Cwm Coryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio
Capel Cwm Coryn

Mae Cwm Coryn yn un o gymoedd mwyaf diarffordd Uwchgwyrfai. Mae'r ffordd o ganol pentref Llanaelhaearn i fyny'r cwm heb arwain i'r un lle y tu draw i'r cwm ac felly ychydig sydd yn ei thramwyo. Rhed y cwm ar hyd ochr ddeheuol Gurn Ddu a Moel Bronmiod. Prif ffermydd y cwm yw Penllechog, Llethr Ddu, Fferm Cwm Coryn, Cae'r Wrach a Bronmiod. Bu capel yn y cwm, tua milltir o'r pentref, i wasanaethu'r ychydig ffermydd sydd yno.[1]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ei datblygu.

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Map Ordnans