Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Cwellyn yw enw plasty bach sydd sefyll wrth ben uchaf Llyn Cwellyn. Mae'r llyn, ac hefyd Pont Cwellyn ac Afon Cwellyn yn cymryd eu henwau, mae'n debyg, oddi wrth y plasty sydd bellach yn fferm. Mae Cwellyn yn sefyll yn y darn pellaf o hen blwyf Llanwnda, sydd bellach yn rhan o blwyf Betws Garmon ar gyrion mwyaf dwyreiniol Uwchgwyrfai.

Disgrifiwyd y plasty tua 1810 fel "a very mean building", a oedd wedi bod yn nwylo teulu Cwellyn ond a oedd, erbyn hynny, wedi pasio i berchnogion newydd.[1]

Roedd y teulu a oedd wedi mabwysiadu'r cyfenw Quellyn wedi symud o'r plasty rywbryd yn ystod y 18g, efallai i fferm arall, Cwm Bychan, yn yr un plwyf. Rywbryd cyn 1792, roedd ffermwr o'r enw William Jones wedi cymryd y lle ar brydles. Mae rhestr o'i eiuddo pan farwodd yn dangos ei fod yn ffermwr ar raddfa weddol fawr am y cyfnod[2]. Roedd 5 ystafell yn y tŷ, a'r dodrefn yno'n werth £21.19.0c, ynghyd a gwerth £4.5.0c o fenyn. Roedd yno 100 o ddefaid a 35 o ŵyn, gwerth £36.2.6c i gyd; tarw gwerth £4.3.0c, 10 o fuchod, 10 o fustych, 10 llo blwydd a 9 o loi dwyflwydd, gwerth £108.9.0c; mocyn, gwair, offer fferm a llo arall (a restrwyd ar wahân am ryw rheswm - eiddo oedd yn werth £208.9.0c i gyd. Roedd hyn yn swm nid ansylweddol i ffarmwr ar y pryd.

Mae J.E. Griffith wedi awgrymu, ar ba sail na wyddys, mae ystyr Cwellyn yw Cae-uwch-llyn[3], ond mae Glenda Carr o'r un farn a'r Athro J Lloyd-Jones ei fod yn dalfyriad o'r geiriau cawell a llyn i greu Cawellyn.[4]

Cymerodd y teulu eu cyfenw oddi wrth y lle - un o'r ychydig deuluoedd yn Uwchgwyrfai i wneud hyn (ar wahân i teulu Glynllifon).


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Edmund Hyde-Hall, ‘’A Description of Caernarvonshire’’, (Caernarfon, 1952), t.205.
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor, B/1792/86
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.229
  4. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Caernarfon, 2011), t.130.