Edgar Christian

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Edgar Christian
Tudalen gyntaf y dyddiadur
Unflinching.jpg
Tudalen olaf y dyddiadur

Mae Edgar Vernon Christian (1908-1927) yn fwy enwog yng Nghanada nag yng Nghymru oherwydd iddo fynd ar antur i ddyffryn yr Afon Thelon yng Nghanada ym 1926, lle bu farw o newyn.

Cafodd ei eni yn Earls Barton, Swydd Northampton, yn fab i'r Is-gyrnol William Francis (Frank) Christian, RA a'i wraig Marguerite (Hornby cyn briodi). Roedd yn un o bum plentyn. Symudodd y teulu i Cosham, Swydd Hants. Mynychodd ysgol ragbaratoawl yn Folkestone cyn fynd i ysgol fonedd Coleg Dofr yn Swydd Caint ym 1924. Yr oedd ei deulu wedi symud i Fron Dirion ym Mrynaerau ger Pontlyfni rai blynyddoedd ynghynt ym 1919 a threuliodd wyliau ysgol felly yn Uwchgwyrfai.

Gadawodd Goleg Dofr ym 1926 yn 18 oed a chafodd wahoddiad i ymuno â'i gyfyrder, John Hornby (1880-1927 - a elwir yng Nghanada yn "Hornby of the North") a dyn arall, Harold Adlard (1898-1927), ar antur i ddal anifeiliaid am eu crwyn yn nifeithwch oer gogledd Canada. Mae'n dod yn gynyddol amlwg, a barnu oddi wrth lythyrau gan y teulu a'r ffaith fod rhai darnau o'r dyddiadur wedi cael ei gadw'n gyfrinachol, fod perthynas rywiol rhwng Christian a Hornby, er na ddylid disystyrru'r bosibilrwydd mai arwr-addoliad ar ran Edgar oedd sail y berthynas. Beth bynnag, roedd gan Hornby rywfaint o brofiad o anturiaethau tebyg blaenorol, a'i fwriad oedd aros ar lan yr Afon Thelon, ar ôl lladd nifer o garibŵ a'u rhewi fel bwyd dros y gaeaf. Cafwyd hyd i gaban pren ond methodd y criw â dod o hyd i anifeiliaid i'w lladd am eu cig a bu farw'r tri yn ystod Gwanwyn 1927. Christian oedd yr olaf o'r tri i farw ac fe adawodd y dyddiadur a gadwodd ar y daith yn ffwrn y caban, ynghyd â llythyrau at ei dad. Cafwyd hyd i gyrff y tri dair blynedd yn ddiweddarach.[1]

Cyflwynwyd y dyddiadur i'w hen ysgol, Coleg Dofr, ac ym 1937 cyhoeddwyd rhannau helaeth ohono mewn llyfr, Unflinching, sydd wedi dod yn glasur ymysg llyfrau antur Canada.[2] Mae'r stori wedi ei hail-adrodd mewn sawl man, ac er nad yw Christian a'i gysylltiadau Cymreig yn hysbys iawn, bu'r hanesydd lleol Wilfred Williams a hanai o Glynnog Fawr yn ymddiddori yn yr hanes, gan symbylu Helen Williams-Ellis, Glasfryn i wneud rhaglen deledu amdano ar gyfer S4C.[3]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y prif ffeithiau i'w cael ar dudalen Wikipedia a gwefan Cow Boy Song [1].
  2. Edgar Christian, Unflinching: A Diary of Tragic Adventure (gol. B Dew Roberts, Llundain, 1937)
  3. Gwybodaeth bersonol