Cwt Band Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Amrywiol a diddorol yw hanes hir Cwt Band Trefor.

Pan sefydlwyd y band cyntaf, The Rivals Band neu'r Llanaelhaiarn Brass Band (roedd ganddo ddau enw), nid oedd gan yr aelodau druain ond un lle i ymarfer sef y ffordd fawr rhwng Trefor a Llanaelhaearn! Arferent ymarfer yn aml iawn, yn ddyddiol medd un ffynhonnell, a hynny am reswm arbennig. Gan nad oedd ganddynt adeilad pwrpasol, arferent ymarfer martsio'n unig, a hynny ar y ffordd arweiniai i fyny i Tafarn Tyddyn Drain|Dafarn Tyddyn Drain]], neu'r Waterloo Inn fel y gelwid y lle o 1815 ymlaen. Saif yr hen dafarn yno o hyd - bellach yn dŷ annedd - ar gwr uchaf y stryd o bum tŷ a elwir yn Brynffynnon (Tai Tyddyn Drain ar lafar).

Ar ôl stryffaglu gyda'r ymdeithio, arferent droi i mewn i'r dafarn i gael llymaid neu ddau neu dri, ac fe ganiatâi'r tafarnwr iddynt fynd â'u hofferynnau i mewn i'w chwarae yn y dafarn. Ar wahân i un offeryn, sef y drwm. Gwaherddid hwnnw oherwydd credai'r tafarnwr fod ei sŵn yn "llwydo'r" cwrw. Ystyr "llwydo" ydi gwneud y cwrw yn fflat. Mae yna hen bennill yn dweud hyn :

   Yn Tynllan mae cwrw llwyd, sydd yn ddiod ac yn fwyd ;
   Yfais innau lond fy mol nes 'ro'n i'n troi fel olwyn trol.

Cwrw fflat ydi cwrw llwyd. Fel hyn y disgrifia Hugh Williams, Tai Newyddion (1850 - 1945), y sefyllfa mewn Atgofion anghyhoeddedig a sgrifennodd.


  Yn Nhrefor yr oedd llawer o Saeson 'rough' iawn o gylch Leicester wedi dod i weithio'n y chwarel. Yr unig beth a sefydlwyd ganddynt oedd seindorf bres. Aethant bob nos bron i Dyddyn Drain ar orymdaith i'r dafarn oedd yno, neu i'r Inn yn Llanaelhaearn - a hynny i botio. Er eu bod yn bobl iawn, nid oeddynt wedi eu dofi drwy rym yr Efengyl. Ni chaniateid iddynt guro'r drwm yn y dafarn rhag iddynt gynhyrfu'r cwrw a'i lwydo fo.

Hyd y gwyddom, parhaodd y sefyllfa ddi-gwt-band hon am ryw dair neu bedair blynedd. Y Lôn hon oedd Cwt Band CYNTAF Seindorf Trefor.

Pan agorodd y Cwmni Ithfaen Cymreig yr Inclên newydd o'r Gwaith yn y mynydd i lawr i Weirglodd Fawr y Morfa yn y gwaelod, ym 1867, cafodd y Band ddefnyddio un o ystafelloedd y Swyddfa fawr newydd a godwyd yno, Yn yr ystafell hon, sydd bellach yn rhan o ystafell snwcer a phŵl Tafarn y Tŵr, y cafodd Seindorf Trefor fan ymarfer. Fe'i defnyddiwyd am flynyddoedd hyd at ganol y 1880au. Dyma'r 'nawdd' a gai'r Band gan y Cwmni Ithfaen Cymreig. Hwn oedd AIL Gwt Band Seindorf Trefor.

Am ryw reswm nas gwyddom, chwalodd y Band am gyfnod yng nghanol y 1880au, ond ailgydiwyd yn yr offerynnau ym 1890. Gwnaed cais ar unwaith i gael defyddio'r ysgol leol, ysgol y Cwmni Ithfaen Cymreig, i ymarfer ynddi, a chafwyd caniatâd parod y Cwmni Ithfaen i'w defnyddio bob nos Wener o saith o'r gloch ymlaen. Hwn oedd TRYDYDD Cwt Band Seindorf Trefor.

Gobeithiai'r Cwmni na fyddai yna unrhyw gamymddwyn ac amharchu'r adeilad - no riotous conduct be tolerated. Yn ystod yr ugain mlynedd dilynol bu gwrthdaro cyson a digon mileinig rhwng yr Ysgolfeistr, Benjamin O. Jones, a'r Band. Cwynai'r ysgolfeistr yn ddi-baid am rihyrsals y Band e.e. yn Log yr ysgol ar gyfer 6 Rhagfyr 1895 meddai :

The Band on Friday evenings, having the school by manager's permission, should pay something for extra cleaning as they smoke and spit much.

O'r diwedd gwrandawodd George Farren, Prif Oruchwyliwr y Gwaith, ar gwynion diddiwedd yr ysgolfeistr druan. Anfonodd lythyr chwyrn at bwyllgor y Band yn Chwefror 1896 :

I decide that the Band may practise in the schoolroom twice a week from 7.30 to 9.30. But that during that time they must conduct themselves like students. Must not smoke or spit or use it as a lounging room in any respect. They are to behave exactly as they would do if they went into each other's parlour.

Dal i gwyno yn ei lyfr log, fodd bynnag, wnai'r ysgolfeistr, i mewn i'r ganrif newydd :

23 Chwefror 1897 : The Band practise on Tuesday and Friday. A concourse of lads scale the walls and run the premises during their practice. Some of the Band members forget the prohibition.

4 Mawrth 1898 : ... the Band are not particular at all about the time of coming and going. They want all their own way.

15 Rhagfyr 1903 : Band practises for hours three times weekly beside other meetings disarrange the school, and dirty rooms and precincts owing to gatherings. There is no remedy just yet apparently.

25 Ebrill 1904 : The crowds gathering with Band practices on the premises do great damage to the railings etc. the quarry management is responsible and the master lets good many matters go. He [yr ysgolfeistr] has enclosed garden with barbed wire. Volunteer drill and Band practices are not elevating influences at Trefor.

Parhai i gwyno'n ddybryd yn Haf 1912, ychydig fisoedd cyn iddo ymddeol :

Band practices were conducted twice weekly in the Cookery Room. The entrance gate fastened bar was broken, ; next, the cup of the cookery room lock was taken off.

Parhaodd y Band - Seindorf Arian Trefor a'r Cylch erbyn hyn - i ymarfer yn yr ysgol tan 1928, pryd yr aed ati i godi Cwt Band pwrpasol fyddai'n eiddo i'r Band ei hun. Codwyd y Cwt Band hwn, cwt o goed ac asbestos gyda llawr coed a tho teils, ar lain o dir y drws nesaf i gapel Bethania (B) yng ngwaelod y pentref a thros y ffordd i'r ysgol. Gosodwyd y sylfeini gan waith gwirfoddol yr aelodau eu hunain. Ond gan fod y Cwt newydd yn agos iawn i ffens cae drws nesaf, buan iawn y caed tyllau yn y waliau asbestos, diolch i gyrn angherddorol miniog rhai o wartheg Nant Bach a borai yno. Hwn oedd PEDWERYDD Gwt Band Seindorf Trefor.

Cwmni'r chwarel oedd piau'r tir ac roedd y Band yn talu £1 y flwyddyn o 'rhent tir' - y tir yn cynnwys y llain cyfan hyd at y lôn ac at Capel Bethania (B), Trefor|Capel Batus]]. Fel 'Cae Leins' yr adnabyddid y llain tir gan y byddai rhesi o leins-dillad yno ar gyfer ta'nu golch trigolion y strydoedd cyfagos oedd heb y fath gyfleusterau, New Street a Stryd Rafon yn arbennig. Cyn symud oddi yno i Gwt Band newydd ym 1990, prynnodd y Band y tir gan Gwmni'r Chwarel, ac erbyn heddiw mae'r Band wedi dal ei afael ynddo ac yn ei osod am rhent isel.

Ym 1988 condemniodd Cyngor Dosbarth Dwyfor y Cwt Band fel adeilad peryglus ac fe'i caewyd yn syth. Roedd y Band bellach yn ddigartref ac aed ati ar unwaith i geisio rhywle arall i ymarfer ynddo. Dyma pryd y daeth aelodau caredig [[Capel Maesyneuadd (A), Trefor|capel Maesyneuadd (A) i'r adwy, gan mai nhw oedd piau capel Bethlehem (A) oedd wedi cau ym 1983.

Codwyd Capel Bethlehem (A), Trefor yn wreiddiol ym 1812, ac ymhen amser neilltuwyd yr adeilad ar gyfer gwasanaethau Saeson, ar ôl codi Capel newydd Maesyneuadd. Erbyn 1983, dim ond 3 aelod oedd ar ôl yn y Capel Bach a'r rheiny'n Gymry glân gloyw y drydedd genhedlaeth. Fe'i caewyd. Gan mai Maesyneuadd oedd piau'r capel cafwyd pleidlais ynglŷn â'i ddyfodol. Penderfynwyd o fwyafrif llethol ei roi yn rhodd am ddim i Seindorf Trefor oedd, yn ddiweddar, wedi ei gorfodi i gau yr hen Gwt Band ym mhen arall y pentref.

Aeth y Band ati i gael cynlluniau a chymorthdaliadau, ynghyd â chynlluniau uchelgeisiol o'u heiddo eu hunain i godi miloedd o bunnau ar gyfer addasu'r adeilad yn Gwt Band o'r safon orau posib. Yn y cyfamser, dros gyfnod o rhyw ddwy flynedd, bu'r Band yn ymarfer ddwywaith yr wythnos yng Nghanolfan Trefor - trefniant pur anghyfleus gan fod yn rhaid cadw'r standiau a'r offerynnau taro o dan y llwyfan ar ddiwedd pob rihyrsal. Y Ganolfan, felly, oedd PUMED Cwt Band Seindorf Trefor.

Fodd bynnag, ym 1990, daeth eto haul ar fryn, a symudodd y Band i'w Gwt Band newydd yn hen gapel Bethlehem. Mae'r Seindorf yn dal i ymarfer yno ac wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnau i'w addasu a'i wneud yn ddiddos, ynghyd â chodi estyniad pur eang yn y cefn ar gyfer ystafell bwyllgor, cegin fechan, storfa, llungopiwr a llyfrgell o dros fil o ddarnau cerddorol. Dyma CHWECHED Cwt Band Seindorf Trefor. Ie'n wir,'Cwt Band' y'i gelwir gan bawb, ond y geiriau ar wyneb y mur ger y lôn yw : BETHLEHEM, CARTREF SEINDORF TREFOR (sefydlwyd 1863).

CRYNODEB

1. 1863 - 67 : Y Ffordd Fawr

2. 1867 - 1890 : Swyddfa'r Chwarel

3. 1890 - 1928 : Ysgol y Cwmni Ithfaen yn Nhrefor

4. 1928 - 1988 : Cwt Band 'Cae Leins'

5. 1988 - 1990 : Canolfan Trefor

6. 1990 -  : Bethlehem - Cwt Band Seindorf Trefor