Eisteddfa Rhedyw

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Carreg fawr neu fegalith yn Nasareth yw Eisteddfa Rhedyw, yr ystyrir gan rai ei fod yn heneb yn hytrach na nodwedd daearyddol naturiol. Mae'n sefyll ar dir a fu gynt yn dyddyn, hwnnw hefyd â'r enw Eisteddfa Rhedyw. Mae Eisteddfa ac Eisteddfa Isaf yn dai yn Nasareth, ychydig i'r de o'r drofa am bentref Nebo.[1] ac mae carreg Eisteddfa Rhedyw gerllaw Eisteddfa Isaf, sydd yn bwthyn a gofrestrwyd felun o ddiddordeb hanesyddol a/neu bensaernïol.[2]

Honnir gan rai mai Eisteddfa Rhedyw oedd cartref Sant Rhedyw a'r garreg oedd ei gadair lle'r eisteddai a bod marciau ar y garreg yn ol ei fawd, a hefyd ôl troed ei geffyl.[3]

Efallai ei bod yn arwyddocaol nad yw Comisiwn Henebion Cymru wedi gweld yn dda i sôn am y safle yn eu cyfrol am Sir Gaernarfon, ac mae coel gwlad yn unig sydd wedi rhoi hynodrwydd i'r garreg.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map Ordnans 6" i'r fodfedd, 1888.
  2. Gwefan Dyffryn nantlle, [1]
  3. Gwefan Dyffryn Nantlle [2]; Y Gwladgarwr, Cyf.6 (1838), t.44