David Thomas (Dafydd Ddu Eryri)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Cysylltir David Thomas (Dafydd Ddu Eryri), (1759-1822) yn bennaf â'r Waunfawr, a'i gartref cychwynnol ychydig lathenni dros ffin Uwchgwyrfai yn Isgwyrfai. Roedd ei dad Thomas Griffith, fodd bynnag, wedi bod yn bannwr ym Mhandy Glynllifon cyn symud i fwthyn Pen-y-bont yn y Waunfawr.

Roedd Dafydd Ddu Eryri yn gweithio fel gwehydd hyd 1787 pan aeth i gadw ysgol yn Llanddeiniolen, ac wedyn mewn sawl man yn y sir. Am gyfnod byr tua 1810 bu'n cadw ysgol (na wyddys fawr amdani) yn y Dolydd; dichon mai yn yr efail oedd hyn, a safai o fewn ffiniau plwyf Llanwnda.[1]. Un o'i ddisgyblion yn y Dolydd (neu Dolydd Byrion fel y cyfeirir ato yn Y Bywgraffiadur Cymreig) oedd y bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes (1811-1892), sef Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn, yn ddiweddarach. Fodd bynnag, ganed Robert Hughes yn Bodgarad, Rhostryfan ym mhlwyf Llanwnda, cyn symud yn blentyn seithmlwydd i Tyddyn Tudur, a ddaeth, fel nifer o dyddynnod eraill, yn rhan o barc Glynllifon ym 1824. Yn ystod y cyfnod hwn y bu'n ddisgybl i Ddafydd Ddu ac, yn ei hunangofiant, mae'n sôn tipyn am fod dan ddisgyblaeth lem yr hen fardd. Fe'i cofiai yn "hen ŵr hybarch a golwg batriarchaidd arno" yn cerdded nôl a blaen ar hyd yr ysgol a'i ddwylo tu ôl i'w gefn. Byddai'n flin iawn ar adegau ar ôl nosweithiau o ddiota ac weithiau byddai ei wyneb yn frith o gripiadau wedi iddo fod mewn sgarmesoedd. Byddai'r gansen yn wynias bryd hynny. Ysgol dan nawdd yr eglwys wladol a gedwid gan Ddafydd Ddu yn Llandwrog a phan agorwyd ysgol yng nghapel Bwlan gerllaw dechreuodd plant anghydffurfwyr fynd i honno a graddol ddiflannu wnaeth disgyblion yr hen Ddafydd. Dywed Robert Hughes yr arferai'r bardd fod yn brysur wrth ei ddesg ar adegau hefyd yn llunio pregethau am dâl i bersoniaid a oedd yn rhy ddiog i wneud rhai eu hunain. Hanner canrif ar ôl ei ddyddiau ysgol aeth Robert Hughes ati'n ogystal i baentio portread o'i hen athro - darlun yn y cof - ac mae hwnnw bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol. Ynddo gwelir Dafydd Ddu yn edrych yn bur urddasol a'r ddwy fedal a enillodd yn eisteddfodau'r Gwyneddigion yn hongian ar rhubanau ar ei frest. [2]

Daeth Dafydd Ddu i ddiwedd trist pan foddodd yn Afon Cegin ar 30 Mawrth 1822 wrth ymlwybro o Fangor (lle bu'n cyfarfod â chyfeillion) i'w gartref yn Llanrug. Roedd yn ddiwrnod gwlyb a stormus ac wrth groesi'r rhyd dros yr afon ger Ffynnon Cegin Arthur fe lithrodd mae'n debyg a tharo ei ben - roedd sôn hefyd nad oedd yn sobor iawn ar y pryd. Ddwy ganrif yn ddiweddarach mae'n debyg y byddai'r digwyddiad wedi mynd yn angof i bob pwrpas oni bai iddo esgor ym 1938 ar un o sonedau mawr barddoniaeth Gymraeg, a hynny gan dywysog y soned, R. Williams Parry. Y flwyddyn honno y lluniodd ef yr enwog "Ymson Ynghylch Amser", sy'n dechrau â'r llinellau ysgytwol:

 Hon ydyw'r afon, ond nid hwn yw'r dŵr
 A foddodd Ddafydd Ddu. Mae pont yn awr
 Lle'r oedd y rhyd a daflodd yr hen ŵr
 I'r ffrydlif fach a thragwyddoldeb mawr.[3]


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig (Llundain, 1953), t.883
  2. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), tt.8-17.
  3. R. Williams Parry, Cerddi'r Gaeaf, (Gwasg Gee, 1952), t.64.