Collfryn Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i: llywio, chwilio

Mae Collfryn Mawr yn enw ar fferm a phlasty bach ym mhlwyf Llandwrog ger dreflan Tŷ'nlôn. Yn wir, codwyd tai Tŷnlôn a'r capel Wesla sydd yn y pentref ar dir a fu'n wreiddiol rhannau o gaeau Collfryn Mawr.

Lewis Jones o Dŷ Gwyn yn y Collfryn yw'r cyntaf y mae gennym gofnod ohono, ym 1721. Nid yw'n glir ai dyna oedd y prif dŷ ar yr ystad i ddechrau, gan fod Lewis Jones yn ei disgrifio ei hun fel 'gwr bonheddig' neugent. Erbyn 1760, John Parry oedd y perchennog, eto'n ŵr bonheddig, a rhestrir Tŷ Gwyn yn y Collfryn fel ran o'r eiddo mwy oedd ganddo. Mae Collfryn (fel y'i gelwir heddiw) ychydig i'r Gogledd-ddwyrain o Tŷ Gwyn. Dichon felly fod Collfryn Mawr wedi ei godi am y tro cyntaf rywbryd o gwmpas canol y 18g. Datblygodd teulu Collfrynmawr yn dirfeddianwyr ar raddfa fach, a bu'r teulu, o'r cyfenw Parry (gyda John a Solomon yn enwau bedydd bob yn ail dros sawl genhedlaeth) yn berchen ar y tiroedd am dros ddau gan mlynedd. O ddechrau'r 19g, fodd bynnag, codwyd cymaint â £500 trwy ddefnyddio'r ystad fel gwarant, gan ei forgeisio a thalu llog.

Mae morgais o 1848 yn enwi eiddo'r ystad fel a ganlyn: Collfryn Mawr, Tŷ rhwng y ddwy ffos, Cae garw ucha, Y werglodd, Rhwng ddwy ffos, Cae llwm y ddol, Tany tŷ, Cae bryn, March y werglodd, Y Cerrig llwydion, Y ddôl, Cae'r garreg, Cae'r dinasad and Cae wrth ben yr ysgubor; a Tŷ gwyn yn y Collfryn, Cae yn , Tyddyn y gorsedd, Pwll y ffynnon a Caenesa i'r ffordd fawr. Roedd yr ystad i gyd yn cynnwys dros 100 acer.

Ym 1873, prynwyd yr ystad gan yr Arglwydd Newborough i'w hychwanegu at Ystad Glynllifon.[1]

Mae'n debyg i'r enw Mount Hazel, sydd yn gyfieithiad honedig o Collfryn, fod yn greadigaeth y 18g, gan mai'r hen enw, mae'n debyg, oedd Collfryn Bach. Roedd yn ystâd hollol ar wahân i Gollfryn Mawr, a bu'r tŷ a pheth o eiddo'r ystâd yn nwylo teulu Glynllifon o 1882 ymlaen.[2]

Eginyn.png Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau[golygu]

  1. Seiliwyd yr erthygl wreiddiol ar ddogfennau yn Archifdy Caernarfon, XD2/7459-7500.
  2. Archifdy Caearnarfon, XPoole/3321; XD2/8572