Cofgolofn Ioan Arfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Jump to navigation Jump to search
Cofgolofn Ioan Arfon

Wrth deithio ar hyd yr hen lôn bost rhwng Dolydd a’r Groeslon mae mynwent anenwadol ardal Llandwrog i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn'rodyn gyferbyn â safle'r capel o’r un enw, sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yma mae cofgolofn amlwg i'w gweld ym mlaen y fynwent, sef yr un ar fedd John Owen Griffith (1828-1881). Ei enw barddol oedd Ioan Arfon.[1]

Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr, yn fab i chwarelwr, ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo briodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a chyda’i wraig, Ann, agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, y bardd a'r cyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).[2]

Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan lenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Orsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a rhoddai gyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.[3]

Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd ddiddordeb mewn Daeareg, yn deillio o’i ddyddiau'n gweithio yn y chwareli, a chyhoeddodd draethawd ar y pwnc. Hefyd, cyfrannodd at amryw fudiadau dyngarol, gan gynnwys gweithredu fel aelod o bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874.[4]

Bu farw'n gymharol ifanc, ddeuddydd yn unig ar ôl ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un a gyfrannodd gymaint i’w fro a’i genedl. Cofnodir mai swm y tanysgrifiadau a dderbyniwyd oedd £86 14 swllt a 5 ceiniog (cyfwerth â dros £11,000 yn 2022). Talwyd £84 am y gofgolofn a wnaed gan Gwmni Hugh Jones o Gaernarfon ac fe'i dadorchuddiwyd mewn seremoni arbennig ar 15fed Rhagfyr 1883.[5]

Mae darn isaf y golofn wedi ei wneud ag ithfaen Môn, a'r gweddill o farmor Eidalaidd. Ar y darn uchaf ohoni – yr obelisg - mae nod cyfrin Gorsedd y Beirdd ac wedi ei gerfio oddi tano mae'r geiriau, ‘Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl’. Mae cof-lun (medaliwn) o'r bardd uwchben y geiriau:- "Er cof am John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu farw Tachwedd 22ain, 1881, yn 53 mlwydd oed."

O dan yr uchod y mae cerdd o waith Richard Davies (Tafolog)[6]:

 Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod"
 'Roes edmygedd, uwch du fedd, yn dafod
 I ddywed i seraph o fardd disorod,
 A beirniad, dewi obry'n y tywod
 Wladgar Ioan, glân ei glod, - eu dagrau
 Gysegra oesau i'w gwsg oer isod.

Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun:

 Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail
 A gwywo'r un amser a'r rhosyn;
 Nid oes i fy nheimlad un adeg yn ail
 I ddirwyn yr einioes i derfyn.

Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)[7], nad oedd yn perthyn i’r bardd, ac a oedd yn gweithredu fel Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ar y pryd. Wrth ddadorchuddio'r gofgolofn nododd yr Archdderwydd; "Colled anadferadwy oedd colli Ioan Arfon i'w deulu. Yr oedd yn ŵr ffyddlawn, gofalus, a charuaidd, yn dad hynaws a thosturiol. Mewn cymdeithas, yr oedd yn aelod cymwynasgar, mynwesol, a charedig: colled i'r Eisteddfodau, colled i'n llenoriaeth, ac yn neillduol i dref enwog Caernarfon, ac i Gymru benbaladr;..."

Cyfeiriadau[golygu]

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein [1]
  2. Y Bywgraffiadur Ar-lein [2]
  3. Y Genedl Gymreig, 1 Rhagfyr 1881 [3]
  4. Erthygl Wicipedia ar yr Undeb, [4]
  5. Y Genedl Gymreig 19 Rhagfyr 1883, t.7
  6. Y Bywgraffiadur Ar-lein [5]
  7. Y Bywgraffiadur Ar-lein [6]