Ebenezer Thomas (Eben Fardd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Eben Fardd)
Neidio i: llywio, chwilio
Eben Fardd.JPG

Ysgolfeistr a bardd oedd Ebenezer Thomas (Eben Fardd) (Awst 1802 - 17 Chwefror 1863).

Ganed Ebenezer Thomas yn Nhan-lan, ger Llangybi i Thomas Williams a Catherine Prys. Gwehydd oedd ei dad ac roedd ef a'i wraig yn aelodau ffyddlon yn y Seiat Fethodistaidd ym Mhencaenewydd. Ymunodd Eben á'r seiat ei hun yn 1811. Cafodd addysg gynnar mewn ysgolion yn Llangybi ac Aber-erch a dysgodd grefft ei dad yn ogystal. Aeth ymlaen wedyn i gael addysg bellach mewn ysgol yn Nhudweiliog ond pan fu farw ei frawd, Evan, yn 1822 dychwelodd i fro ei febyd i ofalu am ysgol a gadwai Evan yn Llangybi.

Dechreuodd ymhel á barddoniaeth cyn bod yn 15 oed ac roedd wedi dod i adnabod dau o brifeirdd y cwmwd, Dewi Wyn o Eifion a Robert ap Gwilym Ddu, erbyn hynny. Ei enw barddol cynnar oedd Cybi o Eifion a dyna a geir wrth ei gerddi cynharaf. Yn 1824 enillodd gadair Eisteddfod Powys am ei awdl ‘Dinystr Jerusalem gan y Rhufeiniad’.Mae hon yn un o awdlau mwyaf adnabyddus y bedwaredd ganrif ar bymtheg a cheir ynddi ddarnau cynhyrfus a dramatig iawn.

Yn 1827 symudodd i Clynnog Fawr i gadw ysgol ar gais Hugh Williams, ficer y plwyf, yn y rhan o Eglwys a elwir yn Gapel Beuno. Priododd yn 1830 gyda Mary Williams, Caerpwsan, Clynnog Fawra ganwyd iddynt dair merch ac un mab. Byddai ei wraig yn pobi bara a chadw siop a byddai Eben yntau yn rhwymo llyfrau a gwneud cyfrifon i bobl i ychwanegu at ei incwm fel ysgolfeistr. Yn ddiweddarach bu'n cadw post yn y pentref hefyd. Yn fuan ar âl iddo symud i Glynnog dechreuodd gadw dyddiadur a chyflawnodd yr orchwyl honno bron yn ddi-dor wedyn tan flynyddoedd olaf ei oes. Mae'r dyddiaduron hyn yn ffynhonnell eithriadol bwysig o wybodaeth am amgylchiadau'r cyfnod, yn ogystal â thaflu goleuni ar amgylchiadau personol y bardd a'i deulu. Roedd Eben yn arw am ddiod er sawl ymgais i ddiwygio. Dioddefai'n gyson oddi wrth bruddglwyfni hefyd a phoenai'n aml ynghylch cyflwr ei enaid. Dioddefai ef a'r teulu oddi wrth salwch blin a chyson a cheir disgrifiadau o rai o feddyginiaethau'r oes ar dudalennau'r dyddiaduron hefyd. Cyhoeddwyd detholiad helaeth ohonynt gan E.G. Millward yn 1968 gyda rhagair sylweddol.

Enillodd Eben Fardd ei ail wobr eisteddfodol bwysig yn Eisteddfod y Gordofigion yn Lerpwl yn 1840 am awdl ar 'Cystudd, Amynedd ac Adferiad Job' ac er nad yw honno'n awdl cystal â 'Dinistr Jerusalem' fe geir rhai darnau dramatig a chain ynddi hithau hefyd.


Llyfryddiaeth[golygu]

Cofnod ar y Bywgraffiadaur Cymreig