i Mr Robert Hughes, cysodydd, Caernarfon, cynrychiolydd yr hwn a arwisgwyd gan Miss Rees, Penfforddelen. — Yna cafwyd cystadleuaeth ddyddorol ar y wisg Gymreig; gwobr, gini, gan Mr T. Lloyd Jones, Talysarn. Y beirniaid oeddynt Mrs Davies, Rectory, Llanllyfni; Mrs Price, Rectory, Clynog; a Mrs Jones, Coedmadog. Daeth tair boneddiges mewn gwisgoedd Cymreig ar y llwyfan, a chynyrchodd eu presenoldeb yn y wedd hono ddifyrwch anghyffredin. Dyfarnwyd Mrs Ann Parry, High-street. Penygroes, yn deilwng o'r wobr gyntaf, a rhoddwyd haner gini yn wobr i'r ddwy arall. Arwisgwyd y tair ladi gan Mr Henry Williams, chwarel Fronheulog; Mr William Griffith, Doliwan; a Mr Hugh Jones, Post Office, Carmel. — Traddododd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr arweinffyn (batons); gwobr, 10s 6c. Ymgeisiodd tri, un o ba rai a arddangosodd fedrusrwydd neillduol trwy gyfuno seinfforch â'r ffon. Cynghorai y gwneuthurwr i fynu cael patent ar y ffon hon. Enillwyd y wobr gan Mr P. Roberts, peirianydd, Coedmadog. Cafwyd can hynod o swynol gan Miss Hannah Williams, ac hysbyswyd mai hi oedd y foneddiges tuag at addysgiaeth gerddorol yr hon y cyfranodd y llywydd bum' gini. — Hysbysodd Mr Jenkins fod yn bleser mawr ganddo ddyweyd fod y llywydd haelionus, Mr Darbishire, wedi addaw gwobr o ddeg gini i seindorf tant am chwareu fantasia oreu y flwyddyn nesaf, a phum' gini i'r ail oreu (cymeradwyaeth). - Mr William Jones (Alwenydd) ydoedd awdwr y beddargraph goreu i'r diweddar Mr John Williams, Brynaera; gwobr, gini. Arwisgwyd ei gynrychiolydd, Mr Griffith Powell, gan Miss Watts, Penfforddelen. — Cafwyd pedwarawd ardderchog o waith Mr Jenkins gan Miss Gayney Griffith, Miss Hannah Williams, Mr William Davies, a Mr D. Jenkins. - Darllenodd Mr Jenkins ei feirniadaeth ar yr anthem i'w chanu mewn angladd gweithiwr; gwobr, 5p 5s. Awdwr y cyfansoddiad goreu ydoedd Mr W. Jarrett Roberts (Pencerdd Eifion), R.A.M., Caernarfon, yr hwn, meddai y beirniaid, oedd yn wir deilwng o'r wobr. Arwisgwyd ef gan Mrs Davies, Rectory, Penygroes. - Cân, 'Dychweliad y bardd,' gan Llew Llwyfo, yn gampus. — Côr Llanllyfni, o dan arweiniad Mr Jones, yn unig a ddaeth yn mlaen i gystadlu mewn datganu anthem Pencerdd Gwynedd, 'Pwy yw y rhai hyn?' gwobr, saith gini. Rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r datganiad gan y beirniad talentog, Mr Jenkins, ac arwisgwyd yr arweinydd yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth - Derbyniwyd pump o gywyddau ar 'Unigedd;' gwobr, 2p 2s a bathodyn. Tudwal oedd y goreu o ddigon, ac arwisgwyd ef gan Mrs Williams, Board School, Llanllyfni. Terfynwyd cyfarfod y boreu gyda pherfformiad gan y seindorf. 
CYFARFOD Y PRYDNAWN. 
 Yr oedd y babell yn llawn o Eisteddfodwyr brwdfrydig, ond ar y cyntaf, yr oedd rhai o'r "chwecheiniogolion" yn orfrwdfrydig, fel y gorfu i'r Llew ruo mwy nag unwaith. Rhoddwyd derbyniad croesawgar i'r llywydd, sef Mr H. J. Ellis Nanney, Gwynfryn Hall, i'r hwn y darllenwyd yr anerchiad longyfarchiadol a ganlyn gan y Parch L.C. Jones: "Syr, - Dros Bwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Eryri, a gynhelir yn Mhenygroes, Sadwrn a Llun y Pasg, 1879, y mae genym yn y lle cyntaf i ddiolch i chwi am eich parodrwydd a'ch hynawsedd yn dyfod i lywyddu ar yr achlysur, yr hyn sydd yn eglur ddangos eich bod yn wresog gefnogi, ac yn cydymdeimlo yn ddwfn â phrif sefydliad cenedlaethol y Cymry. Gwyddom nad ydych trwy hyn ond yn gweithredu yn ol eich arfer gyffredin, sef rhoddi pob cefnogaeth i bob sefydliad ag y credwch ei fod yn tueddu i ddyrchafu a lleshau eich cydwladwyr. Fel tirfeddianwr eang ac ynad heddwch dylanwadol, y mae eich enw yn hysbys yn yr holl wlad. Ac y mae hen deulu urddasol y Gwynfryn yn sefyll yn uchel a pharchus yn mysg boneddwyr ein gwlad fel cefnogwyr llenyddiaeth a barddoniaeth Gymreig. Yn y flwyddyn 1812, cawn i Mrs Nanney, o'r Gwynfryn, ymweled â'r bardd a'r llenor claf Shon Wyn o Eifion, gan fenthyca iddo amryw lyfrau gwerthfawr. Yn y flwyddyn ganlynol, pan oedd y bardd Saesneg Shelley ar ymweliad a'r teulu, cawn iddi eilwaith ymweled â'r bardd claf, gan gymeryd y bardd Saesneg gyda hi i weled y bardd Cymraeg. Ac yr ydym yn llawenhau eich bod chwithau fel eich henafiaid yn cefnogi llenyddiaeth eich gwlad. A chan mai amcan yr Eisteddfod yw meithrin talent, cefnogi llafur, puro chwaeth, dyrchafu moesau, a chadw yn fyw yn mynwesau meibion glan 'Walia Wen' ymlyniad serchog wrth eu hiaith, eu traddodiadau, eu barddoniaeth, eu cerddoriaeth, a chan eich bod chwi yn Gymro twymgalon o 'waedoliaeth cyfa', teimla y pwyllgor y bydd yr Eisteddfod yn sicr o gael cefnogydd gwresog ynoch chwi. Dymunwn yn ddidwyll i chwi hir oes i wasanaethu eich gwlad yn yr hyn oll a duedda i'w gwir ddyrchafu a'u lleshau, a gobeithiwn, tra y bydd derwen yu tyfu ar etifeddiaeth Gwynfryn a Phlas Hen; tra y bydd y fronfraith a'r fwyalchen yn pyncio eu nodau cerdd rhwng cangau y coed; tra y bydd dwfr grisialaidd afon Dwyfor yn murmur ei alawon peroriaethus wrth ymdreiglo hyd wely o rian mân, y gellir dyweyd am etifeddion y Gwynfryn a Plas Hen, eu bod hwy yn gyfryw rai ag ydych chwi, syr, yn caru eich gwlad, a'ch iaith, a'ch cenedl. Dros y pwyllgor, - J. C. JONES." 
Atebodd y llywydd, mewn Cymraeg hyglyw a chroew, trwy ddyweyd ei fod yn dra diolchgar i'r pwyllgor am y dull serchog yn mha un y llefarwyd am hen deulu Gwynfryn. Yr oedd yn bleser ganddo ef gael cyfarfod â chymaint o'i gydwladwyr yn y Eisteddfod a gynhelir yn Mhenygroes, ac yr oedd presenoldeb cymaint ohonynt yn dangos y fath gariad oedd ganddynt tuagat eu hiaith a'u gwlad. Nid prif amcan eisteddfodau ydoedd cynorthwyo y rhai y mae talentau ganddvnt, ond i ddwyn y rhai sydd yn feddianol ar dalentau i sylw. Yr oedd yn bleser ganddo ef fod yn bresenol, ac addawodd rhoddi iddynt bob cynorthwy oedd yn ei allu. Diweddodd trwy dalu y diolchgarwch gwresocaf i aelodau y pwyllgor am yr anrhydedd a osodwyd fel hyn arno, ac am eu hymdrechion i wneyd yr Eisteddfod yn deilwng yn mhob ystyr ohonynt fel Cymry. Yr oedd yn dra sicr hefyd fod y beirniaid am wneyd eu goreu i ddyrchafu cyfarfodydd yr Eisteddfod, a dymunai ef iddynt fod yn gyfryw ag y byddai pobl estronol yn gweled eu rhagoriaethau. Weithiau, yr oedd pobl ddieithr yn well beirniaid ar bethau cenedlaethol na'r genedl ei hun, gan nad oedd eu perthynas hwy yn gwyro barn. Gan fod y program mor faith, nid oedd efe am gymeryd ychwaneg o'u hamser, ond diolchai unwaith yn rhagor am y derbyniad eiriol a roddwyd iddo (uchel gymeradwyaeth). 
Traddodwyd anerchiadau barddonol gan Glan Caeron, Eos Eifion, ac Iolo Glan Twrog. — Ystwythian ydoedd y buddugol ar y ddau englyn goreu i'r 'Goleuni Trydanol'. Nid oedd y traethodau ar 'Llinelliad Daearegol o Ddyffryn Nantlle,' gwobr lp 1s, yn deilwng o'r wobr. Beirniad, Mr J. J. Evans. — Gystadleuaeth y solo tenor 'Y Gardotes Fach', gwobr, 10s 6c. Rhanwyd y wobr cydrhwng Mr Richard Rogers, Penygroes, a Mr Henry Jones (Harri o Wynedd). Darllenwyd beirniadaeth ddoniol Mrs Evans ar yr hosanau gan Gwalchmai. Daeth pymtheg o 'barau' i law. Eiddo Mrs Jane Lewis, Cefn Trevor, ydoedd y goreu. —  Darllenwyd beirniadaeth y Parch T.C. Edwards, M.A., ar y traethodau, 'Egwyddor y Dadblygiad,' gwobr, 12p a bathodyn, gan y Parch R. Thomas, Llanllyfni. Yr ymgeisydd buddugol ydoedd y Parch T. Jones Humphreys, gweinidog Wesleyaidd, Llanfair Caereinion. — Seindorf Bres Nantlle, o dan arweiniad Mr Hartman, yn unig a ddaeth yn mlaen i gystadlu ar berfformio 'On Guard,' a chyflawnasant eu gwaith yn ardderchog yn mhob ystyr, a rhoddodd Mr Jenkins ganmoliaeth uchel iddynt. Y wobr ydoedd deg gini; arwisgwyd yr arweinydd gan Miss Alice Williams, Grove House, Caernarfon. —  Ar hyn daethpwyd at brif waith y dydd, sef darllen y feirniadaeth ar destyn 
Y GADAIR. 
Y wobr ydoedd deg gini, a chadair dderw ardderchog, o wneuthuriad Mr David Morgan, cabinet-maker, Caernarfon, — cadair a gerfiwyd yn y modd mwyaf cywrain a chelfydd. Darllenodd Gwalchmai feirniadaeth fanwl ar y tri chyfansoddiad a ddaeth i law, ar y testyn 'Clawdd Offa,' a rhoddwyd iddo wrandawiad astud gan y dyrfa fawr. Meddai y tair awdl raddau uchel o deilyngdod, ac yr oedd ynddynt ddesgrifiadau hynod rymus. Yr awdwyr oeddynt 'Derwydd,' Edeyrn,' ac Elisau,' awdl yr hwn a fawr ganmolwyd, ac a ddyfarnwyd yn deilwng o gadair Eisteddfod Eryri yn Mhenygroes, 1879. Ar alwad yr arweinydd, gwnaeth Elisau ei ymddangosiad yn mhierson Mr David Evan Davies (Dewi Glan Ffrydlas), Treflys, Bethesda, a chadeiriwyd ef gyda rhwysgfawredd gan Gwalchmai ac Elis Wyn o Wyrfai, a lluaws o feirdd eraill. Wedi i anerchiadau barddol gael eu traddodi, arwisgwyd y bardd cadeiriol gan Miss Jones, Post Office, Talysarn, a rhoddwyd iddo fanllefau uchel o gymeradwyaeth gan y dyrfa fawr. 
A ganlyn ydoedd anerchiad farddol Tremlyn ar achlysur y Cadeirio: — 
Fel hyn, troes testyn pob 'stŵr—o gynen,
Yn gân i Eluswr;
Gwalchmai rydd gadair i'r gŵr,
Ac hawl iddi, fel cloddiwr."
Canodd Mrs Cordelia Edwards, 'Rwy'n cofio'r adeg ddedwydd,' ac aethpwyd gyda'r rhelyw o waith y cyfarfod trwy i Gwalchmai ddarllen ei feirniadaeth ar y bedd-argraphiadau i'r diweddar Mr J. H. Williams, Glanbeuno. Rhanwyd y wobr, sef ugain swllt, rhwng Gwilym Alltwen ac Ap Padarn, Llanberis. Cynrychiolwyd yr Alltwen gan Dr Evans, Penygroes. — Yn nesaf cafwyd cystadleuaeth gorawl ar y cydgan 'Haleliwia, Amen,' ('Arch y Cyfamod,' Jenkins): gwobr, 25p. Daeth tri o gorau yn mlaen, sef eiddo Talysarn (85), arweinydd, Mr Henry Hughes; Penygroes (110), arweinydd, Mr Hugh Jones; Llanllyfni (87), arweinydd, Mr William David Jones. Cafwyd unwaith yn rhagor feirniadaeth ddysgedig gan Mr Jenkins, yr hwn, dylem grybwyll, ydyw awdwr y gydgan ardderchog a ddatganwyd. Dechreuodd y cor cyntaf yn lled dda, ond digwyddodd iddynt yr anffawd hwnw o golli y pitch trwy iddynt godi, yr hyn a osododd y lleisiau o dan anfantais, gan eu bod yn gorfod canu yn galed. Ni ddangoswyd ychwaith ddigon o wahaniaeth rhwng amser y gwahanol ddosranau, a gallesid gwneyd gwell climax nag a gafwyd. Yr ail gor hefyd (sef eiddo Penygroes) yn dechreu yn lled dda, ond yn codi yn y pitch, a thrwy hyny yn myned allan o tune, fel ag i wneyd y donyddiaeth yn boenus i'r glust, yn enwedig felly pan genid y nodau uchaf. Ni thalodd y cor hwn ddigon o sylw i amseriad y cydgan. Cafwyd dechreuad da iawn gan y trydydd cor, ac yr oedd lleisiau yr aelodau yn ymdoddi i'w gilydd, yn enwedig felly yn y fugue cyntaf. Er eu bod hwythau wedi syrthio i'r anffawd o fyned i pitch uwch, eto, yr oedd eu lleisiau yn dal i fyny yn fwy cynghaneddol na'r corau ereill, a chafwyd climax gwell, gyda gwell datganiad o'r fugues, yn enwedig gan y soprano. Dangosid hefyd ddigon o wahaniaeth gyda'r amser. Dyfarnodd ef y wobr i'r cor olaf hwn, sef cor Llanllyfni, ac arwisgwyd yr arweinydd yn nghanol banllefau o gymeradwyaeth byddarol. Rhoddodd y feirniadaeth foddlonrwydd cyffredinol. 
Y CYFARFOD HWYROL. 

Yr oedd y babell yn orlawn yn mhell cyn chwech o'r gloch, pryd y cymerodd yr Anrhydeddus C. H. Wynu, Rhug, y gadair lywyddol, ac yr arweiniwyd y gweithrediadau gan Elis Wyn o Wyrfai. Wedi i Seindorf Nantlle chwareu nifer o alawon poblogaidd, darllenodd y Parch E. Davies anerchiad cyfarchiadol i'r llywydd anrhydeddus. Derbyniwyd yr anrhydeddus Mr Wynn gyda banllefau uchel o gymeradwyaeth pan gyfododd i gydnabod yr anerchiad. Dywedodd yr Anrhydeddus Lywydd y byddai iddo edrych arni fel y wobr fwyaf a gafodd erioed, ac y byddai iddo ei thrysori hyd ddydd tranc (uchel gymeradwyaeth). Nis gallai y cyfeiriadau caredig a wnaed ynddi at ei dad lai nag enyn atebiad ar ei ran ef, a byddai gywilydd ganddo ef, fel ei fab, pe nas gallai roddi wrth eu gilydd ychydig eiriau i ddiolch iddynt yn y modd mwyaf didwyll, ar ei ran ei hun, ac hefyd ar ran ei dad, am yr amlygiad o deimlad a gyflewyd yn yr anerchiad a ddarllenwyd. Llawen ganddo ef, fel ei fab, fod y gwaith caled a wnaed ganddo yn y sir hon wedi cael ei werthfawrogi (cymeradwyaeth). Nid oedd ef (y llywydd) yn gwybod am unrhyw ddyn a ddymunai lai am yr hyn a wnaeth na'i dad; ond eto, nis gallai yr amlygiad cynhes hwn o'i heiddynt hwy lai na pheri boddhad iddo, trwy wybod fod ei wasanaeth yn cael ei werthfawrogi. Yn mhellach, boddheid ef a'r Anrhydeddus Mrs Wynn (yr hon oedd yn bresenol) yn fawr wrth feddwl fod un (ei fam) a gymerwyd ymaith ugain mlyiiedd yn ol o hyd yn parhau yn fyw yn meddyliau y Cymry. Yr oedd cof-golofnau yu bethau da yn eu ffordd; ond o'i ran ei hun, nid oedd dim a ddymunai ef mwy na chael ei goffadwiaeth yn gerfiedig yn nghalon pob Cymro (cymeradwyaeth). Er ei fod yn trigo yn mhell oddiwrthynt, yr oedd ei feddwl ef yn aml yn gwibio i Benygroes. Y peth cyntaf yr oedd efe erioed yn ei gofio oedd gyru trwy Benygroes, a physgota yn yr ardal hon gyda Robert Tomos, hen fwtler ei dad. Gyda golwg ar yr Eisteddfod, gallai ef ddyweyd iddo bob amser fod yn gefnogwr gwresog i'r sefydliad hynafol hwnw, gan y credai ei fod yn tueddu i ddyrchafu moesau ei gydwladwyr. Nid oes dim, yn ei farn ef, a dueddai i ddwyn hyn oddiamylch yn well na'r Eisteddfod Genedlaethol (cymeradwyaeth). Cyfeiriwyd yn yr anerchiad nad oedd arno ef gywilydd i arddel ei hun yn Gymro; na, nid oedd arno gywilydd, oblegid o'r holl wledydd a dramwyodd ar ol gadael Penygroes, nid oedd yr un mor anwyl yn ei olwg ef â Chymru (uchel gymeradwyaeth). Cwynai rhai fod yr Eisteddfod yn cael ei chynhal ym mhob rhyw "dwll bychan budr," ac haerid y dylid cyfyngu ei chyfarfodydd, a chael un fawr flynyddol i Ogledd Cymru. Nid oedd ef yn cydweled â hyn, mwy nag yr oedd yn cydweled gyda'r dosparth hwnw a geisiai gyfyngu yr Arddangosfeydd Amaethyddol yn yr unrhyw fodd, gan y byddai hyn yn rhwym o fod yn niweidiol, trwy na roddid chwareu teg i ymgeiswyr o fanau pellenig. Awgrymai ef fod eisteddfodau llai na'r un bresenol i gael eu cynal, — eisteddfodau i'r ieuenctyd, pa rai a ddylent gael pob cefnogaeth. Gyda golwg ar dderbyniadau yr Eisteddfod, awgrymai ef y dylai yr hyn fu gweddill yr Eisteddfod Genhedlaethol gael eu trosglwyddo i gronfa Coleg Prif Ysgol Cymru, llwyddiant pa un a enynai ei gydymdeimlad llwyraf ef. A rhoddi daliadau politicaidd o'r neilldu, credai ef fod yr addysg a gyfrenir yn y sefydliad hwn yn tra rhagori ar eiddo St. David's a St. Bees, a dyledswydd pob gwladgarwr oedd ei gynorthwyo yn mhob ffurf a modd. Hyderai y byddai i ran o weddill yr Eisteddfod gael ei dreulio yn y modd hwnw, ac hefyd fod i swm gael ei osod o'r neilldu at ddadblygu talent gerddorol yn ardal Penygroes. Terfynodd y llywydd anrhydeddus ei anerchiad rhagorol yn nghanol cymeradwyaeth uchel. 

Yn ystod y gweithrediadau hwyrol cafwyd deuawd allan o Hymn of Praise gan Miss Griffith a Mr W. Davies. Traddododd Llew Llwyfo feirniadaeth orddoniol ar y seinffyrch steel a haiam curo, dwy o ba rai oeddynt hanner llath o hyd, a dyfarnwyd y wobr o haner gini i Ioan Eifion, Talysarn, yr hwn a arwisgwyd gan Miss Wood. Canodd y cor "Ymdaith gwyr Lleyn ac Eiflonydd" yn fywiog, a dyfarnwyd gwobr o un gini i Miss Jemima Hughes am ganu "Bedd fy Nghariad". Yn y gystadleuaeth mewn chwareu ar y crwth, un ymgeisydd a ddaeth yn mlaen, ond nid oedd ei berfformiad yn deilwng o grwth ystplenydd a gynygiodd Mr Jarret Roberts yn wobr, ac ar gymhelliad Mr Jenkins, addawodd y pwyllgor fod i'r dyn ieuanc gael ei wobrwyo mewn rhyw fodd arall, er cefnogi ymarferiad ag offerynau tant. Wedi i Miss Williams ganu unawd, datganodd Miss Griffith, Mr Davies, a Mr Jenkins, driawd yn gampus, a chafwyd perfformiad gwefreiddiol gan Seindorf Bres Nantlle. Enynodd y chwareuad gymaint o edmygedd y llywydd anrhydeddus fel ag i ddiolch i'r aelodau yn gyhoeddus, ac addaw cyfranu dwy gini at bwrcasu cerddoriaeth. "Gwyn ei byd," meddai, "na buasai seindorf cyffelyb yn sir Feirionydd." Cafwyd cystadleuaeth ddyddorol mewn datganu unawd ar yr olwg gyntaf, a dyfarnwyd J. W. Jones, Llanllyfni yn deilwng o goron o wobr, a chafodd y buddugwr ar yr unawd i denor haner gini. Rhoddwr y gwobrau ydoedd y llywydd. Gwalchmai a ddarllenodd ei feirniadaeth ar yr englyn i'r Anrhydeddus C. H. Wynn, ac ar yr hir a thoddaid i Eisteddfod Penygroes. Mr H. B. Jones, Board school, Bettws Garmon, Llanrwst oedd yr englynwr goreu, a dyfarnwyd y wobr am yr hir a thoddaid i Mr David Thomas, Penygroes. Wele'r englyn buddugol i'r llywydd: —  
Boneddwr, Ilywiwr llawen,—goludog,
Hael ydyw at angen
Areithiwr uwch gwyr Athen
A dawn y byd yn ei ben.
Datganwyd unawdau a darnau yn ystod y gweddill o'r eyfarfod gan y Llew, Mr Davies, Mr Jenkins, Mrs Edwards, Miss Griffith, a'r cor, a chafwyd hefyd berfformiadau gan y seindorf. Cyfeilydd yr Eisteddfod ydoedd Mr J. Williams, Maes, Caernarfon. Terfynodd y gweithrediadau yn brydlawn, ac yr oedd yr holl drefniadau yn gyfryw fel na ddigwyddodd yr anhap leiaf. 

Mae sawl peth y gellid ei ddweud am yr adroddiad uchod. Yn sicr, mae prif ddiddordeb y gohebydd (neu efallai ei or-awydd i gynffona!) oedd manylu ar y llywyddion anrhydeddus, y cyfarchion gor-ganmoliaethus iddynt a'i sylwadau bur flodeuog a gormodieithol hwythau mewn atebiad. Sylwer hefyd ar bennawd yr adroddiad: cyfrifwyd barn mab y plas lleol, C.H. Wynn, am Brifysgol Cymru yn bwysicach nag enwau'r enillwyr.

Yn ail, nid oedd yr eisteddfod yn dilyn patrwm eisteddfodau heddiw. Rhoddwyd lle mawr i berfformiadau gan gorau, unawdwyr ac adroddwyr yn ogystal â chystadleuwyr. Ymddengys mai ychydig oedd nifer y cystadlaethau i gymharu â heddiw, ac at ei gilydd, ychydig oedd y cystadleuwyr. Nid oedd y beirniaid yn amharod i atal gwobrwyon ychwaith.

Cyfeiriadau

  1. e.e. Y Gwladgarwr, 11.3.1881, t.5
  2. Y Genedl Gymreig,17.4.1879, t.6