Crwydro Arfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search

Mae Crwydro Arfon yn llyfr gan Alun Llywelyn-Williams yn "Cyfres Crwydro Cymru" a gyhoeddwyd gan gwmni Llyfrau'r Dryw yn ystod y 1950au a'r 1960au, gydag un neu fwy o gyfrolau'n ymwneud â phob sir. Cyhoeddwyd Crwydro Arfon ym 1959, ac mae'n delio â dwyrain Sir Gaernarfon; cyhoeddwyd cyfrol ar wahân, sef Crwydro Llŷn ac Eifionydd gan Gruffudd Parry ym 1960. Er bod pennod gyfan yn llyfr Crwydro Arfon am Uwchgwyrfai, nid ydyw'n ymdrin â phlwyf Llanaelhaearn na phentref Trefor, sydd yn cael sylw gan Gruffudd Parry.[1]

Dyma'r llyfrau cyntaf yn yr oes fodern i roi sylw gweddol fanwl i agweddau ar hanes, llên a daearyddiaeth rhannau o'r wlad, ac er nad yw'r ddwy gyfrol am Sir Gaernarfon mor fanwl â'r cyfrolau manwl a gwych gan Ffransis Payne ar Sir Faesyfed, er enghraifft (ag ystyried cyfoeth y deunydd posibl) maent yn well o dipyn na chyfrolau cyntaf y gyfres, a ysgrifennwyd gan T.I. Ellis. Ysgrifennwyd y llyfrau yn null (ond nid arddull) teithlyfrau hen ffasiwn, yn disgrifio taith (ddychmygol mae'n debyg) o gwmpas ardal, a hynny mewn modd darllenadwy a diddorol, heb ymgais i fod yn or-gynhwysol.

Digon hawdd yw dod o hyd i gopïau o'r gyfres, a hynny am bris rhesymol mewn siopau ail-law, er nad ydynt wedi cael eu hailargraffu ers y 1970au. Wedi dyddiau'r gyfres "Crwydro Cymru" daeth Cyfres Broydd Cymru o'r 1990au ymlaen, a oedd yn tueddu i gael eu cyhoeddi i gyfateb i fro'r Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno. Ceir mwy o ffeithiau yn y rhain, er efallai eu bod yn fwy pytiog - i weddu ag arferion darllen yr oes o bosib. Dylid nodi, fodd bynnag, fod Guto Roberts yn ei gyfrol yn y gyfres, sef Eifionydd, yn arddel barn y rhai sy'n cynnwys darn uchaf plwyf Clynnog Fawr fel rhan o Eifionydd.[2] Fe'u cyhoeddwyd gan Wasg Carreg Gwalch mewn cloriau meddal.


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Alun Llywelyn-Williams, Crwydro Arfon, (Llandybïe, 1959); Gruffudd Parry, Crwydro Llŷn ac Eifionydd, (Llandybïe, 1960)
  2. Guto Roberts, Eifionydd, (Llanrwst, 1998)