Cynan yn Nhrefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad oddi wrth Cynan)
Jump to navigation Jump to search

Yn ystod blynyddoedd yr Ail Ryfel Byd, bu Cynan, y prifardd a'r dramodydd, yn cynnal dosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr ym mhentref Trefor. Roedd selogion y dosbarth yn wŷr a gwragedd diwylliedig, yn feirdd a llenorion, ac yn bobl y ddrama. Mae Cynan yn disgrifio peth o'i wefr yn cynnal y dosbarth mewn erthygl yn Lleufer.[1]

Ym 1944 ni chynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol mewn pabell ar gae, ond yn hytrach fel Eisteddfod Radio. Roedd yr Eisteddfod, yn ystod blynyddoedd y Rhyfel, wedi ei chwtogi i dridiau gyda rhyw gymaint ohoni yn Hen Golwyn, 1941, yn cael ei darlledu'n fyw ar y radio. Cynhaliwyd rhyw fath o Eisteddfod ym 1943 ym Mangor (yn hytrach nag yn Llangefni) ond mewn adeilad oedd yn dal brin saith gant o bobl yn unig. Cafwyd cwynion dybryd.

Ym 1944 daeth tro ar hynt a helynt yr Eisteddfod. Fe'i gwahoddwyd i bentref Llandybïe ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin. Llysenwyd Eisteddfod Llandybïe yn 'Eisteddfod y Cyfryngau' oherwydd i'r BBC ei darlledu'n fyw i'r genedl. Eisteddfod Radio fu hon. Ymddangosodd y Rhestr Testunau yn weddol brydlon ym 1943, a phan welodd Cynan fod yna gystadleuaeth wedi ei gosod ar gyfer 'Dosbarth W.E.A.', penderfynodd y byddai cystadlu yn hwb nid bychan i'w ddosbarth ef ei hun yn Nhrefor. Cytunodd yr aelodau'n frwdfrydig gan mai'r prosiect ar gyfer y gystadleuaeth oedd "Casgliad o weithiau yr efrydwyr ar ffurf un rhifyn o gylchgrawn". Y beirniad oedd David Thomas, un o hoelion wyth y mudiad W.E.A. yng ngogledd Cymru ac yn awdur galluog ei hun. Ymysg ei weithiau mae Hen Longau Sir Gaernarfon a Cau'r Tiroedd Comin. Ysgrifennodd ei wyres, Angharad Tomos, gofiant iddo, Hiraeth am Yfory, yn 2002.

Rhai aelodau yn nosbarth Cynan oedd David Thomas (D.T.) Williams, ddaeth yn enillydd cenedlaethol ar yr Ysgrif ddechrau'r pumdegau ; William Roberts (Gwilym Ceiri), bardd ac awdur un o englynion gorau'r Gymraeg yn ôl neb llai nag R. Williams Parry, sef englyn i'r 'Pistyll' ; W.T. Williams (Wil Llangybi), bardd cadeiriol pur amlwg yng Ngwynedd ; Tom Bowen Jones ('Twm Gwydir Bach'), bardd a chynganeddwr rhagorol a ddaeth yn fuddugol ar yr englyn yn Eisteddfod Genedlaethol y Barri, 1968, gyda'i englyn gwych i'r 'Map'. Fo, wrth gwrs, enillodd y gystadleuaeth yn y pumdegau i lunio englyn i'w roi ar gofeb Eben Fardd ym mynwent Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr- "Dinistr Caersalem dynion ... " ; a Jane Evans a luniodd bwt o hunangofiant ar gyfer y gystadleuaeth hon. Roedd yna aelodau eraill hefyd wrth reswm.

Er mawr lawenydd i'r dosbarth ac i Gynan, heb sôn am yr ardal gyfan, cipiodd cywaith llenorion Trefor y wobr gyntaf gyda chanmoliaeth uchel y beirniad.

D. Lloyd Jenkins, Tregaron, enillodd y Gadair gyda'i awdl 'Ofn', a J. M. Edwards, Y Barri y Goron gyda'i bryddest 'Yr Aradr'.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Cynan, Dysgu Barddoni (Lleufer, Cyf.XVIII, 3 (Hydref 1962) ), tt.107-16.