David Francis Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Roedd David Francis Roberts (1882-1945) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur.

Fe'i ganed 15 Tachwedd 1882 yn 3 Libanus Terrace, Y Bontnewydd, yn fab i Robert ac Ellen Roberts. O'r ysgol sir yng Nghaernarfon aeth yn fyfyriwr i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor (1901-04), ac yna am flwyddyn i Goleg Y Bala cyn treulio blwyddyn bellach ym Mhrifysgolion Berlin a Marburg. Bu'n ddarlithydd cynorthwyol mewn Hebraeg ym Mhrifysgol Glasgow o 1908-12. Ym 1912 fe'i hordeiniwyd a bu'n weinidog ar eglwysi ym Mlaenau Ffestiniog, Lerpwl a'r Bala.

Cyfrannodd yn helaeth i faes astudiaethau beiblaidd, gan gyhoeddi gwerslyfrau ar nifer o lyfrau'r Beibl a chyfrannu llawer o erthyglau i gylchgronau ei enwad. Cyfrannodd erthyglau yn Saesneg hefyd i'r International Bible Standard Encyclopaedia. Gweithredodd fel is-olygydd y Geiriadur Beiblaidd, a gyhoeddwyd ym 1926, a bu'n olygydd cyffredinol y Geiriadur Diwinyddol, gwaith a baratowyd dan nawdd Prifysgol Cymru ond a ataliwyd o ganlyniad i'r Ail Ryfel Byd. Rhwng 1929-1945 bu'n un o olygyddion Y Traethodydd. Gwnaeth lawer o waith hefyd ynglŷn â'r cyfieithiadau newydd o'r Beibl a gyhoeddwyd dan nawdd y Brifysgol. Bu'n amlwg yn ogystal ym mhwyllgorau a chyrff llywodraethol ei enwad, a gwasanaethodd fel llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd ym 1941.

Priododd ym 1921 â Sarah Ann Davies o Flaenau Ffestiniog. Dywedir ei fod yn ŵr cadarn ei argyhoeddiadau a mawrfrydig ei ysbryd ac yn hynod drylwyr ym mhopeth a wnâi. Bu farw yn Y Bala 9 Medi 1945 yn 62 oed ac fe'i claddwyd ym mynwent Caeathro.[1]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr uchod ar erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1941-1950, (Llundain, 1970), tt. 49-50.