Dinlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Dinlle oedd enw'r drefgordd (neu raniad daearyddol gweinyddol) a gynhwysai rhannau helaeth o blwyfi Llandwrog a Llanwnda. (Trefgorddi eraill a orweddai yn y plwyfi hynny oedd Bodellog a Rhedynog Felen). Hyd at ddiwedd y 1600au roedd yn arferol i ddogfennau gyfeirio at 'Dinlle' yn hytrach nag enw'r plwyf.[1] Yn wir, reodd Golbert Williams yn dadlau fod un rhan o ddeg o Wely Wyrion Iorwerth y tu hwnt i ffiniau Uwchgwyrfai, sef yn ardal Treflan, neu (yn ôl enwau heddiw), y Waun-fawr, tra oedd y naw rhan o ddeg arall o fewn ffiniau Uwchgwyrfai.[2]

Rhestrwyd eiddo, tenantiaid a'r rhenti neu'r nwyddau a gwasanaethau y disgwylid iddynt gyflwyno i'r Tywysog neu arglwydd y cwmwd mewn dogfen a luniwyd ym 1352 ac a elwir bellach yn Record of Carnarvon. Mae copi o fersiwn brintiedig y ddogfen hon i'w chael yn Archifdy Caernarfon. Erbyn 1352, Brenin Lloegr (neu ei fab hynaf, Tywysog Cymru) oedd yn derbyn y rhenti a'r rhoddion hyn, ond roedd y ddaliadaeth o dir yn dal i gydymffurfio a'r hen drefn o "wely" a rannwyd rhwng perthnasau.

Nodir yn y Cofnod dan sylw fod saith gwely yn Ninlle tua 1352: Gwely Wyrion Eignon; Gwely Wyrion Mourgene; Gwely Wyrion Randle; Gwely Wyrion Ostroth [neu Ystrwyth, mae'n debyg]; Gwely Wyskyed; Gwely Hebbogothion; a Gwely Bowyred. Yr oedd yno hefyd bum melin: Melin Gafelog; Melin Meredydd; Melyn Edenyfed; Melin Heilyn; a Melin Madog.[3]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Welsh Administrative and Territorial Units, Melville Richards (University of Wales Press) 1969
  2. W.Gilbert Williams, Arfon y Dydiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), 118-19.
  3. Record of Carnarvon, tt.22-4.