Doc Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Yn yr erthygl ar Tramffordd Chwarel Craig y Farchas soniwyd fel y datblygodd y Cwmni Ithfaen Cymreig harbwr newydd ar Draeth Gwydir Bach yn Nhrefor er mwyn sicrhau angorfa fwy cysgodol i lwytho cerrig na thraeth agored Y Gorllwyn ar ochr orllewinol Clogwyn y Morfa (neu ]]Trwyn y Tâl|Drwyn y Tâl]]).

Tua 1854 adeiladodd y Cwmni grwyn (groyne yn Saesneg) ym mhen gogledd-orllewinol y traeth, lle deuai'r dramffordd a nodir uchod i ben ei thaith. Roedd hwn yn wal neu gei o gerrig mawr a garw a'i fwriad oedd amddiffyn y mannau llwytho ar y traeth rhag stormydd y gorllewin. Er hynny roedd y safle'n parhau'n agored i wyntoedd o'r gogledd a'r dwyrain. Daeth y morglawdd hwn yn sylfaen i'r cei cerrig diweddarach llawer mwy a chadarnach sydd i'w weld o hyd, er iddo gael ei fyrhau yn dilyn yr ail-wampio mawr a fu ar y tirwedd ôl-ddiwydiannol ganol y 1980au.

Yn nghysgod y grwyn codwyd cei llwytho isel ac wrth ei ochr roedd y cerrig sets yn cael eu stacio'n domennydd uchel i ddisgwyl y llongau. Pan ddeuai'r llongau i mewn fe'u cysylltid wrth gadwynau enfawr i'w dal yn ddiogel tra oedd y llwytho'n digwydd. Tua chanol y 1980au daeth un o'r rhain i'r golwg ar y traeth. Roedd gan y Cwmni Ithfaen Cymreig ei longau ei hun - y Geneva a'r Jane & Ann - a'r rhain, yn ogystal â llongau eraill, a fyddai'n cludo'r sets i drefi mawr Lloegr ac i Iwerddon. Byddai llongau'n galw hefyd gyda chyflenwadau o ddeunyddiau fel glo, calch, coed a bwydydd. Gyferbyn â'r cei isel adeiladwyd cei bach arall, a elwir y Doc Bach yn lleol. Mae hwn yno o hyd yr un mor gadarn ag erioed, gyda charreg uchel gref ar ei flaen i glymu llongau wrthi. Mae rhai dolenni haearn i'r un diben yn dal ar ei ochrau hefyd. Codwyd wal fechan hefyd allan i'r môr o drwyn y Doc Bach - sef y "Wal Bach" - ac roedd ei gweddillion i'w gweld tan ychydig flynyddoedd yn ôl. Er bod y datblygiadau hyn yn rhagori cryn dipyn ar y dull cyntefig o lwytho cerrig ar draeth Y Gorllwyn, roedd y cyfleusterau'n parhau'n annigonol a llafurus. Wrth i Chwarel yr Eifl ddatblygu'n gyflym yn y 1860au daeth galw am well a chyflymach darpariaeth lwytho ac, ym 1869, symudwyd ymlaen i godi morglawdd a chei llawer helaethach yn Harbwr Trefor.[1] Parhawyd i ddefnyddio hwn am ddegawdau ac yn ddiweddarach adeiladwyd cei pren cadarn ymhellach allan i'r môr. Defnyddiwyd hwn fel man llwytho hyd nes i'r Gwaith gau'n derfynol ym 1971. Bu'n boblogaidd wedyn fel cyrchfan i bysgotwyr am flynyddoedd ond, er iddo gael ei adnewyddu ar gost sylweddol, dirywiodd ei gyflwr, gyda'r pyst mawr a gurwyd i wely'r môr yn pydru, ac fe'i dymchwelwyd yn 2018.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Geraint Jones a Dafydd Williams, Trefor, (Canolfan Hanes Uwchgwyrfai 2006), t.19-23.