Derwin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Derwin oedd enw trefgordd a oedd yn eiddo eglwysig, yn perthyn i Glas Clynnog Fawr, sefydliad dysgedig gyda chymuned o fynaich, o ddyddiau'r Tywysogion hyd ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.[1] Yr oedd Dr Colin Gresham yn credu mai rhan o Eifionydd ydoedd yn wreiddiol ond bod y tir wedi ei gynnwys ym mhlwyf Clynnog Fawr oherwydd i'r eglwys yno fod yn berchen arni, ac felly wedi cael ei gambriodoli i gwmwd Uwchgwyrfai, er bod rhai haneswyr yn anghytuno.[2] Gan ei bod o fewn ffiniau plwyf Clynnog i sicrwydd, a hynny ers canrifoedd beth bynnag, penderfynwyd ei chynnwys o fewn maes Cof y Cwmwd.

Saif tir Derwin rhwng trefgordd Nancall i'r dwyrain, a hen drefgordd Cwm (y naill fel y llall yn eiddo i Abaty Aberconwy) i'r gorllewin. Y ffiniau hyd y gellir eu casglu oedd, ar yr ochr orllewinol, o bwynt ar nant rhwng Gyfelog ac Ynys Hwfa, ar hyd y nant honno i gyfeiriad y de nes gyrraedd cors yn ardal Bwlch Derwin ac ymlaen ar hyd afonig fach a elwid yn Afon Carrog sydd, mewn gwirionedd, yn flaendwr Afon Wen sy'n aberu â'r môr ger Chwilog. O ffin Eifionydd, ger Bryn Brych, mae'r ffin yn rhedeg i'r de o fynydd bach Y Foel nes gyrraedd Afon Dwyfach ger Derwyn Bach. Mae'r ffin wedyn yn troi tua'r gogledd nes basio Pant-glas cyn troi i'r gorllewin a rhedeg dros y gorsdir Gyfelog.[3] Sylwer bod Derwin Fawr o fewn y ffiniau, ond mae Derwin Bach yn Eifionydd o ychydig lathenni.

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.301
  2. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.xiv, n.1
  3. Colin Gresham, Eifionydd (Caerdydd, 1973), t.306