Eglwys Sant Twrog, Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Sefydlydd yr eglwys yn Llandwrog, sef Eglwys, Sant Twrog, Llandwrog oedd Twrog Sant, sef Twrog ap Ithel Hael o Lydaw yng nghanol y 6g. Roedd yn un o gydweithwyr Beuno Sant. Dichon mai cell amrwd oedd yr eglwys gyntaf, wedi'i hamgáu gyda ffens neu glawdd ar ffurf weddol grwn - sylwer ar siâp mynwent yr eglwys hon hyd heddiw.

Roedd mwy nag un egwlys ar y safle cyn i'r eglwys bresennol gael ei chodi. Mae mesuriadau'r eglwys cyn yr un bresennol bron union yr un, ac mae ambell i lun amrwd ohoni ar glawr, gyda'u transeptau lluosog a thŵr sgwar isel gyda meindwr ar ei ben. Roedd yno hefyd gapel ochr, Capel Glynllifon lle byddai teulu Plas Glynllifon yn eistedd, a oedd yn cael eu claddu mewn claddgell sydd yno o hyd dan y gangell. Dichon bod yr eglwys honno'n dyddio'n ôl i'r Canol Oesoedd oherwydd ei olwg a'i siâp.

Mae Edmund Hyde Hall wedi gadael disgrifiad o'r eglwys fel ag yr oedd tua 1810. Dyma gyfieithiad o'r hyn mae o'n ei ddweud:

Mae'r eglwys, sydd yn sefyll peth ffordd uwchlaw'r gors, yn adeilad tua chwe deg chwech troedfedd o hyd wrth ugain troedfedd o led. Mae'r ystlys ogleddol wedi'i goleuo'n dda gan ffenestri ac ar ochr dde-ddwyreiniol corff yr eglwys y mae capel sydd yn perthyn i Lynllifon. Mae'r to wedi'i wneud o goed ac yn agored, ond mae to'r gangell gyda nenfwd o goed sydd wedi ei baentio gyda llun o gymylau, a rhyngddynt y mae colomen a nifer o ddarluniau o angylion. Mae'r gwaith paentio'n ddigon amrwd. Rhannwyd ffenestr y dwyrain yn bum darn, ac yn y rhan uchaf ohoni mae nifer helaeth o ddarnau o wydr paentiedig i'w gweld. Mae'n ymddangos fod yr eglwys yn cael ei chadw mewn cyflwr da iawn - golwg sydd bob amser yn rhoi bodhad fel ag y mae cyflwr fel arall yn creu diflastod anorfod.[1]

Pan oedd Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough yn ail gynllunio'r pentref trwy godi tai deniadol fel "pentref model" tua chanol y 19g, fe aed ati hefyd i gynllunio eglwys newydd sbon - dyna oedd cyfnod "atgyweirio" hen eglwysi yn ôl chwaeth a safon y Fictorianwyr a wnaeth gymaint o ddifrod i'n heglwysi hynafol iawn, er efallai bod angen dymchwel eglwys Llandwrog oherwydd ei chyflwr. Beth bynnag am hynny, trefnwyd i bensaer yr esgobaeth, Henry Kennedy o Fangor, lunio cynlluniau ar gyfer eglwys newydd ar yr un safle a fyddai'n gweddu i ddelwedd y pentref model newydd o'i hamgylch. Aglwydd Newborough oedd yn gyfrifol am yr holl gost, ac fe'i hadeiladwyd rehwng 1856 a 1860 ar ffurf mwy arddurniadol, fel eglwys yn y traddodiad Seisnig "Gothig addurniedig". O ran y seddau, ni ellir dianc rhag y teimlad mai fel capel preifat at ddibenion addoli'r teulu a'u gweision oedd yr eglwys wedi cael ei chynllunio, gyda'r seti ar ffurf seti côr yn hytrach nag fel cweiriau neu feinciau ar draws corff yr eglwys. Mae'r eglwys yn cynnwys corff, darnau croes, cangell, capel cangell ar yr ochr dde a festri ar yr ochr ogleddol. Codwyd meindwr uchel fel tŵr ar y gornel dde-orllewinol. Mae'r eglwys yn nodedig am ei thu mewn uchel-Fictoraidd cyflawn sydd, yn ôl barn y Comisiwn Brenhinol, o ansawdd eithriadol o dda.

Cadwyd nifer o nodweddion pwysig (henebion yn bennaf) o'r eglwys flaenorol. Mae yno bulpud carreg wythonglog Fictoraidd gyda phaneli rhwyllog a siafft daprog. Ar yr ochr dde, ceir y ddarllenfa, a hen bulpud pren sydd yn ymgorffori panel cain o ddechrau'r 16eg ganrif, o darddiad Fflemaidd yn ôl pob tebyg, ac sydd yn darlunio'r Croeshoeliad. Roedd yr eglwys ganoloesol yn cynnwys nenfwd “ffurfafen” yn y gangell, a oedd wedi'i phaentio'n las gyda sêr ac angylion. Dinistriwyd hwn yn ystod yr ailadeiladu. Mae'r gangell bresennol yn cynnwys tabledi sy'n coffáu teulu Newborough. Ymhlith cofebion muriau cain eraill mae rhai i goffáu Syr Thomas Wynn o Foduan, dyddiedig 1749; ac Ellen a Frances Glynn, cyd-etifeddion John Glynn, Glynllifon (1711 a 1709).

Yn y fedyddfa ceir cofeb i deulu bonheddig arall yn y plwyf, sef Bodfeliaid Bodfan. Gerllaw mae organ bîb a adeiladwyd ym 1863. Mae'r rhan fwyf o'r gwaith coed a'r sgrîn metel yn gyfoes â'r eglwys ei hun ac wedi'u comisiynu'n arbennig; ond erys rhan o'r hen bulpud sydd yn dyddio'n ôl i'r 16g, fel mae nifer o gerfiadau, cofebion a manion eraill o'r hen eglwys.[2]

Mae beddau a cherrig hen iawn yn y fynwent, gan gynnwys Ellin Williams (ar yr ochr ddeheuol) ac Elizabeth Meredith (ar yr ochr ddwyreiniol) dyddiedig 1700 a Jane Glynne Price dyddiedig 1699. Pan ailadeiladwyd yr eglwys, symudwyd llawer o'r cerrig beddau hŷn i wneud lle i sylfeini’r eglwys newydd. Gellir dod o hyd i'r rhain yn erbyn wal y fynwent. O dan y deial haul (rhodd yn dyddio o 1746 gyda'r arysgrif 'R. G. Rector' sef Richard Griffith, M.A. a fu farw’r flwyddyn honno[3]) mae ystafell fechan danddaearol a ddefnyddiwyd, yn ôl Cofrestr yr Eglwys, fel corffgell. I’r gell hon y daethpwyd â chyrff morwyr a olchwyd ar y lan nes iddynt gael eu claddu.

Cyfeiriadau

  1. Edmund Hyde Hall, A Description of Caernarvonshire (1809-1811) (Caernarfon, 1952), t.213
  2. R. Lewis Edwards, Eglwys Twrog Sant, Llandwrog, (Llandwrog, d.d. (c.1980))
  3. Arthur Ivor Pryce, ‘’The Diocese of Bangor during Three Centuries’’, (Caerdydd, 1929), tt.25-6