Cyfranddalwyr Rheilffordd Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Rhestr o Gyfranddalwyr Cwmni Rheilffordd Nantlle ym 1825-6[1]

  • Syr William H Clerke 5 siâr. Swyddog o'r fyddin wedi ymddeol. Ffrind Ardalydd Môn. Yn byw yng Nghaernarfon
  • Henry Potts 5 siâr. Byw yng Ngaer. Enwyd yn y Ddeddf (1825). Ysgrifennydd y Cwmni o bosibl.
  • George Johnson 10 siâr. Perchennog Chwarel "Green". Yn buw yn Rhes Uxbridge, Caernarfon.
  • G H Timmins 40 siâr. Masnachwr o Lerpwl.
  • Mary Richardson 20 siâr.
  • John T Smedley 15 siâr. Trysorydd y Cwmni.
  • Jane Young, wedyn Jane Holt 5 siâr.
  • William Brade 10 siâr. Cadeirydd Pwyllgor Rheoli Rheilffordd Nantlle ym 1832.[2]
  • Mrs Jane Hughes 3 siâr.
  • Parch J W Trevor 4 siâr. Ficer Caernarfon
  • Capt James Thomas Sewell 1 siâr. Cadben ar y militia gwirfoddol yng Nghaernarfon.
  • John Drinkwater 5 siâr.
  • Alexander McGregor 10 siâr.
  • William Potter 1 siâr. O bosibl, perthynas i Thomas Potter, ceidwad tolldy'r lein yng Nghaernarfon.
  • Rebecca Seaman 1 siâr. Trosglwyddwyd oddi wrth J Young
  • R A Poole 3 siâr. Twrnai yng Nghaernarfon. Trosglwyddwyd oddi wrth Gr Jones
  • William Owen (cyfranddaliwr) 2 siâr. O bosibl, yn berchennog Chwarel Braich-y-fedw. Yn byw yng Nghefn hendre, Caernarfon. Trosglwyddwyd oddi wrth Gr Jones. Roedd yna ddyn arall o'r un enw yn gontractor a gododd argloddiau, pontydd ac ati ar y lein, fel mae llyfr cyfrifon y cwmni'n ei wneud yn eglur trwy gyfeirio at "Wm Owen (shareholder)" a "Wm Owen (contractor)".
  • Parch Wynne W Williams 1 siâr. Trosglwyddwyd oddi wrth Jane Hughes
  • James Bourne 5 siâr. Masnachwr o Lerpwl. Trosglwyddwyd oddi wrth Alex McGregor
  • John Bourne 5 siâr. Tad James Bourne o bosibl. Trosglwyddwyd oddi wrth Alex McGregor

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XM/9309/4
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/17176