Dyffryn Gwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Dyffryn Gwyrfai yw dyffryn Afon Gwyrfai sy'n rhedeg o bentref Rhyd-ddu i gyfeiriad y Gogledd-orllewin nes gyrraedd ei haber yn y Foryd Bach, gan ffurfio ffin traddodiadol plwyf Llanwnda ac yn wir Uwchgwyrfai ei hun yr holl ffordd o darddiad yr afon yn Llyn y Gader i'r môr. Mae ochr dwyreiniol y dyffryn yn rhan o gwmwd Isgwyrfai, gyda phlwyfi Llanfaglan, Llanbeblig (Treflan a Chastellmai), a Betws Garmon yn cyd-ochri â Llanwnda.

Rhed Afon Gwyrfai trwy lyn dyfnaf Eryri, sef Llyn Cwellyn sydd ar waelod y dyffryn hanner ffordd rhwng Betws Garmon a Rhyd-ddu. Mae Llyn Cwellyn yn lyn naturiol ond mae wedi addasu fel cronfa ddwr ar gyfer Caernarfon a'r gymdogaeth.

Prif ddiwydiant y dyffryn (ar wahân i amaethu) oedd chwarelu am lechi ar y ddwy ochr, a mwynau megis haearn yn bennaf ar ochr Isgwyrfai y cwm.[1]

Rhedai (ac erbyn hyn, rhed) reilffordd drac cul, sef Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru, a ail-enwyd fel Rheilffordd Ucheldir Cymru ar hyd y dyffryn nes iddi gau ym 1937. Ailagorwyd y lein dan enw Rheilffordd Eryri fel lein i dwristiaid ym 2001.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


==Cyfeiriadau==
  1. Gwynfor Pierce Jones ac Alun John Richards, Cwm Gwyrfai, (Llanrwst, 2004), passim.