Cwmni Llechi Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Sefydlwyd Cwmni Llechi Tal-y-sarn ym 1802 gan John Evans, Chwarel Cilgwyn, ei bartneriaid yn Chwarel Cilgwyn, perchennog fferm Tal-y-sarn a dyn busnes arall er mwyn datblygu tair chwarel fach ar dir y fferm. Y rhent oedd £180 y flwyddyn. Roedd y chwareli bach hyn ymysg rhai hynaf Dyffryn Nantlle ac mor gynnar â 1790, dywedir bod dros 100 o ddynion yn gweithio yno.[1]

Prynodd Cwmni Rundell, Bridge and Co., cwmni gofaint aur o bwys, y cwmni ym 1827, gan fuddsoddi dros £50,000 yn y chwareli. Cofnodwyd ym 1840 mai Richard Havers oedd asiant y cwmni yng Nghaernarfon, a’i fod yn gweithredu o swyddfa ar Gei Caernarfon – lleoliad asiant a swyddfa’r cwmni hyd o leiaf 1918, er rhwng 1874 a 1880, defnyddiwyd gwasanaeth dyn o’r enw Griffith Williams, asiant sawl chwarel lechi.[2]

Gwerthwyd Cwmni Llechi Talysarn tua 1844, ond erbyn diwedd y 1850au roedd y chwarel angen mwy o gyfalaf i ddatblygu ymhellach. Penderfynwyd cynnig gwerth £50,000 o gyfranddaliadau er mwyn sicrhau’r arian angenrheidiol; comisiynwyd dau o brif asiantwyr chwareli llechi ym Mangor a Bethesda, Thomas Colliver a George Twigge, i ysgrifennu adroddiadau am y chwarel. Cafwyd llythyrau hefyd gan William Jones, masnachwr llechi o Pimlico, Llundain a Robert Williams, rheolwr Chwarel Pen-yr-orsedd yn tystio i ansawdd y graig a chynaladwyedd y chwarel. Cyhoeddwyd prosbectws yn gwahodd buddsoddiadau ym 1859. Diddorol yw sylwi o’r prosbectws fod aelodau bwrdd y cwmni i gyd yn byw yn Llundain, a dim ond un ohonynt, Christopher Morgan, oedd â chyfenw Cymreig hyd yn oed. [3]

Erbyn yr 1880au, Thomas Robinson oedd y perchennog a 400 o ddynion yn cael eu cyflogi. Parhaodd y cwmni i gynnal swyddfa ar y cei hyd o leiaf 1918, ac erbyn hynny roedd Chwarel Tal-y-sarn yn dod at ddiwedd ei oes, a’r cwmni gydag ef. .[4]

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llanrwst, 2007), t.73
  2. Gwefan Caernarfon Traders, [1], cyrchwyd 17.11.2022
  3. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), tt.1-9. Mae copi o'r prosbectws ar we, ac mae'n rhoi llawer o fanylion am y chwarel ym 1859:[2]. Y rheswm, mae’n debyg fod y prosbectws yn cael ei gyhoeddi yn y fath lyfr fel hysbyseb, oedd y ffaith mai Thomas Farries oedd archwiliwr Cwmni Llechi Talysarn ar y pryd.
  4. Dewi Tomos, Chwareli Dyffryn Nantlle (Llanrwst, 2007), t.73