Daeareg ardal y Groeslon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Gorwedd pentref Y Groeslon ar lethr graddol yn wynebu Môr Iwerddon. Sylfaenwyd y pentref ar rai o greigiau hynaf Cymru, sef y creigiau Arfonaidd. O dan y pentref mae’r creigiau Arfonaidd yn gymysgfa o rhyolite (lafa llosgfynydd asidig wedi oeri a chaledu): twff, (lludw llosgfynydd wedi caledu i ffurfio craig) ac ignimbrite (craig wedi ei chyfansoddi o filiynau o ddarnau o wydr lafa yn dilyn ffrwydrad llosgfynydd) .

I’r gorllewin o’r pentref rhêd ffawt Aber-Dinlle, y ffawt honno sy’n rhedeg o Ddinas Dinlle i Abergwyngregyn ac sy’n creu Allt Fawr ger Groeslon Ffrwd. Gwahana’r ffawt greigiau Arfonaidd i’r dwyrain oddi wrth siâl Ordoficaidd i’r gorllewin. Craig waddod yw’r sail wedi ei henwi ar ôl un o hen lwythau Celtaidd Cymru — yr Ordoficiaid — llwyth a gofir yn yr enw Dinorwig — Dinas yr Ordoficiaid.

I’r dwyrain o’r pentref ceir haenau o lechi Cambraidd ym Moel Tryfan, Cilgwyn, Pen-yr-Orsedd a Dorothea — enwau sydd wedi dod yn rhan o Fabinogi newydd ardal Lleu.

Uwchben yr ardal gwelir gwar mud Y Mynydd Mawr — Mynydd Grug i bobl Y Groeslon — plwg o ficrowenithfaen yn cau gwddf un o hen losgfynyddoedd Cymru.

Ffurfiwyd yr holl greigiau hyn rhwng chwe chan miliwn a phedwar can miliwn o flynyddoedd yn ôl, ymhell cyn bod sôn am ddynoliaeth ar y ddaear.

Tua dwy filiwn o flynyddoedd yn ôl oerodd hinsawdd y ddaear a gorchuddiwyd ardal Y Groeslon o dan ddegau o fetrau o rew. Mae ôl sicr o ddwy oes rew yn Y Groeslon, llen iâ y gyntaf, wedi dyddodi clog glai coch-frown o wely Môr Iwerddon tros yr ardal a rhewlifoedd yr ail, wedi dyddodi clog glai llwyd o ddyffrynnoedd Eryri.

Mae Allt Nant-yr-Hafod a Phen-y-Bonc yn rhan o gadwyn o farianau yn gwahanu’r clog glai llwyd i’r gorllewin oddi wrth y clog glai coch-frown i’r dwyrain. Yn y clog glai coch-frown ceir cerrig gwenithfaen o Aeron a Chlud yn yr Alban a fflint o Wladh yn yr Iwerddon, wedi eu cludo i Arfon gan y rhew. Gorchuddiwyd ardal Y Groeslon bron yn gyfangwbl gan y clog glai. Datblygodd dau brif fath o bridd ar y clog glai. Ble mae’r clai yn athraidd (sef ‘’permeable’’) e.e. ar dir Tyddyn Mawr, datblygodd pridd brown, gyda glaw trwm Arfon yn trwytholchi’r maeth trwy ddyfnder y pridd. Ble mae’r clai yn anathraidd, e.e. ar Ros Nennan a chors Gallt y Pill, datblygodd pridd cleiog trwm, yn aml yn dirywio i fawn ar gorsdir.

Pan ddaeth ein cyndadau i’r ardal hon, mae’n debyg tua chwe mil o flynyddoedd yn ôl, gorchuddid yr holl ardal â choedwig gollddail, coedwig a ymdoddai i goedwig binwydd ar y bryniau. Cliriodd dyn y goedwig i amaethu’r ardal (a cheir llawer o olion amaethu cynnar ar y llethrau rhwng y Groeslon a Rhosgadfan). Ar y tir da o bridd brown bu hyn yn fendith. Ar y tir trymach bu’n felltith. Cadwai gwreiddiau’r coed y pridd yn agored ac athraidd, gan adael i ddŵr dreiddio drwodd. Unwaith y cliriwyd y coed daeth y tir trwm yn rhostir cleiog ac yn gorsdir anathraidd.[1]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Copïwyd yr erthygl hon yn ei ffurf wreiddiol allan o Hanes y Groeslon (2000), tt.3-4, gyda chaniatad y golygyddion.