Dolbebin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Hen annedd oedd Dolbebin, neu Dôl Pebin fel y'i gelwir weithiau.

Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o’r Mabinogi, sef Pebin o Ddôl Pebin – tad Goewin yn y bedwaredd gainc. Yn ôl y chwedl, dewiswyd Goewin fel morwyn i Math fab Mathonwy. Roedd hynodrwydd yn perthyn i Math, sef na allai fyw oni bai fod ei draed yn gorffwys ar ei harffed hi, oni bai iddo gael ei alw ymaith i ryfel. Syrthiodd Gilfaethwy, brawd y dewin Gwydion, mewn cariad â hi ac fe wnaeth Gwydion achosi rhyfel rhwng teyrnasoedd Gwynedd a Deheubarth, er mwyn i Math orfod gadael ei lys a Goewin. Tra oedd Math i ffwrdd fe wnaeth Gilfaethwy dreisio Goewin a bu'n rhaid i Fath chwilio am forwyn arall yn ei lle.

Awgrymai rhai mai yn ardal Tal-y-sarn oedd Dolbebin, sef y fan lle mae stad dai Bro Silyn heddiw. Cyfeirir at Ddôl Pebin hefyd yng ngherdd R. Williams Parry, ‘Y ddôl a aeth o’r golwg’.

Ffynonellau

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)

Gwefan Swyddogol Dyffryn Nantlle