Edmund Hyde Hall

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Sais a oedd, mae'n debyg, yn gyfaill bore oes i Richard Pennant, mab Castell Penrhyn ac a ddaeth i Sir Gaernarfon am ychydig o flynyddoedd o gwmpas 1810 oedd Edmund Hyde Hall (tua 1780-1824). Aeth ati (gydag anogaeth ei ffrind mae'n debyg) i deithio'r sir a chofnodi ei nodweddion, gyda'r bwriad o gyhoeddi llyfr manwl yn disgrifio'r sir - bwriad a wireddwyd tua chanrif a mwy wedi ei farwolaeth. Serch hynny, mae ei waith yn bwysig hyd heddiw fel cofnod o'r sir gyfan ar ddechrau'r 19g.

Cefndir cynnar Hyde Hall[golygu]

Mae enw Hyde Hall yn ddigon cyfarwydd i unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes Sir Gaernarfon, diolch i’r argraffiad o’i waith, a ail enwyd “A Description of Caernarvonshire (1809-1811)” dan olygyddiaeth llyfrgellydd Coleg Bangor, y diweddar Emyr Gwynne Jones, ac a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Hanes y Sir ym 1952. Ond nid yw Edmund Hyde Hall ei hun yn dweud llawer o’i hanes wrthym, ac nid oedd Emyr Gwynne, ar ôl hir chwilio, yn medru dod o hyd i lawer o wybodaeth amdano. Dywed Hyde Hall ei hun iddo gael ei fagu yn Jamaica; roedd yn drydydd fab i Cossley a Florence Hall, perchnogion planhigfeydd a chaethweision, a Hyde Hall oedd enw ei gartref ym mhlwyf Trelawney ar yr ynys honno. Bron i ganrif ynghynt, roedd ei daid William wedi ymfudo yno o Swydd Lincoln gyda’i wraig Elizabeth Wyatt. Roedd nain Elizabeth yn ferch Pentre Heulyn ger Llanymynech yn Sir Drefaldwyn ac yn ôl yr hyn a ddywedodd yn ei lyfr, roedd yn ymfalchïo yn y ffaith fod ganddo gysylltiad, os cysylltiad gwan ar y naw, â Gruffudd ap Heulyn, gor-ŵyr Ednyfed Fychan a sefydlydd deulu’r Penrhyn yn Llandygái.

Mae’n hysbys i Edmund Hyde Hall fynychu ysgol fonedd Harrow yn ystod wythdegau’r ddeunawfed ganrif ac erbyn 1788, roedd ei fryd ar yrfa yn y gyfraith gan iddo ymuno â sefydliad y Middle Temple yn Llundain yn y flwyddyn honno, a dichon iddo aros yno hyd 1796, er nad oes unrhyw gofnod iddo gymhwyso trwy gael ei alw “at y bar”, ys dywedir. Gwyddom hefyd ei fod wedi ymweld â Sir Gaernarfon ar ryw berwyl neu’i gilydd tua’r adeg y diflannodd ei enw o gofnodion myfyrwyr yr Inns of Court. “Cefais ymweliad trylwyr â’r ardal tua phymtheng mlynedd yn ôl”, meddai yn ei lyfr a ysgrifennwyd tua 1811, ac mae ‘na awgrym yn ei nodiadau ar blwyfi Dyffryn Ogwen mai dyna lle’r arhosodd yn ystod ei ymweliad cyntaf.

Hyde Hall a Sir Gaernarfon[golygu]

Ond beth a ddenodd ddyn fel Hyde Hall i Sir Gaernarfon yn y lle cyntaf? A beth a’i ysbrydolodd o, o bawb, i geisio llunio’r disgrifiad manwl cyntaf o Sir Gaernarfon? Fedrwn ni ddim ond dyfalu, gan nad oes fawr o’i waith ar ôl, heblaw am y llyfr ei hun. Ddau gan mlynedd yn ôl, roedd ‘na ddosbarth o ddynion, a rheiny’n feibion iau teuluoedd cefnog fel arfer, gyda digon o fodd i beidio gorfod gweithio ond heb y dyletswyddau y byddai swydd neu alwadau tir yn eu gosod arnynt. Roedd y rhai hyn, yn arbennig os nad oedd gwraig a theulu i’w hangori mewn un man, yn dueddol o grwydro o le i le, yn treulio cyfnodau byr neu hir gyda ffrindiau a chydnabod, neu’n ymgymryd â theithiau dros gyfnod o fisoedd neu flynyddoedd i ymweld â gwledydd Ewrop neu i ryfeddu at hynafiaethau a bröydd Prydain. Rhaid mai bywyd gwag oedd ganddynt i raddau. Tybed felly ai dyna pam yr aeth rhai ati i ymchwilio a chyhoeddi llyfrau, gan roi pwrpas iddyn nhw eu hunain a chyfiawnhau trafferthu cydnabod pell gyda’u presenoldeb am fisoedd ar y tro!

Rhwng 1808 (ac efallai cyn hynny) a 1811, bu’n byw yn y sir, gan deithio’n systematig o blwyf i blwyf, yn holi perchnogion stadau, offeiriaid ac unrhyw un arall a feddai ar wybodaeth a fyddai’n fuddiol ar gyfer y gwaith mewn llaw. Ei fwriad oedd cyhoeddi llyfr swmpus, dan y teitl “Notes Upon Caernarvonshire”, gyda disgrifiad manwl o bob cwr o’r sir, ac aeth ati yn gynnar yn 1809 i hel tanysgrifiadau gan dirfeddianwyr a chlerigwyr Gogledd Cymru - ac unrhyw un arall a fyddai’n debygol o dalu gini am yr argraffiad ar bapur mawr gyda darluniau, neu ddau swllt a dwy geiniog am gopi cyffredin.

Rhaid gofyn pam Sir Gaernarfon? Gan fod awgrym iddo ymweld â Llandygái tua 1795, tybed ai cysylltiad bore oes yn Jamaica oedd yn gyfrifol. Perchennog y Penrhyn yr adeg honno oedd Richard Pennant, Baron Penrhyn, ŵyr Edward Pennant o Jamaica. Roedd Richard Pennant ddeng mlynedd yn hŷn nag Edmund Hyde Hall, ond tybed a gododd rhyw ddolen-gyswllt rhyngddynt oherwydd eu gwreiddiau yn yr ynys bellennig honno. A byddai Edmund, efallai, yn cofio hefyd am eu cysylltiad honedig trwy Gruffudd ap Heulyn, sgweier y Penrhyn bedair canrif ynghynt. Erbyn 1807, roedd Richard Pennant wedi marw, gan adael yr ystâd i George Hay Dawkins, mab ei gefnder, ond roedd gan hwnnw hefyd gysylltiadau â Jamaica a hyd 1814 roedd George yn ddi-briod. Dyn diarth i’r ardal, o Standlynch yn Swydd Wiltshire, oedd George, ond roedd holl ddatblygiadau chwarelyddol Stad y Penrhyn yn hawlio ei bresenoldeb parhaol yng Ngogledd Cymru. Tybed felly a oedd o’n ddigon parod i groesawu Sais â chysylltiadau â Jamaica yn gwmni iddo, ac yn annog Edmund, neu hyd yn oed ei gomisiynu, i wneud ymchwil ar Sir Gaernarfon, y fro ddiarth y cafodd ei hun yn berchennog ar gymaint ohoni? A thybed hefyd a fu i’r ffaith fod asiant y stad, Benjamin Wyatt, â’r un cyfenw â nain Edmund, Elizabeth Wyatt, yn codi chwilfrydedd Edmund ymhellach?

Boed hynny oll fel y bo, erbyn 1808 roedd Edmund yn cael ei adnabod fel Edmund Hyde Hall, Esq. o Fangor. Yn y flwyddyn honno mae ei enw’n ymddangos ymysg tanysgrifwyr i lyfr barddoniaeth Felicia Dorothea Browne a ddaeth wedyn yn enwog fel bardd dan yr enw Mrs Hemans. Y flwyddyn ganlynol, bu’n noddwr i waith bardd ifanc arall, nad yw’n hysbys ond trwy ei ffugenw, Tekeli, ond oedd â rhyw gysylltiad â Gogledd Cymru gan fod y llyfr yn cynnwys hanes Ffynnon Gwenffrewi yn Nhreffynnon. Serch hyn, o ddarllen y ddwy gyfrol, ni ellid canmol Edmund am ei chwaeth lenyddol! Cyhoeddwyd y ddwy gyfrol gan Cadell a Davies, Llundain, a’r rheiny oedd wedi’u dewis hefyd fel cyhoeddwyr y gwaith swmpus gan Edmund ei hun ar Sir Gaernarfon. Yn sicr, roedd yn dechrau cael ei dderbyn gan drigolion y sir fel preswylydd yn hytrach nag ymwelydd. Yn 1809 fe’i codwyd ar y pwyllgor oedd wrthi’n sefydlu meddygfa Môn ac Arfon ym Mangor.

Arolwg Hyde Hall[golygu]

Erbyn 1809 roedd wrthi’n ymweld â holl blwyfi Sir Gaernarfon fesul un naill ai gan deithio o’i lety ym Mangor, neu – pan roedd y pellter yn ei rwystro rhag gwneud hynny – geisio llogi llety yn y gymdogaeth dan sylw. Un o brif rinweddau’r llyfr yw’r manylion sylweddol am Ben Llŷn, ardal oedd yn ymddangos i’r teithwyr cynnar fel un na haeddai sylw wrth ochr gogoniannau Eryri. I raddau, efallai, trylwyredd Edmund Hyde Hall wnaeth iddo gymryd cymaint o ddiddordeb ym Mhen Llŷn, ond dichon hefyd, gan fod llety mor brin, iddo dderbyn croeso gan wŷr bonheddig ac offeiriaid yr ardal honno a gymerodd ddiddordeb yn ei waith ac a gyfrannodd yn helaeth at y ffeithiau a gasglodd; roedd Nicholas Owen, rheithor Mellteyrn, yn arbennig o hael yn ôl yr hyn a ddywed Edmund amdano.

Yn y llyfr, ceir manylion am bob plwyf unigol yn cynnwys disgrifiad o’r ffyrdd a’r pontydd, nodweddion daearyddol, hanes stadau ac adeiladau, manylion am fasnach ac amaethyddiaeth a disgrifiad o’r eglwys a’i chynnwys. Aeth ati hefyd i gasglu ystadegau am drethi, melinau, ysgolion, tai, poblogaeth a nifer y bedyddiadau, priodasau a chladdedigaethau ym mhob plwyf, a’u gosod yn drefnus mewn tablau fesul cwmwd. Roedd y gwaith yn gampwaith, yn gywir ac yn gyflawn, a hynny’n ddim syndod ag ystyried yr amser a gymerodd i’w gwblhau. Er iddo ganmol cywirdeb a defnyddioldeb Teithiau Thomas Pennant, mae o ei hun yn dweud: am bob diwrnod a dreuliodd Pennant yn hel ei ddeunydd fe dreuliodd yntau fis neu fwy.

Symud i Iwerddon[golygu]

Ymhen dwy flynedd, roedd y gwaith yn nesáu at gael ei gwblhau, ond chafodd o mo’i gyhoeddi. Roedd Hyde Hall, mae’n ymddangos, wedi colli rhywfaint o bres y tanysgrifwyr pan dorrodd nifer o fanciau’r wlad - ac roedd tanysgrifwyr eraill yn hwyrfrydig iawn i dalu cyn derbyn y llyfr. Roedd nifer o’r rheiny yn Iwerddon a dichon felly fod gan Edmund ryw gysylltiad nad yw’n hysbys ag Iwerddon. Yn sicr, y tro nesaf y clywn ni amdano, mae o’n byw yn Nulyn. Ym mis Ebrill 1815, cafodd o a rhyw Barch Edward Groves swydd gan Gomisiwn Cofnodion Iwerddon i baratoi Acta Regia Hibernica, neu gofnodion swyddogol Iwerddon, ar gyfer y wasg. Yr un flwyddyn, cafodd ei enwi’n ysgrifennydd mudiad i sefydlu cymdeithas archeolegol ar gyfer Iwerddon, ond dair blynedd yn ddiweddarach, doedd dim byd wedi digwydd ac yn ôl un o gefnogwr y syniad: “mae’r sefydliad hwnnw, hyd yma heb esgor ar unrhyw ganlyniadau. Dyw boneddigion Iwerddon ddim yn gweld fod gwybodaeth o’u gwlad eu hunain yn gymhwyster” - dichon, meddai fo wedyn fod Edmund wedi ei ddewis oherwydd ei brofiad o ymchwilio yn Sir Gaernarfon. Sonnir am y llyfr hwnnw, gan ychwanegu “nid yw ond yn disgwyl am y cyfle priodol i’w roi gerbron y cyhoedd, ac er mor uchel fydd eu disgwyliadau o ŵr bonheddig mor nodedig am wybodaeth fanwl, gysáct ac amrywiol, ni chaiff pobl mo’u siomi.”

Tua’r un amser, cafodd Edmund gomisiwn hefyd i baratoi golygyddiad o Arolwg Down, sef disgrifiad o diroedd Iwerddon ym 1655 a wnaed ar orchymyn Cromwell fel goresgynnydd Catholigion Iwerddon. Ceir ambell i gyfeiriad mewn llyfrau ysgolheigaidd o Iwerddon ar y pryd at waith manwl a chywir Edmund wrth lunio’r fersiwn argraffedig, ac yn ôl un awdur, roedd ei ddadansoddiad o’r ddogfen yn ‘gywrain a boddhaol iawn’.

Mae’n bosibl iddo wneud y gwaith hwn fel rhan o’i ddyletswyddau fel un o is-gomisiynwyr cofnodion cyhoeddus Iwerddon. Ond daeth y swydd honno i ben ac fe wnaethpwyd Edmund yn ddi-waith ym 1821. Beth bynnag am ei gyfoeth personol yn gynharach yn ei fywyd, roedd hi’n gyni arno erbyn hyn, ac anfonodd gais at Arglwydd Raglaw Iwerddon yng Nghastell Dulyn yn ymbil am arian i dalu am symud i Lundain - ond ofer, mae’n ymddangos, oedd y cais. Am dair blynedd fe ddihoenodd, yn gloff ac weithiau’n sâl yn ei wely, mewn llety di-nod -“obscure apartment” yw ei ddisgrifiad o - hyd ei farwolaeth ar yr ail ar bymtheg o Hydref 1824. Roedd ei nodiadau ar Sir Gaernarfon yn dal ganddo wrth ei ochr, a heb eu cyhoeddi. Un cofnod yn unig o’i farwolaeth sydd wedi dod i’r golwg: un llinell fer yn un o bapurau newyddion Dulyn.

Hanes darganfod a chyhoeddi'r llyfr[golygu]

Sut felly bod modd i ni heddiw droi at ei lyfr? Mae’n ddirgelwch lle aeth y llawysgrif wedi marwolaeth Edmund Hyde Hall yn Nulyn, ond tua diwedd y ganrif, fe ddaeth (heblaw am ryw chwe tudalen, a’r rheiny’r rhai oedd yn ymwneud â phlwyfi Uwchgwyrfai) i feddiant J D Jones, postfeistr yng Nghaernarfon ac ar ei farwolaeth o, gwerthwyd ei gasgliad o lyfrau i Thomas Davies (Dewi Meirion), a gadwai siop lyfrau ail law ym Mangor. Ymhen ugain mlynedd, bron i gant tri deg o flynyddoedd ar ôl marwolaeth ei awdur, cyhoeddwyd am y tro cyntaf “A Description of Caernarvonshire”, y llyfr y mae pob hanesydd lleol yn ei alw’n ddiolchgar yn “Hyde Hall”. Bu’n ddymuniad gan Edmund y byddai ei gyn-gyd-ddisgyblion yn ysgol fonedd Harrow yn sicrhau argraffu’r gyfrol fel cofeb iddo. Ddigwyddodd hynny ddim ond yn y diwedd mi gafodd ei ddymuniad ei wireddu gan gymdeithas hanes y sir y bu’n gofnodydd ffyddlon ohoni ganrif a hanner ynghynt. Heblaw am y llawysgrif honno, does dim ar ôl ond ychydig o dudalennau o ddrafft cynnar y gwaith, tri llythyr at Paul Panton a’r rhagymadrodd meistrolgar i Arolwg Down i’n hatgoffa o ddyn a ddaeth i Gymru’n ddyn diarth ond sydd wedi gadael i ni gofnod heb ei ail o’r wlad ar ddechrau’r ganrif cyn y ddiwethaf.[1]

Adran Uwchgwyrfai o'r llawysgrif[golygu]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Seilir yr erthygl hon yn bennaf ar y llyfr Edmund Hyde Hall, (gol. Emyr Gwynne Jones), A Description of Caernarvonshire (1809-1811), (Caernarfon, 1952), a sawl ffynhonell sydd i'w cael ar y We, megis papurau newydd cynnar Iwerddon a chofnodion swyddogol Iwerddon.