William W. Jones (Cyrus)

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cyrus)
Jump to navigation Jump to search
Cyrus tua 1900

Nid gŵr cyffredin o ran ei ymddangosiad, ei alluoedd, na'i weithgarwch oedd William W. Jones (1839-1903), a adwaenid yn gyffredinol fel “W.W. Jones, Cyrus”. Ganwyd W.W. Jones yn Brynbychan, Llanaelhaearn - cartref ei hynafiaid ers cannoedd o flynyddoedd. O'r llinach hon y gelwid taid Cyrus o du ei fam. Cefnder i'w fam Mary (g.1800 yn Llanaelhaearn) oedd Nicander, a chefnder i'w dad William Jones (g.1801 yn Llanllyfni) oedd y bardd awenber John Roberts, Llundain. Symudodd y teulu o'r Brynbychan i Ty'nllwyn, Llanllyfni, fferm o ryw 12 erw ger Chwarel Tyddyn Agnes pan nad oedd Cyrus ond tua saith mlwydd oed, a phan oedd yn naw oed, aeth i'r chwarel heb gael unrhyw fanteision addysg yn ôl ei gofiannydd - er yn ôl Cyfrifiad 1851, fe’i nodir fel “mab ffarmwr”.[1] Cafodd yr ychydig addysg a gafodd yn yr Ysgol Sul, ac ar aelwyd ei rieni, gan nad oedd ysgol ddyddiol i'w chael yn y gymdogaeth. Ystyrid ei dad yn ysgolhaig lled dda, a hynny’n gryn fantais i'w blant.

Priododd pan yn bur ifanc â Margaret, merch o blwyf Llanllyfni; ac ar ôl dechrau magu plant, gwelodd yr angen am ysgol ddyddiol, a chafodd y fraint o fod yn un o dri a wnaeth ddechrau'r symudiad i sefydlu Ysgol Frytanaidd yn y gymdogaeth. Gwasanaethodd yn ffyddlon fel ysgrifennydd i'r ysgol am ddeng mlynedd heb unrhyw gydnabyddiaeth. Pan sefydlwyd Bwrdd Ysgol yn y plwyf, etholwyd ef yn aelod, a gweithiodd yn egnïol am y chwe blynedd lafurus cyntaf yn hanes y bwrdd, pan yr oedd ysgoldai newydd yn cael eu hadeiladu. Yr un modd, dewiswyd ef yn aelod o'r cyngor plwyf cyntaf ym mhlwyf Llanllyfni.

Bu’n ysgrifennu at y wasg ar faterion megis hawliau gweithwyr, chwareli a dirwest, yn ogystal â barddoni pan oedd yn ifanc, a hynny gyda pheth llwyddiant. Brawd iddo oedd y gŵr galluog, J. W. Jones, golygydd y Drych Americanaidd. Ysgrifennodd Cyrus ysgrifau i’r Drych yn gyson am ddeugain a mwy o flynyddoedd, ac fe ddaeth bron mor adnabyddus ymhlith Cymry America ag yr oedd yn ei wlad ei hun.

Roedd yn Rhyddfrydwr o ran egwyddor bron ar hyd ei oes. Yr oedd yn Rhyddfrydwr cyn y deffroad Rhyddfrydol ym 1868. Chwaraeodd ran amlwg wrth ysgogi'r deffroad hwnnw ymysg chwarelwyr a gweithwyr Sir Gaernarfon. Dywed Ioan Eifion ei fod yn Rhyddfrydwr mawr pan weithiai yn Chwarel y Gorseddau tua'r flwyddyn 1856.

Yn fuan wedi priodi adeiladodd dŷ iddo ei hun ym mhentref Llanllyfni ac, ar ôl ei orffen, cadwodd siop lyfrau ynddo. Galwodd yr adeilad yn "Llyfnwy House". Yn ddiamau roedd wrth ei fodd ymysg y newyddiaduron a'r llyfrau, ac “Y Bookseller” oedd yr enw a roddwyd iddo gan ei gyfeillion a'i gydnabyddion agosaf. Maes o law, byddai ei fab, William W. arall, yn ymuno yn y busnes gan weithio fel argraffydd a rhwymwr llyfrau.[2] Yr oedd ei chwaeth at lyfrau ac at y Wasg (yn enwedig y rhan newyddiadurol ohoni) yn cyfrif, i raddau bychan, am ei awydd i adeiladu tŷ, a'r defnydd a wnaeth ohono. Roedd yn credu'n gryf yng ngallu a dylanwad y Wasg, a gwnaeth ddefnydd helaeth ohoni i hyrwyddo'r amcanion a oedd ganddo mewn golwg, a diamau fod y siop lyfrau yn rhan o'r cynllun yn ei feddwl. Ond credwn fod ganddo amcan arall, heblaw cael ychydig help at fyw a gwerthu llyfrau, mewn golwg wrth godi tŷ. Cyn estyniad yr etholfraint yn yr 1880au yr unig ffordd i weithiwr allu sicrhau pleidlais oedd trwy iddo gael tŷ yn ei feddiant ei hun. Roedd Cyrus yn Rhyddfrydwr mor selog fel nad oedd yn fodlon ar siarad yn unig o blaid yr achos; yr oedd hefyd am fynnu cael pleidlais, fel y gallai roi help sylweddol i'r achos Rhyddfrydol.[3]

Cymerai ddiddordeb mawr bob amser mewn chwareli a chwarelwyr - datblygiad y naill, a diogelwch bywydau a hawliau'r llall. Gweithiodd yn ddiflino dros y chwarelwyr, ac roedd yn ddigon deallus ym materion chwarelydda i ysgrifennu’n helaeth a chynnal trafodaeth yn Y Genedl Gymreig ym 1883 yn trafod yr hyn oedd yn atal chwareli Dyffryn Nantlle rhag llwyddo fel y gallent.[4] Bu ganddo ran flaenllaw mewn byrhau oriau llafur, yn enwedig symud y gorthrwm o orfod mynd i'r chwarel erbyn pedwar o'r gloch fore Sadwrn. Oherwydd y rhan flaenllaw a gymerodd i arwain ei gydweithwyr i fuddugoliaeth yn y mater hwn, cafodd ef a Richard Griffith, o'r Garregwen, eu cosbi trwy eu cadw allan o'r gwaith am bythefnos. Honnwyd gan ysgrifennwr yn Papur Pawb ym 1900 fod Cyrus wedi ysgrifennu mwy i'r wasg newyddiadurol na’r un chwarelwr arall; roedd toreth fawr o'r ysgrifau hynny’n ymwneud â chwestiynau llafur a hawliau’r gweithiwr. Tynnodd sylw at yr angenrheidrwydd o agor Afon Llyfni, ugain mlynedd cyn i'r gwaith hwnnw gael ei ddechrau, a bu'n aelod gweithgar o'r pwyllgor di-ildio a ddygodd y gwaith pwysig hwnnw i fwcl. Aeth ati i drafod gyda chewri megis y Parch J. Spinther James, ac eraill, ar ddalennau’r wasg; roedd cylch ei ddarllen eang, ehangder ei wybodaeth, a'i fedrusrwydd fel ysgrifennwr, yn ei wneud yn ddadleuydd cryf a pheryglus iawn i'w wrthwynebydd. Ymhlith ei ysgrifau, anodd fyddai cael dim mor finiog ac ysgubol a'i adolygiad o dystiolaeth yr Anrhydeddus W. W. Vivian gerbron y Ddirprwyaeth Frenhinol, ar weithio chwareli. Galwodd sylw at yr angenrheidrwydd o osod y chwareli o dan arolygiaeth y Llywodraeth, er mwyn lleihau damweiniau, a dangosodd y gallesid lleihau’r damweiniau yn Chwareli Nantlle i'r hanner, fel y digwyddodd. Penllanw ei weithgaredd fel lladmerydd dros y chwarelwyr oedd iddo gael ei ethol yn Llywydd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1900.

Roedd yn flaenor yn Salem, Llanllyfni, o 1880 ymlaen, a chymerodd y swyddogaeth honno o ddifrif, gan fod yn weithgar iawn. Ysgrifennodd lawer am hanes Methodistiaeth yn Llanllyfni a'r cylchoedd. Arferai gystadlu’n gyson fel bardd ac awdur, a hynny mewn cystadlaethau pwysig. Bu’n weithgar o’i ieuenctid ymlaen am dros 40 mlynedd yn hyrwyddo achos dirwest. Areithiai ac ysgrifennai lawer i hyrwyddo’r achos hwnnw; fe’i hetholwyd ym 1900 yn llywydd Undeb Dirwestol Dyffryn Nantlle. Chwaraeodd ran yn arweiniad yr Undeb ar adeg Streic y Penrhyn, gan ei gweld fel brwydr rhwng chwarelwyr Cymreig a Chymraeg a Saeson gormesol mewn awdurdod. Teithiodd i America ym 1902 i godi arian at gronfa'r Streic.[5]Bu'n llywydd effeithiol gan annog y chwarelwyr - yn groes i'w athroniaeth wleidyddol cyn hynny - i bleidleisio dros ymgeiswyr y Blaid Lafur ym 1903 os oedd yr ymgeisydd yn cytuno â'r arweinydd, Mabon.[6]

Fel areithiwr, roedd ymysg y goreuon o ran cynnwys ei areithiau a'i ddull o'u traddodi. Disgrifiwyd ei ddull gan "Papur Pawb" fel hyn: “O ran cyfoeth ei iaith, treiddgarwch llais, gwresogrwydd teimlad, ysgogiadau chwaethus, a sylwedd ei fater, saif ar ei ben ei hun ym mhlith ei frodyr fel areithiwr anhawdd cael ei debyg ym mhlith meibion llafur”. Gellid honni hefyd fod ei wybodaeth o'r diwydiant a'r gweithwyr, ynghyd â'i ymagweddiad rhesymol a rhesymegol, ochr yn ochr ag agwedd gymharol oddefgar ac ystyriol prif reolwyr a pherchnogion y chwareli mwyaf yn y dyffryn, wedi arbed yr ardal rhag y gwaethaf o'r anesmwythyd a gafwyd yn nyffrynnoedd eraill ardal y chwareli.

Serch ei ddoniau a’i weithgarwch, ni chafodd fywyd hawdd. Collodd ei briod ym 1893, ac er magu wyth o blant, collodd bedwar ohonynt yn ifanc.[7] Bu farw 29 Awst 1903 yn ei gartref yn Llanllyfni.[8]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851
  2. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1881-91
  3. Y Geninen, Rhifyn Gŵyl Dewi 1904, t.44
  4. Y Genedl Gymreig, passim, Mai-Gorffennaf 1883
  5. Jean Lindsay, The Great Strike, (Newton Abbot, 1987, tt.175, 177
  6. Jean Lindsay, op.cit., t.217
  7. Papur Pawb, 26.5.1900, t.4
  8. Caernarvon and Denbigh Herald, 4.9.1903, t.8