Dewi Williams, Trefor a Phenmorfa

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Dewi Williams (1944-2022) yn hanesydd a ymchwiliodd yn arbennig i hanes cwmwd Eifionydd gan gyhoeddi llawer yn y maes hwnnw.

Cafodd ei eni a'i fagu yn Nhrefor, yn fab i Capten David Williams a'i briod Phyllis. Yn dilyn addysg gynradd yn Ysgol Trefor ac uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli aeth i astudio hanes i Brifysgol Lerpwl a chymhwyso'n athro. Yn dilyn cyfnod cymharol fyr yn athro hanes yn Lerpwl ac yna yn Ysgol Friars, Bangor, fe'i penodwyd yn bennaeth yr Adran Hanes yn Ysgol Glan-y-môr, Pwllheli, ddechrau'r 1970au lle bu hyd ei ymddeoliad. Roedd yn athro uchel ei barch, yn ŵr bonheddig a fu'n gyfrwng i ennyn diddordeb cenedlaethau o ddisgyblion mewn hanes, boed yn rhyngwladol, cenedlaethol a lleol.

Oddeutu'r un adeg ag y daeth yn athro i Bwllheli, ymgartrefodd yn ardal Penmorfa, yn dilyn ei briodas ag Ilid, Tyddyn Deucwm Uchaf. Ganwyd iddynt dri o blant. Wedi iddo ymgartrefu yn Eifionydd, aeth ati i drwytho ei hun yn hanes y cwmwd hwnnw ac ymchwiliodd yn ddygn i wahanol agweddau ar hanes y fro drwy'r canrifoedd. Cyhoeddodd ffrwyth ei ymchwil mewn cyfnodolion megis Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon ac ymddangosodd cyfresi o'i waith yn Y Ffynnon, papur bro Eifionydd. Gwnaeth waith ymchwil pwysig i hanes y chwareli a'r cloddfeydd a agorwyd yn y 19g yng Nghwm Pennant a Chwm Ystradllyn. Ar sail y gwaith hwnnw traddododd un o Ddarlithoedd Eifionydd a gyhoeddwyd ar ffurf llyfryn, Chwareli a Chloddfeydd y Pennant. Bu galw cyson am ei wasanaeth hefyd fel darlithydd i ddosbarthiadau nos a chymdeithasau hanes. Bu'n gefnogol iawn i Gymdeithas Hanes Trefor pan gafodd ei sefydlu ym 1985, gan draddodi darlith iddi bron yn flynyddol. Bu'n aelod o Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai hefyd o'r cychwyn, gan gyfrannu at ei gwahanol weithgareddau, megis yr arddangosfa Llwybr y Pererinion, a gynhaliwyd yn yr Ysgoldy yng Nghlynnog yn haf 2010. Cymerodd ran hefyd yn rhai o gyfarfodydd Ein Gwir Hanes a rhoddodd sgyrsiau i Utgorn Cymru.

Bu'n gefnogol i amrywiol weithgareddau diwylliannol a chrefyddol yn ei ardal. Bu'n Gadeirydd papur bro Y Ffynnon am flynyddoedd maith ac roedd yn flaenor uchel ei barch yng nghapel Bethel, Golan. Bu farw ddiwedd 2022 yn 78 oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Bethel.

Cyfeiriadau[golygu]