Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Pen ucha'r dyffryn o Nantlle, 1970

Dyffryn Nantlle yw prif ddyffryn Uwchgwyrfai. Mewn gwirionedd dyffryn yr Afon Llyfnwy ydyw, yn rhedeg o Ddrws-y-coed yn y dwyrain hyd aber yr Afon Llyfnwy ym Mhontlyfni. Mae rhan helaethaf o lawer o'r dyffryn o fewn ffiniau plwyf Llanllyfni, er i rai o'r man afonydd sy'n bwydo'r LLyfnwy'n llifo trwy rhan ogleddol plwyf Clynnog Fawr, a hyd ail hanner yr 20g, roedd glannau gogleddol y Llyfnwy o Dal-y-sarn hyd pen ucha'r dyffryn ym mhlwyf Llandwrog.

Weithiau defnyddir y term "Dyffryn Nantlle" i gynnwys pentrefi megis Llandwrog, Rhostryfan, Rhosgadfan a Charmel ymysg pentrefi'r dyffryn, ond mewn gwirionedd, pentrefi sydd â'u nentydd yn llifo i'r môr ger Y Foryd, ac felly mewn system arall o fan ddyffrynnoedd y maent yn sefyll.

Prif bentref y dyffryn erbyn heddiw heb os yw Pen-y-groes er nad oedd y fan honno'n bodoli cyn canol y 19g. Hen ganolfan y dyffryn oedd pentref Llanllyfni, lle cynhelid ffeiriau.

Bu llawer o chwareli yn y dyffryn, yn cynnwys Chwarel Dorothea, Chwarel Pen-yr-orsedd a nifer helaeth o rai llai. Bu cloddio sylweddol am gopr hefyd yn Nhrws-y-coed.

Rhed y ffordd B4418 trwy'r dyffryn ac i Ryd-ddu; bu hon ar un adeg yn ffordd dyrpeg.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.