David Hughes Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd Syr David Hughes Parry (1893-1973) yn gyfreithiwr, darlithydd ac athro yn y gyfraith a gweinyddwr prifysgol.

Fe'i ganed ar 3 Ionawr 1893 yn fferm Uwchlaw'r Ffynnon, sydd ar fin y ffordd sy'n dringo o Lanaelhaearn i Lithfaen. Roedd ei fam yn wyres i'r bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes a dreuliodd gyfran helaeth o'i oes yn Uwchlaw'r Ffynnon. Wedi addysg uwchradd yn Ysgol Ramadeg Pwllheli, aeth David Hughes Parry i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth ym 1910 i astudio'r gyfraith, gan ennill gradd dosbarth cyntaf ym 1914. Ymunodd â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, i ddechrau fel milwr cyffredin cyn cael comisiwn yn swyddog. Cafodd ei anafu ar un achlysur a dioddef hefyd oddi wrth friwiau stumog a'i poenodd gydol ei oes.

Ar ôl y rhyfel aeth i Goleg Peterhouse, Caergrawnt, i astudio'r gyfraith ymhellach ac fe'i galwyd i Far y Deml Fewnol (Inner Temple) yn Llundain ym 1922 ar ôl dod i frig ei flwyddyn yn yr arholiadau proffesiynol. Roedd eisoes wedi cael ei benodi i swydd darlithydd yn y gyfraith yn ei hen goleg yn Aberystwyth ddwy flynedd ynghynt. Ym 1923 priododd â Haf Edwards, merch Syr O.M.Edwards (1858-1920).

Ym 1924 fe'i penodwyd yn ddarlithydd yn y gyfraith yn Ysgol Economeg a Gwyddor Gwleidyddiaeth Llundain (y London School of Economics - LSE). Ei brif ddiddordeb oedd cyfraith eiddo a chyfraith etifeddeg, ac fe'i dyrchafwyd i Gadair Cyfraith Loegr ym Mhrifysgol Llundain ym 1930. Er iddo gyhoeddi gweithiau o bwys yn ei briod feysydd, arweiniodd ei yrfa ef i faes gweinyddu a llywodraethu prifysgol. Fel Pennaeth Adran y Gyfraith yr LSE roedd mewn gwirionedd yn arweinydd 3 Ysgol Cyfraith Prifysgol Llundain (y ddwy arall yng Ngholeg y Brenin a Choleg y Brifysgol). Daeth penllanw ei yrfa ym myd gweinyddiaeth academaidd gyda'i benodi'n Is-ganghellor Prifysgol Llundain ym 1945.

Ei gyfraniad mwyaf arhosol i ysgolheictod gyfreithiol oedd ei waith fel cyfarwyddwr cyntaf Sefydliad Uwch Astudiaethau Cyfraith Prifysgol Llundain, a sefydlwyd i hyrwyddo ysgolheictod gyfreithiol a datblygu ymchwil gymharol a rhyngwladol ym maes y gyfraith. Bu'n ben ar y sefydliad hwn am dros ddegawd a gosod sylfeini ei ffyniant yn y dyfodol.

Drwy'r 1940au a'r 50au derbyniodd lawer o anrhydeddau. Cafodd ddoethuriaethau er anrhydedd gan sawl prifysgol led led y byd, gan gynnwys Prifysgol Cymru ym 1947. Fel ei dad yng nghyfraith O.M. Edwards, a'i frawd yng nghyfraith Ifan ab Owen Edwards, fe'i hurddwyd yn farchog ym 1951. Fe'i dyrchafwyd yn Feinciwr yn y Deml Fewnol flwyddyn yn ddiweddarach, yn Gwnsler y Frenhines er anrhydedd ym 1955 ac yn gymrawd er anrhydedd o'i hen goleg yng Nghaergrawnt ym 1956.

Roedd ei bresenoldeb ym mywyd cyhoeddus Cymru yr un mor arwyddocaol - ond methiant fu ei uchelgais fawr i ddod yn brifathro Coleg y Brifysgol Aberystwyth. Ni fu ei gais am y swydd honno'n llwyddiannus ar ddau achlysur, ym 1927 a 1934. Bu hynny'n dân ar ei groen a dywedir na faddeuodd i'r rhai a'i rhwystrodd rhag cyrraedd y nod hwnnw. Fodd bynnag penodwyd ef yn Llywydd y Coleg ym 1954. Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth yn rhan amlwg o'r helbul mawr a ddigwyddodd yno pan gysylltwyd y Prifathro, Goronwy Rees, â chylch ysbïo Burgess/Maclean, wedi i Rees gyhoeddi rhai erthyglau ym mhapur newydd The People. Arweiniodd rhai o ffigurau amlycaf y Coleg ymgyrch i gael gwared ar Rees ac aeth yn frwydr bersonol a chwerw rhwng Rees fel Prifathro a Hughes Parry fel Llywydd. Ac yntau'n feistr ar y gyfraith ac yn deall i'r dim sut roedd pwyllgorau prifysgol yn gweithredu, Hughes Parry a orfu a chollodd Rees ei swydd ym 1957, a phenodwyd Thomas Parry'n brifathro newydd y flwyddyn ganlynol.

Bu David Hughes Parry'n aelod blaenllaw o Eglwys Bresbyteraidd Cymru gydol ei oes a derbyniodd ei hanrhydedd uchaf ym 1964-65 pan etholwyd ef yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol - yr ail leygwr yn unig i ddal y swydd. Fe'i penodwyd hefyd yn gadeirydd y pwyllgor a sefydlwyd gan y Llywodraeth rhwng 1963-65 i ymchwilio i statws gyfreithiol y Gymraeg. Ef oedd prif bensaer yr adroddiad a gyhoeddwyd ym 1965 ac a arweiniodd at Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1967, deddf a sefydlodd am y tro cyntaf mewn deddfwriaeth bod y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.

Roedd yn ddyn "y sefydliad" yn bendifaddau a chredai yng ngallu sefydliadau i roi arweiniad, esiampl a chanolbwynt i fywyd cyhoeddus. Roedd yn ddyn tal ac urddasol ei olwg ac o natur ddigon balch a phenderfynol. Gallai fod yn chwyrn a diamynedd â rhai a anghytunai ag ef, ni oddefai rai a ystyriai yn ffyliaid ac nid oedd yn ddyn i'w groesi mewn pwyllgorau. Eto, roedd yn driw i'w gyfeillion ac i'r sefydliadau hynny a oedd yn agos at ei galon. Bu farw yn ei gartref, Y Neuadd Wen, Llanuwchllyn (sef y tŷ mawreddog a gododd O.M. Edwards) ar 8 Ionawr 1973. Roedd Haf, ei briod, wedi marw ym 1965 - ni chawsant blant.

Am wybodaeth lawnach am David Hughes Parry, gweler erthygl Richard Gwynedd Parry arno yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein. Dymunir cydnabod yr erthygl honno am lawer o'r wybodaeth uchod. Hefyd, ym 1972, flwyddyn cyn ei farw, cyhoeddodd David Hughes Parry gyfrol weddol fer o atgofion gyda'r teitl O Bentref Llanaelhaearn i Ddinas Llundain (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, Caernarfon). Nodir arni mai Cyfrol I ydyw, ond gyda marwolaeth yr awdur y flwyddyn ganlynol ni chafwyd ail gyfrol.


Cyfeiriadau[golygu]